Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd rheolau trwyddedau gyrru yn newid o 19 Ionawr 2013. Bydd llawer o reolau newydd ar gyfer beiciau modur, ceir sy'n tynnu ôl-gerbydau, bysiau a lorïau. Mynnwch wybod mwy am y newidiadau hyn a sut y gallent effeithio arnoch os ydych eisoes yn gyrru neu'n yrrwr newydd.
O dan y rheolau newydd ar gyfer mopedau, beiciau modur a threisiclau bydd pedwar categori:
Bydd eich hawl i yrru'r categorïau gwahanol yn dibynnu ar eich oedran a'ch profiad.I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
Rheolau ar gyfer mopedau a beiciau modur a ddefnyddir mewn profion beicio
Sicrhewch eich bod yn cadarnhau bod y moped neu'r beic modur rydych am ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf ymarferol yn bodloni'r rheolau.
O 19 Ionawr 2013, bydd cyfyngiadau newydd ar gyfer pobl sydd eisoes yn gyrru a gyrwyr newydd sydd am dynnu ôl-gerbyd.
I gael mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn, dilynwch y ddolen isod.
Bydd yr oedran y gallwch yrru cerbydau yn newid fel rhan o'r rheolau newydd. Bydd hyn yn effeithio ar yrwyr newydd, a phobl sydd eisoes yn gyrru ond sydd am yrru mathau newydd o gerbydau.
I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
Ar gyfer gyrwyr bysiau mini, bysiau a lorïau hefyd, bydd newidiadau i ba mor hir y bydd eu trwyddedau yn ddilys. Bydd hyn yn effeithio ar bobl sydd eisoes yn gyrru a gyrwyr newydd o 19 Ionawr 2013.
I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
Fel rhan o'r newidiadau i'r rheolau newydd ar gyfer gyrru, o 19 Ionawr 2013, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) hefyd yn defnyddio math newydd o drwydded yrru.