Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT): sut mae ei ddilyn a phryd

Mae'n rhaid i bawb sy'n dysgu gyrru beiciau modur a mopedau gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn gyrru ar y ffordd. Yma, cewch wybod sut mae dilyn y cwrs, a’r rheolau sy’n berthnasol ar ôl i chi ei gyflawni.

Pryd dylech chi gyflawni cwrs CBT

Bydd angen i chi gyflawni cwrs CBT os ydych chi am yrru:

  • moped
  • beic modur

Sut i gael trwydded moped neu drwydded beic modur

Gallwch lawr lwytho diagram sy’n dangos y gwahanol ffyrdd i gael trwydded moped neu drwydded beic modur drwy glicio ar y ddolen isod.

Os oes gennych chi drwydded i yrru car

Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru car ar 1 Chwefror 2001 neu ar ôl hynny, rhaid i chi gyflawni cwrs CBT i gadarnhau eich holl hawliau i yrru moped.

Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru car cyn 1 Chwefror 2001, nid oes angen i chi gwblhau CBT er mwyn gyrru moped. Fodd bynnag, mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn argymell eich bod yn dilyn y cwrs.

Os ydych chi am yrru beic modur, rhaid ichi wneud cais am drwydded beic modur dros dro, cyn cwblhau cwrs CBT.

Pan na fydd angen CBT

Ni fydd rhaid i chi gwblhau CBT os oes gennych chi un o’r canlynol:

  • trwydded lawn i yrru moped ar ôl pasio prawf gyrru moped llawn ar ôl 1 Rhagfyr 1990
  • trwydded lawn i yrru beic modur ar gyfer un categori, ac rydych am uwchraddio i gategori arall

Ni fydd rhaid i chi gwblhau CBT ychwaith os ydych chi’n byw ac yn gyrru ar rai ynysoedd penodol oddi ar y tir mawr. Fodd bynnag, os byddwch yn gyrru i dir mawr y DU, bydd angen i chi gwblhau cwrs CBT.

Dewis darparwr cwrs CBT

Y gost

Mae cost y cwrs yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr - gellir ei chynnwys o fewn cost cwrs sy'n arwain at brawf beic modur

Dim ond cyrff hyfforddi cymeradwy all gynnal cwrs CBT, ac mae’n rhaid i’r rheini fod â:

  • hyfforddwyr sydd wedi cael eu harchwilio gan DSA
  • safleoedd y mae DSA wedi’u cymeradwyo ar gyfer hyfforddi oddi ar y ffordd

Beth fydd cost y CBT

Mae cost y cwrs yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr. Caiff ei phenodi gan y corff hyfforddi cymeradwy, a gall y canlynol effeithio arno:

  • lle bydd yr hyfforddi yn digwydd
  • a ydych chi’n dod â’ch moped neu’ch beic modur eich hun

Gellir cynnwys cost y CBT o fewn cost cwrs hyfforddi llawn sy'n arwain at brawf beic modur.

Mae’r rhan fwyaf o gyrff hyfforddi cymeradwy yn cynnig llogi mopedau, beiciau modur a helmedau ar gyfer y cwrs.

Os bydd rhywbeth yn digwydd pan fyddwch yn hyfforddi

Os bydd rhywbeth yn digwydd pan fyddwch yn hyfforddi, bydd eich corff hyfforddi cymeradwy yn rhoi gwybod amdano mewn adroddiad i DSA, fel y gall DSA weithio gyda hyfforddwyr i wneud hyfforddiant yn fwy diogel. Bydd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ymchwilio i’r digwyddiad, a gellir ei throsglwyddo i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch pan fydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Elfennau o’r cwrs CBT

Beth y mae’r cwrs yn ei gynnwys

Yma cewch wybod beth y byddwch chi’n ei wneud yn ystod pob elfen o’ch cwrs CBT F

Mae’r cwrs CBT wedi’i drefnu mewn modd sy’n golygu eich bod yn dilyn cyfres o elfennau.

Dim ond pan fydd eich hyfforddwr yn fodlon eich bod wedi gwneud y canlynol y byddwch yn symud ymlaen at yr elfen nesaf:

  • dysgu’r theori y mae ei hangen arnoch
  • dangos y sgiliau ymarferol hyd at lefel sylfaenol ddiogel

Beth y’r pum elfen

Dyma’r pum elfen:

A. cyflwyniad
B. hyfforddiant ymarferol ar y safle
C. gyrru ymarferol ar y safle
D. hyfforddiant ymarferol ar y ffordd
E. gyrru ymarferol ar y ffordd

Tystysgrif cwblhau CBT

Cofiwch

Mae tystysgrifau CBT yn para am ddwy flynedd – os na fyddwch yn pasio'r prawf gyrru beic modur llawn yn y cyfnod hwn, bydd angen i chi gwblhau cwrs CBT arall

Pan fyddwch yn cwblhau cwrs CBT cewch dystysgrif cwblhau – a elwir weithiau yn DL196.

Bydd y dystysgrif yn nodi a gwblhawyd eich CBT ar:

  • foped neu feic modur
  • beic modur â cherbyd ochr neu foped â mwy na dwy olwyn

Bydd hyn yn cadarnhau eich hawliau fel y bo'n briodol.

Pa mor hir y bydd eich tystysgrif yn para

Bydd eich tystysgrif CBT yn caniatáu i chi yrru ar y ffordd gan ddangos platiau L (neu D neu L yng Nghymru) am ddwy flynedd.

Os na fyddwch yn pasio prawf theori a phrawf gyrru beic modur llawn erbyn diwedd y ddwy flynedd, bydd rhaid i chi gyflawni cwrs CBT arall, fel y gallwch barhau i yrru ar y ffordd fel dysgwr.

Os bydd eich tystysgrif CBT yn dod i ben cyn i chi basio modiwl dau y prawf beic modur, bydd angen i chi gyflawni cwrs CBT arall. Fodd bynnag, ni fydd angen i chi sefyll eich prawf theori na'ch prawf modiwl un eto os ydych chi wedi'u pasio eisoes, oni bai eu bod wedi dod i ben.

Gyrru moped os oes gennych chi drwydded i yrru car

Os oes gennych chi eisoes dystysgrif CBT pan fyddwch yn pasio eich prawf car, bydd eich hawliau llawn i yrru moped yn cael eu cadarnhau ar unwaith. Mae gan moped:

  • cyflymder uchaf o ddim mwy nag oddeutu 31 milltir yr awr (50 cilometr yr awr)
  • injan o ddim mwy na 50 centimetr ciwbig (cc)

Bydd tystysgrif CBT sy’n cadarnhau hawliau llawn i yrru moped ar drwydded car lawn yn para am oes y drwydded. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cadw eich tystysgrif CBT mewn lle diogel.

Additional links

Cymorth i feicwyr dan hyfforddiant

Cael cymorth a chyngor ynghylch dysgu reidio gan gymuned Facebook

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU