Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd rheolau newydd ar gyfer trwyddedau i yrru beiciau modur a mopedau'n dod i rym ar 19 Ionawr 2013. Bydd y rheolau newydd yn effeithio arnoch os byddwch yn pasio'ch prawf ar ôl y dyddiad hwn, neu os byddwch yn gwneud cais i adnewyddu eich trwydded yrru neu gael un newydd. Mynnwch wybod sut y gallai'r newidiadau hyn effeithio arnoch.
Ni fydd hyn yn effeithio ar hawliau gyrru a gafwyd cyn 19 Ionawr 2013
Os oes eisoes gennych hawl i ddefnyddio moped - ni fyddwch yn ei cholli. Ar hyn o bryd, nodir eich hawl ar eich trwydded yrru fel categori P, sy'n caniatáu i chi ddefnyddio moped y mae'r canlynol yn gymwys iddo:
O 19 Ionawr 2013, bydd rheolau Ewropeaidd newydd yn gymwys. Ni fyddwch yn colli eich hawl, ond caiff ei nodi mewn ffordd wahanol ar unrhyw drwydded yrru a anfonir atoch o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Caiff eich hawl ei nodi fel a ganlyn:
Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth - mae'r hawl sydd gennych eisoes yn ddilys o hyd.
Os oes eisoes gennych hawl i ddefnyddio beic modur, ni fydd yn newid o dan y rheolau newydd. Fodd bynnag, os ydych am ddefnyddio beiciau mwy o faint, bydd angen i chi ddilyn y rheolau ar gyfer gyrwyr newydd isod.
Ar hyn o bryd, nodir eich hawl i ddefnyddio treisiclau ar eich trwydded fel categori B1 (treisiclau a beiciau pedair olwyn) neu B (ceir). Pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded yrru, neu'n cael un newydd, ar ôl 19 Ionawr 2013, caiff ei nodi fel B1 ac A (treisiclau yn unig).
O 19 Ionawr 2013, bydd y rheolau newydd canlynol yn gymwys.
Pasio eich prawf gyrru ar gyfer moped ar ôl 19 Ionawr 2013
Yr isafswm oedran ar gyfer defnyddio'r cerbydau hyn fydd 16 oed o hyd, a bydd angen i chi basio'r profion canlynol o hyd:
Unwaith y byddwch wedi pasio eich profion, nodir eich hawl ar eich trwydded yrru fel a ganlyn:
Os byddwch yn pasio eich prawf car yn gyntaf, byddwch yn cael yr hawl i ddefnyddio mopedau hefyd. Fodd bynnag, bydd angen i chi basio eich CBT er mwyn eu defnyddio ar y ffyrdd (yn yr un modd â'r drefn bresennol). Nodir eich hawl i ddefnyddio mopedau fel yr uchod (categorïau AM a Q).
Mae categori A1 yn cwmpasu beiciau bach y mae'r canlynol yn gymwys iddynt:
Yr isafswm oedran ar gyfer categori A1 fydd 17 oed o hyd.
Bydd yn rhaid i chi basio'r prawf theori a'r prawf gyrru ymarferol er mwyn gael yr hawl hon.
Mae categori A2 yn cwmpasu beiciau maint canolig, gyda cherbyd ochr neu heb gerbyd ochr, y mae'r canlynol yn gymwys iddynt:
Yr isafswm oedran ar gyfer categori A2 fydd 19 oed.
Mae dwy ffordd o gael yr hawl hon.
Mynediad uniongyrchol
Os ydych yn 19 oed neu'n hŷn, gallwch sefyll prawf theori a phrawf ymarferol.
Mynediad fesul cam
Os ydych yn 19 oed neu'n hŷn a bod gennych dwy flynedd o brofiad ar feic modur A1, dim ond prawf ymarferol pellach y bydd angen i chi ei sefyll.
Mae categori A yn cwmpasu peiriannau heb gyfyngiad o ran maint na phŵer, gyda cherbyd ochr neu heb gerbyd ochr, a threisiclau modur ag allbwn pŵer sy'n fwy na 15kW. Mae dwy ffordd o gael yr hawl hon.
Mynediad uniongyrchol
Os nad oes gennych ddwy flynedd o brofiad, bydd rhaid i chi fod yn 24 oed neu'n hŷn. Bydd yn rhaid i chi basio'r prawf theori a'r prawf ymarferol hefyd.
Mynediad fesul cam
Gallwch gael y categori hwn pan fyddwch yn 21 oed os oes gennych ddwy flynedd o brofiad ar feic modur A2 a'ch bod yn sefyll y prawf ymarferol.
Bydd angen i chi ddilyn yr un rheolau os ydych am ddefnyddio treisicl sy'n perthyn i'r categorïau hyn.
Noder mai dim ond i bobl anabl y cynigir profion ar gyfer mopedau â thair neu bedair olwyn, treisiclau A1 a threisiclau A.