Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis hyfforddwr gyrru car neu feic modur

Os ydych chi'n talu rhywun i’ch dysgu i yrru, mae’n rhaid ei fod wedi cael ei gymeradwyo ac wedi cofrestru gyda'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA). Yma cewch wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o ddod o hyd i hyfforddwr gyrru a dewis un.

Sut mae dod o hyd i hyfforddwyr gyrru cymeradwy

Nid yw DSA yn argymell hyfforddwyr unigol. I ddod o hyd i hyfforddwr gyrru ac i ddewis un, gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio’r adnodd ‘dod o hyd i'ch hyfforddwyr gyrru agosaf’ ar wefan Cross & Stitch i ddod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru cymeradwy agosaf sydd wedi cymhwyso'n llawn
  • gofyn i’ch ffrindiau a'ch perthnasau argymell rhywun
  • chwilio ar-lein neu mewn cyfeiriadur busnesau lleol

Hyfforddwyr gyrru cymeradwy: gwybodaeth sylfaenol

Pam ddylech chi ddefnyddio Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy?

Mae naw o bob deg sy’n pasio eu prawf ymarferol ar eu hymgais gyntaf wedi cael eu dysgu gan hyfforddwr gyrru cymeradwy

Os ydych yn mynd i dalu rhywun i’ch dysgu chi i yrru, mae’n rhaid iddo fod yn hyfforddwr gyrru cymeradwy neu feddu ar drwydded hyfforddai.

Mae’n annhebygol y byddai gan unrhyw un ar wahân i Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy y profiad, yr wybodaeth a’r hyfforddiant i’ch dysgu chi’n iawn.

Mae naw o bob deg sy’n pasio eu prawf ymarferol ar eu hymgais gyntaf wedi cael eu dysgu gan hyfforddwr gyrru cymeradwy yn hytrach na chan ffrind neu berthynas.

Hyfforddwyr gyrru cymeradwy sydd wedi cymhwyso’n llawn a hyfforddeion

Dyma enghreifftiau o’r bathodynnau gwyrdd a phinc

Rhaid i hyfforddwyr gyrru cymeradwy sydd wedi cymhwyso’n llawn arddangos bathodyn gwyrdd ar ffenestr flaen y car pan fydd yn eich dysgu.

Rhoddir trwydded hyfforddeion i rai hyfforddwyr gyrru sydd dan hyfforddiant er mwyn iddynt gael profiad cyn eu prawf cymhwyso. Bydd rhaid iddynt arddangos bathodyn pinc ar y ffenestr flaen.

Os nad yw eich hyfforddwr gyrru yn arddangos bathodyn gwyrdd na bathodyn pinc ar ffenestr flaen y car, gofynnwch iddo ddangos y bathodyn i chi. Os na all ddangos y bathodyn i chi, dylech roi gwybod i DSA.

Os bydd angen i chi roi gwybod i DSA bod rhywun yn rhoi gwersi gyrru'n anghyfreithlon, darllenwch yr adran 'Sut mae rhoi gwybod bod rhywun yn rhoi gwersi gyrru'n anghyfreithlon'

Sut mae DSA yn cynnal ac yn gwirio safonau Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy

DSA sy’n gyfrifol am gynnal a gwirio safonau'r holl hyfforddwyr gyrru cymeradwy. I fod yn gymwys, mae'n rhaid eu bod:

  • wedi cofrestru gyda DSA
  • wedi cael canlyniad boddhaol mewn archwiliad cofnodion troseddol
  • wedi llwyddo mewn prawf theori ac ymarferol anoddach o lawer, ac wedi llwyddo mewn prawf sy’n mesur eu sgiliau hyfforddi
  • yn arddangos tystysgrif ADI ar ffenestr flaen y cerbyd hyfforddi
  • yn cynnal safon uchel wrth hyfforddi – mae DSA yn gwirio’r safon hon yn rheolaidd

Sut mae dewis eich hyfforddwr gyrru cymeradwy

Awgrym

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis hyfforddwr sy’n addas ar eich cyfer chi

Ar ôl dod o hyd i hyfforddwr, bydd angen i chi wneud yn siŵr ei fod yn hyfforddwr addas ar eich cyfer chi. Ceisiwch ddewis hyfforddwr sydd:

  • ag enw da
  • yn ddibynadwy a phrydlon
  • â char sy'n addas i chi

Gwirio safon hyfforddi eich Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy

Bydd DSA yn gwirio safon hyfforddi pob Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy yn rheolaidd. Yna bydd yr hyfforddwr yn cael gradd:

  • ‘4’ – boddhaol
  • ‘5’ – safon dda yn gyffredinol
  • ‘6’ – hon yw'r radd uchaf

I gael gwybod pa radd mae’ch hyfforddwr wedi’i chael, gallwch ofyn iddo ddangos ei adroddiad gradd diwethaf i chi.

Ar ôl dechrau cael gwersi gyrru

Awgrym

Mae’n bwysig eich bod yn cyd-dynnu’n dda â'r sawl sy’n eich dysgu i yrru

Dylech gael cyngor gan eich hyfforddwr am y canlynol:

  • pob agwedd ar yrru
  • pa lyfrau i’w darllen
  • pryd i sefyll eich prawf
  • sut i ymarfer

Os nad ydych yn hoffi eich hyfforddwr

Os nad ydych chi’n hoffi eich hyfforddwr ar ôl dechrau cael gwersi, gallwch bob amser ddod o hyd i hyfforddwr newydd. Mae’n bwysig eich bod yn cyd-dynnu’n dda â'r sawl sy’n eich dysgu i yrru. Mae gwahanol bobl yn hoffi gwahanol ffyrdd o ddysgu. Dylech geisio dod o hyd i rywun sy’n addas ar eich cyfer chi.

Os ydych am gwyno am eich hyfforddwr

Os ydych chi am gwyno am ddiffyg yn y gwasanaeth a gynigir gan eich hyfforddwr, cysylltwch â Safonau Masnach neu’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Sut mae cwyno am agwedd eich hyfforddwr

Os yw’ch cwyn yn ymwneud ag agwedd eich hyfforddwr, gallwch:

  • anfon e-bost at
adireg@dsa.gsi.gov.uk
  • anfon llythyr at: ADI Section, Yr Asiantaeth Safonau Gyrru / DSA, The Axis Building, 112 Upper Parliament Street, Nottingham, NG1 6LP

Bydd angen i chi gynnwys gymaint o wybodaeth â phosib yn eich cwyn.

Dewis hyfforddwr beic modur cymeradwy

Mae'n rhaid i bawb sy'n dysgu gyrru beiciau modur a mopedau gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn gyrru ar y ffordd.

Dim ond hyfforddwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan DSA sy'n cael dysgu ar gwrs CBT mewn corff hyfforddi cymeradwy. Rhaid i bob corff hyfforddi cymeradwy gael hyfforddwyr sydd wedi cwblhau asesiad deuddydd yn llwyddiannus, a chael safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo gan DSA ar gyfer hyfforddi oddi ar y ffordd.

Mae’n rhaid i hyfforddwyr CBT gario eu tystysgrif CBT gyda nhw pryd bynnag y byddant yn hyfforddi.

Sut mae rhoi gwybod bod rhywun yn rhoi gwersi gyrru’n anghyfreithlon

Rhoi gwybod

Os bydd rhywun yn cynnig gwersi neu hyfforddiant gyrru i chi am dâl a hwythau heb gymhwyso, dylech roi gwybod i DSA

Mae’n anghyfreithlon i berson roi gwersi neu hyfforddiant gyrru i chi am ffi os nad oes ganddo’r cymwysterau addas ac os nad yw wedi cofrestru gyda DSA.

Mae DSA:

  • yn ymchwilio i bob achos lle amheuir bod rhywun yn rhoi gwersi gyrru’n anghyfreithlon
  • yn gweithio’n agos gyda’r heddlu er mwyn mynd â throseddwyr posib i’r llys

Os bydd rhywun yn cynnig gwersi neu hyfforddiant i chi am dâl a hwythau heb gymhwyso, dylech roi gwybod i DSA drwy:

  • ffonio 0115 936 6051 (yn ystod oriau swyddfa)
  • anfon e-bost at:
integrity.team@dsa.gsi.gov.uk

Allweddumynediad llywodraeth y DU