Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Egluro’r prawf beic modur ymarferol

Mae’r prawf beic modur ymarferol wedi’i rannu'n ddau fodiwl ar wahân – y modiwl oddi ar y ffordd a’r modiwl ar y ffordd. Er mwyn cael trwydded beic modur llawn, mae angen i chi basio’r ddau fodiwl. Yma cewch wybod beth sy’n digwydd yn ystod dau fodiwl y prawf.

Trefnu a sefyll eich profion gyrru

Gair i gall

Gadewch ddigon o amser rhwng y ddau fodiwl er mwyn osgoi colli’r ffi ar gyfer modiwl dau

Gallwch drefnu’r ddau fodiwl yr un pryd. Ond, bydd rhaid i chi basio modiwl un cyn y cewch roi cynnig ar fodiwl dau.

Os na fyddwch chi'n pasio modiwl un, bydd rhaid i chi aros tri diwrnod gwaith llawn cyn y cewch roi cynnig arall ar y modiwl.

Beth i'w wneud os ydych am ganslo modiwl dau

Os ydych chi am ganslo prawf modiwl dau, bydd rhaid i chi roi tri diwrnod gwaith llawn o rybudd i’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA). Os na wnewch chi, byddwch yn colli eich ffi ar gyfer prawf modiwl dau. Dylech adael digon o amser rhwng y ddau fodiwl er mwyn osgoi colli’r ffi ar gyfer modiwl dau.

Os na fyddwch chi'n pasio modiwl dau, bydd rhaid i chi aros deg diwrnod gwaith llawn cyn y cewch roi cynnig arall ar y modiwl.

I gael gwybod sut mae trefnu a rheoli’ch apwyntiadau a ble y gallwch roi cynnig ar ddau fodiwl y prawf, cliciwch y ddolen isod.

Paratoi ar gyfer dau fodiwl eich prawf gyrru

Bydd angen i chi ddod â dogfennau penodol gyda chi ynghyd â beic modur neu foped addas. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth fydd angen i chi ddod gyda chi drwy glicio’r dolenni isod.

Eich dillad

Os nad ydych chi’n gwisgo’r dillad priodol:

  • efallai na fydd eich prawf yn cael ei gynnal
  • fe allech chi golli’ch ffi

Gwisgo'r dillad priodol ar gyfer eich prawf

Siaradwch â'ch hyfforddwr ynghylch dewis y dillad gorau y gallwch chi eu fforddio. Mae’n bwysig eich bod yn gwisgo’r dillad priodol bob amser:

  • yn ystod eich hyfforddiant
  • wrth sefyll eich profion
  • ar ôl pasio'ch prawf

Os byddwch chi’n cyrraedd eich prawf ac nid ydych yn gwisgo’r dillad priodol:

  • efallai na fydd eich prawf yn cael ei gynnal
  • fe allech chi golli’ch ffi

Modiwl un: manwfro oddi ar y ffordd

Gwylio fideo ynghylch y prawf beic modur

Y modiwl oddi ar y ffordd yw modiwl un. Mae’n cymryd tua 20 munud fel arfer.

Beth sy’n digwydd yn ystod modiwl un

Mae modiwl un yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol o fanwfro:

  • gwthio’r moped neu’r beic modur a defnyddio’r stand
  • gwneud siâp slalom a siâp rhif wyth
  • gyrru’n araf iawn (slow ride)
  • tro pedol
  • troi cornel a stopio dan reolaeth
  • troi cornel a stopio mewn argyfwng
  • troi cornel ac osgoi perygl

Ceir cyfyngiad cyflymder isaf o 32 milltir yr awr (50 cilomedr yr awr) ar gyfer yr ymarferion osgoi peryglon a stopio mewn argyfwng. Does dim cyfyngiad cyflymder isaf ar gyfer yr ymarfer troi cornel a stopio dan reolaeth cyntaf.

Ardal manwfro beiciau modur

Cynhelir modiwl un mewn ardal ddiogel oddi ar y ffordd, a elwir yn ardal manwfro beiciau modur. Bydd cynllun yr ardal yn amrywio, gan ddibynnu ar ble rydych yn sefyll eich prawf. Drwy ddilyn y dolenni isod, gallwch lwytho diagramau sy’n dangos y gwahanol gynlluniau.

Ar ddiwedd modiwl un

Ar ddiwedd modiwl un, bydd yr arholwr yn dweud wrthych beth yw’r canlyniad ac yn rhoi adborth i chi. Os byddwch chi’n pasio, byddwch yn cael tystysgrif pasio modiwl un.

Modiwl dau: gyrru ar y ffordd

Y modiwl ar y ffordd yw modiwl dau, ac mae'n cymryd tua 40 munud fel arfer.

Bydd rhaid i chi ddod â thystysgrif pasio modiwl un gyda chi i brawf modiwl dau, ynghyd â’r holl ddogfennau y bu’n rhaid i chi eu dangos ym mhrawf modiwl un.

Dewch â'ch dogfennau gyda chi

Os na ddewch chi â’r dogfennau cywir gyda chi:

  • mae’n bosib na chewch sefyll eich prawf
  • mae’n bosib y byddwch yn colli eich ffi

Beth sy’n digwydd yn ystod modiwl dau

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys:

  • prawf golwg
  • cwestiynau am ddiogelwch a chydbwysedd
  • yr elfen gyrru ar y ffordd
  • adran gyrru’n annibynnol

Y prawf golwg

Bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen y plât rhif ar gerbyd sydd wedi parcio er mwyn profi eich golwg. Os byddwch yn methu’r prawf hwn, ni fydd eich prawf gyrru’n parhau.

Cwestiynau am ddiogelwch a chydbwysedd y cerbyd

Drwy glicio'r ddolen isod, gallwch lwytho rhestr o’r holl gwestiynau diogelwch a chydbwysedd y gallai'r arholwr eu gofyn i chi.

Yr elfen gyrru ar y ffordd

Byddwch yn gyrru mewn amrywiaeth o amodau ffordd a thraffig. Gofynnir i chi wneud y canlynol:

  • stopio’n arferol
  • cychwyn ar ongl (cychwyn o’r tu ôl i gerbyd sydd wedi parcio)
  • cychwyn ar allt (lle bo’n bosib)

Bydd yr arholwr yn defnyddio radio i roi cyfarwyddiadau i chi. Fel arfer, bydd yn eich dilyn ar feic modur.

Adran gyrru’n annibynnol y prawf gyrru

Bydd eich prawf gyrru’n cynnwys tua deg munud o yrru’n annibynnol. Pwrpas hyn yw asesu eich gallu i yrru’n ddiogel wrth wneud penderfyniadau’n annibynnol.

Ar ddiwedd modiwl dau

Ar ddiwedd modiwl dau, bydd yr arholwr yn dweud wrthych beth yw’r canlyniad ac yn rhoi adborth i chi. Os byddwch chi’n pasio, bydd yr arholwr yn egluro i chi sut mae cyfnewid eich trwydded dros dro am drwydded lawn.

Canlyniad eich prawf gyrru

Ar ddiwedd pob modiwl, bydd yr arholwr yn dweud wrthych a ydych wedi pasio ynteu fethu.

Y gwahanol fathau o gamgymeriadau y gellir eu nodi

Bydd tri math gwahanol o gamgymeriad yn cael eu nodi:

  • camgymeriad peryglus – pan fyddwch yn rhoi eich hun, yr arholwr, y cyhoedd neu eiddo mewn perygl
  • camgymeriad difrifol – pan fyddwch yn gwneud rhywbeth a allai fod yn beryglus
  • camgymeriad gyrru – nid yw hwn yn gamgymeriad a allai fod yn beryglus, ond gallai fod yn gamgymeriad difrifol os byddwch chi’n gwneud yr un camgymeriad drwy gydol eich prawf

Y marc pasio ar gyfer modiwl un

Gallwch wneud hyd at bump o gamgymeriadau gyrru, a byddwch yn dal i basio modiwl un. Os gwnewch chi chwech neu ragor o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio’r modiwl.

Os gwnewch chi un camgymeriad difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio modiwl un.

Y marc pasio ar gyfer modiwl dau

Gallwch wneud hyd at ddeg o gamgymeriadau gyrru, a byddwch yn dal i basio modiwl dau. Os gwnewch chi 11 neu ragor o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio’r modiwl.

Os gwnewch chi un camgymeriad difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio modiwl dau.

Pan mae profion gyrru yn cael eu canslo

Weithiau mae’n rhaid i’r Asiantaeth Safonau Gyrru ganslo profion gyrru oherwydd pethau fel tywydd garw neu broblemau gyda’r cerbyd. Cael gwybod beth sy’n digwydd os yw’ch prawf yn cael ei ganslo, a beth sydd angen i chi wneud pan fydd tywydd garw.

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU