Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Helmedau a dillad diogelwch ar gyfer beicwyr modur

Wrth yrru mopedau neu feiciau modur, mae’n bwysig eich bod bob amser yn gwisgo’r dillad priodol i’ch diogelu. Bydd y dillad hyn yn eich diogelu os byddwch chi'n syrthio oddi ar y beic. Maent hefyd yn eich gwarchod rhag y tywydd, ac yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr eraill y ffordd eich gweld. Yma cewch wybodaeth am yr helmedau a’r dillad diogelwch sydd ar gael.

Pwysigrwydd cael dillad i'ch diogelu

Helmedau diogelwch

Mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn gwisgo helmed ddiogelwch wrth yrru beic modur ar y ffordd

Mae gwisgo'r dillad priodol yr un mor bwysig â rhoi gwasanaeth i'ch beic modur a gwybod sut mae ei yrru.

Mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn gwisgo helmed ddiogelwch wrth yrru beic modur ar y ffordd.

Er mwyn diogelu eich hun rhag anaf a gwneud yn siŵr eich bod yn gyfforddus, dylech fuddsoddi mewn dillad o safon. Dylai hyn gynnwys:

  • gogls neu sbectol warchod
  • siaced
  • trowsus
  • menig beicio
  • esgidiau beicio
  • cymhorthion i wneud beicwyr yn fwy gweladwy

Mae’n syniad da cael dillad sy'n cynnig gwarchodaeth arbennig i'r mannau sydd fwyaf tebygol o gael niwed mewn damwain, megis:

  • ysgwyddau
  • penelinoedd
  • cefn
  • pengliniau
  • pigyrnau

Helmedau diogelwch ar gyfer beiciau modur

SHARP – y cynllun helmedau diogelwch

Helmed yw’r darn pwysicaf o'ch cit diogelu – gallai dewis yr un iawn arbed eich bywyd.

Y Rhaglen Asesiadau a Sgoriau Helmedau Diogelwch (SHARP) yw'r system mesur diogelwch helmedau diogelwch, ac fe'i sefydlwyd gan yr Adran Drafnidiaeth. Mae SHARP yn darparu asesiad annibynnol o faint y gall helmed eich amddiffyn petaech chi’n taro'ch pen. Mae helmedau’n cael sgôr o un i bum seren. Po fwyaf o sêr SHARP sydd gan helmed, y mwyaf y gall eich amddiffyn.

Helmedau diogelwch – y gyfraith

Mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn gwisgo helmed ddiogelwch wrth yrru beic modur ar y ffordd. Rhaid i bob helmed a werthir yn y DU fod naill ai:

  • yn cydymffurfio â Safon Brydeinig BS 6658:1985 a bod arni Nod Barcud BSI
  • yn cydymffurfio â Rheoliad UNECE 22.05
  • yn cydymffurfio ag unrhyw safon a dderbynnir gan aelod o Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n cynnig lefel o ddiogelwch a gwarchodaeth sy'n cyfateb i BS 6658:1985 a bod arni nod sy'n cyfateb i Nod Barcud BSI

Difrod i helmedau

Os bydd eich helmed yn cael cnoc ddifrifol, dylech bob amser brynu un newydd. Ni fydd difrod bob tro'n amlwg i'r llygad.

Peidiwch byth â phrynu na gwisgo helmed ail-law, oherwydd mae'n bosib na fyddwch yn gallu gweld a yw'r deunydd amddiffynnol y tu mewn i'r helmed wedi cael ei ddifrodi.

Gogls a sbectol warchod

Mae gogls neu sbectol warchod yn hollbwysig i warchod eich llygaid rhag gwynt, glaw, pryfed a baw ar y ffordd.

Mae’n rhaid i'r holl gogls a sbectolau gwarchod gydymffurfio â naill ai:

  • Safon Brydeinig a bod Nod Barcud BSI arnynt
  • safon Ewropeaidd sy’n cynnig lefel o ddiogelwch a gwarchodaeth sy’n gyfystyr â’r Safon Brydeinig o leiaf ac yn dangos marc sy'n cyfateb i Nod Barcud BSI (ECE 22-05)

Ddylech chi ddim gwisgo sbectol dywyll, sbectol warchod na gogls os ydych chi'n gyrru yn y tywyllwch neu os nad oes modd gweld yn bell oherwydd yr amgylchiadau.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'ch sbectol warchod neu'ch gogls yn lân. Rhaid i chi allu gweld y ffordd o'ch blaen yn glir bob amser. I lanhau eich gogls neu'ch sbectol warchod, golchwch nhw mewn dŵr a sebon cynnes. Peidiwch â defnyddio toddydd na phetrol.

Sbectol a lensys cyffwrdd

Os oes angen sbectol neu lensys arnoch i ddarllen plât rhif o'r pellter gofynnol, yna bydd rhaid i chi wisgo'ch sbectol neu'ch lensys bob tro wrth yrru.

Dillad diogelu ar gyfer beicwyr modur

Cit ail-law

Peidiwch â phrynu cit ail-law – efallai na fyddai yn eich amddiffyn petaech chi’n cael damwain

Ceir dau brif fath o ddillad ar gyfer gyrru beic modur:

  • dillad o ddefnydd sydd wedi'i wneud gan ddyn
  • dillad lledr

Pan fyddwch yn dewis dillad gwarchod i'w gwisgo ar feic, cofiwch chwilio am warchodaeth ychwanegol i'ch ysgwyddau, eich penelinoedd a'ch pengliniau.

Peidiwch â phrynu cit ail-law. Efallai ei fod yn rhatach, ond wyddoch chi ddim sut beth ydyw. Efallai na fyddai'n eich amddiffyn petaech chi’n cael damwain.

Menig beicio

Mae’n hanfodol bod gennych chi fenig beicio da wrth yrru beic modur. Peidiwch byth â chael eich temtio i yrru heb fenig. Os byddwch chi’n syrthio, fe allech anafu'ch dwylo'n ddifrifol.

Esgidiau beicio

Mae’n bwysig gwisgo esgidiau addas pan fyddwch ar gefn beic modur. Os gwisgwch chi sandalau neu drenars, ychydig o warchodaeth fydd i'ch traed os disgynnwch chi.

Gyrru mewn tywydd oer a gwlyb

Byddwch yn barod rhag ofn i’r tywydd newid – ewch â dillad sy'n dal dŵr gyda chi a chadachau glanhau sgrin rhag ofn y bydd hi'n bwrw. Os byddwch chi’n wlyb ac yn anghyfforddus wrth yrru, gall hynny dynnu eich sylw oddi wrth beryglon ar y ffordd.

Wrth yrru mewn tywydd oer iawn, gall eich dwylo a'ch traed fynd yn boenus o oer. Does dim ots pa mor dda yw eich menig neu'ch esgidiau, bydd yr oerfel yn treiddio drwodd yn y pen draw.

Nwyddau sy'n cael eu cynhesu â thrydan

Os ydych chi wir am feicio mewn tywydd oer, dylech ystyried prynu menig sy'n cael eu cynhesu â thrydan neu gripiau llaw sy'n cael eu cynhesu â thrydan.

Mae’r nwyddau hyn yn rhoi llawer o bwysau ar eneradur trydanol eich beic modur. Dylech wneud yn siŵr y gall ymdopi â hyn cyn i chi eu prynu a'u gosod.

Cymhorthion i wneud beicwyr modur yn fwy gweladwy

Gwneud eich hun yn fwy amlwg

Er mwyn gwneud eich hun yn fwy amlwg yn y tywyllwch, dylech wisgo dillad neu stribedi adlewyrchol

Mae llawer o'r damweiniau ffordd sy'n digwydd i feicwyr modur ar y ffordd yn digwydd oherwydd bod gyrrwr arall heb eu gweld. Bydd yn haws i bobl eraill eich gweld os cymerwch chi rai o'r camau isod. Cofiwch fod angen i bobl allu'ch gweld o'r ochr yn ogystal ag o'r tu blaen ac o'r cefn.

Gwneud eich hun yn fwy amlwg yng ngolau dydd

Bydd gwisgo dillad oren neu felyn llachar yng ngolau dydd yn eich gwneud yn fwy amlwg.

Dyma ambell ffordd arall o'ch gwneud yn fwy amlwg i ddefnyddwyr eraill y ffordd yng ngolau dydd:

  • gwisgo helmed olau neu un â lliwiau llachar arni
  • gwisgo dillad llachar
  • gyrru gyda’ch golau blaen wedi'i ddipio

Gwneud eich hun yn fwy amlwg yn y tywyllwch

Er mwyn gwneud eich hun yn fwy amlwg yn y tywyllwch, mae angen i chi wisgo dillad neu stribedi sy'n adlewyrchu golau. Maent yn gweithio drwy adlewyrchu golau oddi ar lampau blaen cerbydau eraill. Mae hyn yn eich gwneud chi’n fwy amlwg o lawer o bellter.

Sut i gael gwybod mwy am ddillad diogelu ar gyfer beicwyr modur

I gael gwybodaeth am ddillad diogelu, gallwch ddarllen cyhoeddiad swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru, 'The official DSA guide to riding: the essential skills'.

Additional links

Cymorth i feicwyr dan hyfforddiant

Cael cymorth a chyngor ynghylch dysgu reidio gan gymuned Facebook

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU