Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n 16 oed ac yn dymuno gyrru moped neu sgwter ar y ffordd, rhaid i chi fod wedi cwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol er mwyn dilysu'ch trwydded dros dro.
Beic modur yw moped sydd â'r nodweddion canlynol:
Rhaid i chi fod yn o leiaf 16 oed i allu bod â thrwydded moped dros dro. Mae'n caniatáu i chi yrru moped ar y ffordd fel gyrrwr dan hyfforddiant gyda phlatiau L (platiau D yng Nghymru) ond ni chewch chi gludo teithiwr na mynd ar draffordd.
Dim ond pan fydd gennych chi dystysgrif DL 196 y bydd y drwydded dros dro yn ddilys, a honno'n cael ei rhoi ar ôl cwblhau hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) gyda chorff hyfforddi cymeradwy (ATB).
Mae tystysgrif CBT sy'n cael ei roi ar gyfer moped hefyd yn ddilys ar gyfer beiciau modur unwaith y bydd y gyrrwr yn 17 oed ac â'r drwydded angenrheidiol.
Os ydych chi eisiau gyrru moped ar y ffordd heb arddangos platiau L, rhaid i chi basio prawf gyrru theori ac ymarferol.
Os cawsoch chi eich trwydded car lawn cyn 1 Chwefror 2001, mae gennych hawl awtomatig i yrru moped heb blatiau L (platiau D yng Nghymru).
Os cawsoch chi eich trwydded car lawn ar ôl 1 Chwefror 2001 rhaid i chi gwblhau cwrs CBT i ddechrau a chael tystysgrif DL 196 i ddilysu'ch hawl.