Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau newydd ar gyfer mopedau a beiciau modur a ddefnyddir mewn profion beicio

Bydd rheolau newydd ar gyfer y moped neu'r beic modur y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf beicio o 19 Ionawr 2013. Ni fyddwch yn cael defnyddio eich cerbyd yn eich prawf os nad yw'n bodloni'r rheolau hyn. Mynnwch wybod am y rheolau newydd.

Os byddwch yn sefyll eich prawf cyn 19 Ionawr 2013

Mae'r rheolau newydd yn yr erthygl hon ar gyfer pob prawf beicio ymarferol a gaiff ei sefyll o 19 Ionawr 2013.

Rhaid i chi ddilyn y rheolau presennol os byddwch yn sefyll eich prawf beicio cyn hynny. Gallwch ddarllen y rheolau hyn drwy glicio ar y ddolen isod

Rheolau ar gyfer profion beicio o 19 Ionawr 2013

Rheolau newydd

Mae'r rheolau newydd hyn ar gyfer y moped neu'r beic modur y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf beicio o 19 Ionawr 2013

Rhaid i'r canlynol fod yn wir am bob moped a beic modur a ddefnyddir mewn profion beicio o 19 Ionawr 2013:

  • mae ganddo sbidomedr sy'n mesur cyflymder fesul milltir yr awr (mya)
  • mae ganddo blatiau L (platiau 'L' neu 'D' yng Nghymru) wedi'u harddangos ar y blaen a'r cefn
  • mae'n addas i'w ddefnyddio ar y ffyrdd ac nid oes unrhyw oleuadau rhybudd yn ymwneud â'r injan yn dangos

Defnyddiwch yr un is-gategori ar gyfer y ddau fodiwl prawf

Rhaid i chi ddefnyddio cerbyd sy'n perthyn i'r un is-gategori ar gyfer dau fodiwl y prawf ymarferol.

Bydd is-gategori'r cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf yn effeithio ar yr is-gategorïau y gallwch eu defnyddio ar ôl pasio eich prawf.

Ceir rheolau gwahanol os byddwch yn pasio prawf modiwl 1 cyn 19 Ionawr 2013, ond bod angen i chi sefyll prawf modiwl 2 ar ôl y dyddiad hwnnw. Gweler yr adran 'Pasio prawf Modiwl 1 cyn 19 Ionawr 2013' isod.

Beiciau modur â thrawsyriant awtomatig neu led awtomatig

Os byddwch yn pasio eich prawf ar feic modur sydd â thrawsyriant awtomatig neu led awtomatig:

  • caiff ei gofnodi ar eich trwydded
  • cyfyngir eich hawliau trwydded llawn i feiciau modur yn y categori hwnnw

Darllenwch y rheolau

Os nad yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • efallai y byddwch yn colli eich ffi

Ni ellir defnyddio beiciau modur amgaeedig mewn profion

Ni ellir defnyddio beiciau modur amgaeedig, fel y BMW C1, mewn profion.

Os nad yw eich moped neu feic modur yn bodloni'r rheolau

Os nad yw eich moped neu feic modur yn bodloni'r rheolau:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • efallai y byddwch yn colli eich ffi

Pasio prawf Modiwl 1 cyn 19 Ionawr 2013

Eich trwydded

Cewch drwydded ar gyfer yr is-gategori a ddefnyddiwch ar gyfer modiwl 2

Efallai y bydd yn rhaid i chi sefyll eich prawf modiwl 2 ar feic modur o is-gategori is os byddwch yn pasio eich prawf modiwl 1 cyn 19 Ionawr 2013.

Cewch drwydded ar gyfer yr is-gategori o feic modur a ddefnyddiwch ar gyfer eich prawf modiwl 2 os byddwch yn pasio.

Mae'r tabl isod yn dangos pa is-gategori o feic modur y bydd angen i chi ei ddefnyddio ar gyfer modiwl 2. Bydd hyn yn dibynnu ar eich oedran a'r is-gategori y gwnaethoch ei ddefnyddio ar gyfer modiwl 1.

Eich oedran o 19 Ionawr 2013

Yr is-gategori a ddefnyddiwyd ar gyfer modiwl 1 cyn 19 Ionawr 2013

Yr is-gategori i'w ddefnyddio ar gyfer modiwl 2 cyn 19 Ionawr 2013

Unrhyw oedran

P

AM

17 oed neu drosodd

A1

A1

19 oed neu'n iau

A2

A1

21 oed neu drosodd

A2

A2

23 oed neu'n iau

A

A2

24 oed neu drosodd

A

A

AM (moped)

Rhaid i'r canlynol fod yn wir am bob moped unigol:

  • mae ganddo gapasiti o 50 centimetr ciwbig (cc) neu lai ac mae'n llai na 4 cilowat (kW)
  • nid yw'n gallu mynd yn gynt na 28 milltir yr awr (mya)

Caniateir i chi ddefnyddio unrhyw gerbyd sy'n perthyn i is-gategori AM ar gyfer eich prawf oni bai bod tystiolaeth glir nad yw'n bodloni'r rheolau hyn.

A1 (beic modur ysgafn)

Rhaid i'r canlynol fod yn wir am bob beic modur sy'n perthyn i is-gategori A1:

  • mae ganddo gapasiti rhwng 120cc a 125cc
  • nid yw pŵer yr injan yn fwy nag 11 cilowat (kW) - marchnerth brêc 14.6 (bhp)
  • gall gyrraedd cyflymder o 55mya o leiaf

Caniateir i chi ddefnyddio unrhyw gerbyd sy'n perthyn i is-gategori A1 rhwng 120cc a 125cc ar gyfer eich prawf oni bai bod tystiolaeth glir nad yw'n bodloni'r rheolau hyn.

A2 (beic modur safonol)

Beiciau modur A2 cyfyngedig

Rhaid i bŵer cyfyngedig unrhyw feic modur A2 fod o leiaf hanner y pŵer anghyfyngedig

Rhaid i'r canlynol fod yn wir am bob beic modur sy'n perthyn i is-gategori A2:

  • mae ganddo gapasiti o 395cc o leiaf
  • mae ganddo bŵer injan rhwng 25kW (33bhp) a 35kW (46.6 bhp)
  • nid yw ei gymhareb pŵer i bwysau yn fwy na 0.2kW fesul cilogram

Beiciau modur A2 cyfyngedig

Gellir cyfyngu ar bŵer rhai beiciau modur mawr er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion is-gategori A2. Dim ond mor bell â hanner pŵer gwreiddiol beic modur A2 y gellir cyfyngu ei bŵer.

Rhaid i chi allu dangos tystiolaeth o'r cyfyngiad i'r arholwr, a hynny ar bapur pennawd gan brif werthwr, mewnforiwr swyddogol neu arbenigwr cydnabyddedig. Rhaid iddi ddangos rhif cofrestru'r beic modur. Ni chaiff tystysgrif prawf dyno ei derbyn fel tystiolaeth.

Rhaid ei bod yn glir pa fodd pŵer a ddefnyddir gan unrhyw uned rheoli injan (ECU) switsiadwy neu ddyfais pŵer amrywiadwy. Os ydych yn defnyddio un o'r rhain, ni all eich beic modur gael y canlynol:

  • carbwreduron cyfnewidiadwy
  • cyfyngydd maniffold peipen fwg
  • ECU gudd

Newidiadau arfaethedig i reolau A2 o 31 Rhagfyr 2013

O 31 Rhagfyr 2013, cynigir y bydd y rheolau ar gyfer beiciau modur safonol is-gategori A2 yn newid eto. Dylai fod gan feiciau modur a ddefnyddir ar ôl y dyddiad hwnnw bŵer injan rhwng 20kW (27 bhp) a 35kW (46.6 bhp).

Ni fydd unrhyw reolau eraill yn newid.

Categori A (anghyfyngedig)

Beiciau modur y gellir eu cyfyngu

Os gellir cyfyngu ar bŵer y beic modur, rhaid ei bod yn glir pa fodd pŵer a ddefnyddir gan unrhyw ECU switsiadwy neu ddyfais pŵer amrywiadwy.

Rhaid i'r canlynol fod yn wir am bob beic modur anghyfyngedig sy'n perthyn i gategori A:

  • mae ganddo gapasiti o 595cc o leiaf
  • mae ganddo bŵer injan o 40kW (53.6bhp) o leiaf

Bydd DSA yn derbyn tystiolaeth gan weithgynhyrchwyr neu fewnforwyr swyddogol i ddangos bod model penodol o feic modur yn bodloni'r rheolau hyn.

Defnyddio beic modur y gellir cyfyngu ar ei bŵer

Os gellir cyfyngu ar bŵer y beic modur, rhaid ei bod yn glir pa fodd pŵer a ddefnyddir gan unrhyw ECU switsiadwy neu ddyfais pŵer amrywiadwy. Os ydych yn defnyddio un o'r rhain, ni all eich beic modur gael y canlynol:

  • carbwreduron cyfnewidiadwy
  • cyfyngydd maniffold peipen fwg
  • ECU gudd

Newidiadau arfaethedig i reolau categori A o 31 Rhagfyr 2013

O 31 Rhagfyr 2013, cynigir y bydd y rheolau ar gyfer beiciau modur anghyfyngedig sy'n perthyn i gategori A yn newid eto. Rhaid i'r canlynol fod yn wir am feic modur a ddefnyddir wedi hynny:

  • mae ganddo bŵer injan o 50kW (67 bhp) o leiaf
  • mae'n pwyso 180 kg o leiaf pan nad yw'n cludo nwyddau neu lwyth

Ni fydd unrhyw reolau eraill yn newid.

Beiciau modur â cherbyd ochr

Dim ond os oes gennych anableddau penodol y gallwch ddefnyddio beic modur â cherbyd ochr ar gyfer eich prawf.

Mae'r rheolau ychwanegol canlynol yn gymwys:

  • yn achos categorïau A ac A1, ni chaniateir i'r gymhareb pŵer i bwysau fod yn fwy na 0.16kW fesul cilogram
  • ni chaiff unrhyw un deithio yn y cerbyd ochr yn ystod y prawf

Dim ond beic modur â cherbyd ochr y gallwch ei ddefnyddio gyda'r drwydded a gewch ar ôl pasio'r prawf hwn.

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU