Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllunio a chofnodi sut rydych chi’n mynd ati i ddysgu gyrru

Mae ymchwil yn dangos bod gyrwyr sydd wedi cael cyfuniad o hyfforddiant proffesiynol ac ymarfer preifat yn gwneud yn well mewn y prawf gyrru. Mae’r rheini sy’n pasio’u prawf gyrru, ar gyfartaledd, wedi cael oddeutu 47 awr o hyfforddiant proffesiynol a 20 awr o ymarfer preifat. Cewch wybod yma sut i ddefnyddio cofnod y gyrrwr i gynllunio’ch dysgu.

Cofnod y gyrrwr

Mae cofnod y gyrrwr yn ffordd o’ch helpu chi a’ch hyfforddwr gyrru i wneud y canlynol:

  • nodi meysydd lle mae angen i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth
  • cadw cofnod o’ch cynnydd wrth i chi ddysgu gyrru

Mae’n cynnwys:

  • rhestr o 24 sgil allweddol y gellir gofyn i chi eu dangos yn y prawf gyrru ymarferol
  • lle i’ch hyfforddwr gofnodi eich cynnydd drwy’r pum lefel a geir yn y cofnod

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • dysgu’r sgil ac yna ymarfer er mwyn cael profiad
  • dysgu a datblygu’r theori a’r gyrru ymarferol ar yr un pryd

Beth yw'r pum lefel?

Dyma beth mae pob lefel yn ei olygu:

  • lefel un – caiff y sgil ei gyflwyno
  • lefel dau – gallwch ei gyflawni gyda chyfarwyddyd llawn
  • lefel tri – gallwch ei gyflawni'n gywir pan fyddwch yn cael eich cymell
  • lefel pedwar – nid oes angen i chi gael eich cymell prin ddim
  • lefel pump – gallwch ei gyflawni drwy’r amser heb gael eich cymell

Dylai eich hyfforddwr roi ei lofnod a chofnodi’r dyddiad wrth lefelau un i bedwar, a dylai ychwanegu'r manylion llawn pan fyddwch yn cyrraedd lefel pump.

Bydd cofnod y gyrrwr yn eich atgoffa o'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni, sut mae gwneud hynny ac i ba raddau rydych chi'n llwyddo.

Ymarfer eich sgiliau gyrru

Mae’n bwysig eich bod yn ymarfer yr hyn rydych yn ei ddysgu yn ystod eich gwersi. Trafodwch gyda'ch hyfforddwr a'r sawl a fydd yn eich helpu i ymarfer, er mwyn penderfynu beth mae angen i chi ei wneud.

Ceisiwch ymarfer:

  • ar gynifer o wahanol ffyrdd ag y bo modd
  • mewn pob math o draffig a thywydd, hyd yn oed wedi iddi dywyllu
  • ar ffyrdd deuol lle mae'r uchafswm cyflymder cenedlaethol yn berthnasol – efallai y bydd gofyn i chi yrru ar ffyrdd fel hyn yn ystod eich prawf

Dylech gadw cofnod o unrhyw ymarfer a wnewch rhwng gwersi ar wahanol ffyrdd ac yn ystod gwahanol dywydd. Bydd hyn yn eich helpu i gofio faint rydych chi wedi’i ymarfer mewn gwahanol dywydd.

Dylech chi hefyd gofnodi unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â gyrru ac yna'u trafod gyda'ch hyfforddwr.

Pryd i sefyll eich prawf ymarferol

Ni fyddwch chi'n barod i sefyll eich prawf nes byddwch wedi cael llofnod yn y blychau lefel pump. Erbyn hyn, dylech fod yn gallu gyrru'n ddiogel heb i'ch hyfforddwr neu'r person sy'n eich helpu i ymarfer eich cyfarwyddo.

Mynd â rhywun gyda chi ar eich prawf gyrru

Gwylio fideo ynglŷn â mynd â rhywun gyda chi

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn eich annog i fynd â rhywun gyda chi ar eich prawf gyrru, sef:

  • fel arfer, yr unigolyn sydd wedi eich dysgu i yrru
  • ond gallai fod yn berthynas neu’n ffrind
  • rhaid iddo fod yn hŷn nag 16 mlwydd oed
  • ni chaiff gymryd unrhyw ran yn y prawf
  • bydd yn gallu gweld sut byddwch chi’n perfformio yn ystod y prawf

I gael y budd gorau o hyn, gofynnwch i’ch hyfforddwr fynd gyda chi. Gall roi cyngor i chi am sut i wella eich sgiliau gyrru – p’un ai pasio ynteu fethu'r prawf fyddwch chi.

Os hoffech fynd â rhywun gyda chi, cofiwch drafod y peth â'r unigolyn hwnnw pan fyddwch chi'n paratoi ar gyfer eich prawf.

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU