Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y rheolau ar gyfer trwyddedau gyrru bysiau a lorïau yn newid o 19 Ionawr 2013. Bydd trwyddedau a gyhoeddir o'r dyddiad hwn yn ddilys am bum mlynedd, hyd at 65 oed. Mynnwch wybod sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch.
Os byddwch yn pasio eich prawf gyrru yng nghategorïau C, CE, C1, C1E, D, DE, D1 neu D1E, ar ôl 19 Ionawr 2013 byddwch yn cael trwydded sy'n ddilys am bum mlynedd.
Bob pum mlynedd hyd at 45 oed, bydd angen i chi lofnodi datganiad i gadarnhau eich bod yn cyrraedd y safonau meddygol o hyd.
Ar ôl 45 oed, bydd angen i chi ddarparu adroddiad archwiliad meddygol bob pum mlynedd er mwyn adnewyddu eich hawl i yrru.
Gyrwyr o dan 45 oed
Os gwnaethoch basio prawf gyrru yn un o'r categorïau isod, bydd y rheolau newydd yn gymwys i chi pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded yrru.
Y categorïau dan sylw yw C, CE, C1, C1E, D, DE, D1 neu D1E.
Pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded, byddwch yn cael trwydded sy'n ddilys am bum mlynedd. Bob tro y byddwch yn ei hadnewyddu, bydd angen i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) gadarnhau eich bod yn cyrraedd y safonau meddygol o hyd.
Os byddwch yn gwneud cais i adnewyddu eich trwydded am ei bod ar goll/wedi'i dwyn, neu am fod eich manylion personol wedi newid, bydd eich trwydded newydd yn ddilys hyd at ddiwedd eich cyfnod gwreiddiol. Fodd bynnag, os byddwch yn diweddaru eich llun ar yr un pryd, bydd y rheol pum mlynedd newydd yn gymwys i chi.
Gyrwyr sy'n hŷn na 45 oed
Bydd gyrwyr sy'n hŷn na 45 oed yn parhau i adnewyddu eu hawl fel ag y maent yn ei wneud nawr.
Pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded ar ddiwedd cyfnod pum mlynedd, byddwch yn adnewyddu eich hawl i yrru. Bydd angen i chi ddarparu adroddiad archwiliad meddygol.
Esboniad o ddyddiadau dod i ben
Dangosir y dyddiad y bydd eich trwydded yn dod i ben ar flaen y cerdyn yn adran 4b. Dangosir y dyddiad y bydd eich hawl yn dod i ben ar gefn y cerdyn.
Bydd angen i chi roi gwybod i DVLA o hyd os byddwch yn dioddef o gyflwr meddygol ar unrhyw adeg a allai eich atal rhag gyrru. Peidiwch ag aros nes y byddwch yn adnewyddu eich trwydded i wneud hyn.