Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O 19 Ionawr 2013 bydd pob trwydded yrru a gyhoeddir gan DVLA mewn fformat newydd. Bydd trwyddedau yn yr hen fformat yn ddilys o hyd. Byddant yn cael eu diweddaru'n raddol wrth iddynt gael eu hadnewyddu neu pan fydd gyrwyr yn gwneud cais am drwydded newydd. Mynnwch wybod am y math newydd o drwydded yrru.
Bydd y cerdyn trwydded yrru newydd yn edrych yn wahanol i'r drwydded bresennol. Bydd yn dangos yr hawliau i yrru.
Blaen y drwydded yrru
Bydd blaen y cerdyn yn nodi eich cyfenw presennol, eich enwau cyntaf, eich dyddiad geni a'ch man geni.
Bydd yn cynnwys rhif eich trwydded a'r rhif cyhoeddi, dyddiad dechrau a therfyn eich trwydded a chopi electronig o'ch llun a'ch llofnod.
Bydd blaen y cerdyn yn dangos y cerbydau y mae gennych hawl i'w gyrru.
Os oes gennych drwydded lawn, dangosir eich hawl dros dro ar y rhan bapur.
Os oes gennych drwydded dros dro, dangosir eich hawl dros dro ar flaen eich cerdyn.
Bydd y drwydded yrru newydd yn defnyddio llun du a gwyn. Bydd angen darparu llun lliw gyda'ch cais o hyd, er mwyn ei gadw yn eich cofnod gyrru.
Cefn y drwydded yrru
Bydd cefn y cerdyn yn nodi'r categorïau ar gyfer y cerbydau y gall y deiliad eu gyrru a'r rhai na all eu gyrru. Bydd pob categori y gall y deiliad eu gyrru yn dangos dyddiad dechrau a dyddiad terfyn yr hawl. Rhoddir croes drwy gategorïau na all y deiliad eu gyrru.
Categorïau a phictogramau
Mae'r llythrennau bras a'r lluniau'n nodi pob un o'r categorïau cerbydau yn unol â'r Drydedd Gyfarwyddeb Ewropeaidd.
Os oes gennych drwydded yrru lawn bydd y rhan bapur yn cynnwys hawliau eich trwydded yrru dros dro, troseddau sy'n ymwneud â gyrru a gwybodaeth berthnasol arall.
Os oes gennych chi drwydded yrru dros dro bydd y rhan bapur yn cynnwys troseddau sy'n ymwneud â gyrru a gwybodaeth berthnasol arall gan y bydd hawliau eich trwydded yrru dros dro yn cael eu dangos ar eich cerdyn trwydded yrru.