Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y cynllun gwell beiciwr: hyfforddiant personol ar gyfer beiciau modur

Gall y cynllun gwell beiciwr eich helpu i gael mwy o bleser wrth yrru eich beic modur. Fe gewch chi hyfforddwr personol a fydd yn eich helpu i gael mwy o fwynhad wrth yrru’ch beic modur. Hefyd, bydd y rhan fwyaf o froceriaid yswiriant beiciau modur yn rhoi disgownt ar yswiriant i chi. Yma cewch wybod sut mae dod o hyd i hyfforddwr a mynd ati i ddilyn y cynllun.

Gwybodaeth am y cynllun gwell beiciwr

Gwylio fideos i weld sut mae gyrwyr eraill wedi elwa

Bydd y cynllun gwell beiciwr:

  • yn eich helpu i gael mwy o fudd o yrru’ch beic modur
  • yn eich helpu i gael mwy o fwynhad wrth yrru’ch beic modur
  • yn rhoi cyfle i chi ddangos eich sgiliau – ac i fod yn gymwys i gael disgownt ar yswiriant o ganlyniad i ddilyn y cwrs hwnnw

Does dim rhaid i chi sefyll prawf.

Ar gyfer pwy mae’r cynllun gwell beiciwr

Cynllun ar gyfer beicwyr modur â thrwydded lawn ac sydd wedi pasio eu prawf yw'r cynllun gwell beiciwr. Mae’n ddelfrydol ar eich cyfer chi:

  • os ydych newydd basio’ch prawf
  • os ydych yn ailddechrau gyrru beic modur ar ôl rhoi’r gorau iddi am gyfnod
  • os ydych am yrru beic modur sy'n fwy pwerus na'r un sydd gennych ar hyn o bryd
  • os ydych am wneud yn siŵr eich bod yn gyrru eich beic modur yn iawn
  • os ydych am gael mwy o fwynhad wrth yrru eich beic
  • os ydych yn mwynhau gyrru mewn grwpiau

Beth sy'n rhan o’r cynllun gwell beiciwr

Ar ôl i chi ddod o hyd i hyfforddwr ar gyfer y cynllun gwell beiciwr:

  • fe gewch chi asesiad gyrru i gael gwybod beth rydych yn gallu ei wneud yn dda
  • fe gewch chi ‘dystysgrif cymhwysedd DSA’ os nad oes arnoch angen help o gwbl gan eich hyfforddwr
  • efallai y cewch chi hyfforddiant pwrpasol i’ch helpu i fod yn un o’r beicwyr gorau ac i gael mwy o bleser wrth yrru

Canfod a dewis eich hyfforddwr ar gyfer y cynllun gwell beiciwr

Eich hyfforddwr arbenigol

Bydd eich hyfforddwr yn yrrwr medrus dros ben ac yn awyddus i rannu ei wybodaeth a'i arbenigedd gyda chi

Bydd angen i chi ddod o hyd i hyfforddwr a dewis un er mwyn dechrau ar y cynllun. Bydd un o’r arbenigwyr oddi ar gofrestr yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar gyfer hyfforddwyr beiciau modur sydd wedi pasio’u prawf yn dod gyda’r hyfforddwr.

Hyfforddwyr y cynllun gwell beiciwr

Mae’r hyfforddwyr arbenigol sydd ar y rhestr:

  • i gyd yn hyfforddwyr hynod fedrus
  • wedi profi bod y sgiliau ganddynt i roi hyfforddiant o safon i chi
  • yn cael eu gwirio’n rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cynnal safon uchel
  • yn awyddus i rannu eu harbenigedd gyda chi er mwyn i chi gael mwy o bleser wrth yrru eich beic

Faint mae’r cynllun gwell beiciwr yn ei gostio

Mae cost y cynllun yn amrywio o hyfforddwr i hyfforddwr ac o yrrwr i yrrwr, gan ddibynnu ar eu hanghenion.

Asesiad y cynllun gwell beiciwr

Ar ddiwedd yr asesiad

Os na fydd angen hyfforddiant arnoch chi, daw’r broses i ben ar ôl yr asesiad – a byddwch wedyn yn gymwys i gael disgownt ar eich yswiriant

Bydd asesiad y cynllun gwell beiciwr yn canfod:

  • beth ydych chi’n dda am ei wneud
  • sut gall eich hyfforddwr eich helpu i gael mwy o bleser wrth yrru

Beth sy’n digwydd yn ystod asesiad y cynllun gwell beiciwr

Byddwch chi’n gyrru beic modur a'r hyfforddwr yn eich dilyn. Byddwch yn gyrru mewn gwahanol amodau ffordd a thraffig er mwyn i chi allu dangos eich sgiliau.

Bydd yr ymarfer hwn yn para digon i'ch hyfforddwr wneud asesiad cywir o’ch anghenion – ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, bydd yn para rhwng awr a dwy awr.

Os nad oes arnoch angen hyfforddiant o gwbl

Os na fydd angen hyfforddiant o gwbl arnoch, daw'r broses i ben ar ôl hynny.

Fe gewch chi ‘dystysgrif cymhwysedd DSA’ a byddwch yn gymwys i gael disgownt ar yswiriant.

Yna fe allech ystyried symud ymlaen i gwrs gyrru safon uwch. Gallwch gael gwybod mwy am gyrsiau gyrru safon uwch drwy glicio’r ddolen isod.

Os oes arnoch angen hyfforddiant cynllun gwell beiciwr

Eich hyfforddiant

Fe gewch chi gyngor arbenigol a gweld sut mae gloywi eich sgiliau

Os bydd angen rhywfaint o hyfforddiant arnoch, fe gewch chi'ch cynllun personol eich hun ar gyfer gloywi eich sgiliau.

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar yr elfennau a fydd yn eich helpu i gael mwy o bleser wrth yrru.

Beth mae’ch hyfforddiant yn ei gynnwys

Nid yw’r hyfforddiant yn dilyn yr agwedd bod un ateb yn addas i bawb – mae’r cyfan wedi’i deilwra’n arbennig ar eich cyfer chi.

Bydd eich hyfforddwr yn eich helpu gyda’r elfennau a fydd yn eich galluogi i gael mwy o bleser wrth yrru. Bydd yn rhoi cyngor arbenigol i chi ac yn dangos sut mae gwella eich sgiliau wrth wneud pethau fel y canlynol:

  • troi corneli
  • symud i mewn ac allan rhwng cerbydau
  • darllen troeon
  • newid safle ar y ffordd
  • gyrru’n llyfn

Am faint mae’r hyfforddiant yn para

Fe gewch chi gymaint o hyfforddiant ag y bydd ei angen arnoch chi. Bydd strwythur eich hyfforddiant yn amrywio. Efallai y bydd rhai hyfforddwyr yn cynnig:

  • cyrsiau drwy’r dydd
  • sesiynau byrrach y gallwch eu dilyn dros sawl diwrnod er mwyn cyd-fynd â’ch anghenion

Mae’n syniad da holi pa opsiynau sydd ar gael wrth i chi ddewis eich hyfforddwr er mwyn gwneud yn siŵr y cewch chi'r fargen orau ar eich cyfer chi.

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd eich hyfforddiant

Ar ôl i chi gael yr holl hyfforddiant y mae ei angen arnoch chi, fe gewch chi:

  • adroddiad am eich sgiliau gyrru
  • ‘tystysgrif cymhwysedd DSA’ – gallwch ddefnyddio’r dystysgrif hon i gael disgownt ar yswiriant

Sut mae hawlio'ch disgownt ar yswiriant

Disgownt ar yswiriant

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant beiciau modur yn rhoi disgownt i yrwyr a chanddynt 'dystysgrif cymhwysedd DSA'

Ar ôl i chi gael ‘tystysgrif cymhwysedd DSA’:

  • cysylltwch ag un o’r broceriaid yswiriant isod i gael dyfynbris llawn
  • rhowch enw’r dystysgrif

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant beiciau modur yn rhoi disgownt i yrwyr sydd â’r dystysgrif.

Broceriaid yswiriant sy’n noddi’r cynllun

Dyma’r broceriaid yswiriant sy’n noddi'r cynllun hwn:

  • AA Insurance
  • Bennett's Insurance
  • Bikesure
  • Carole Nash
  • Chandler Direct
  • CIA insurance
  • Devitt
  • Direct Choice Insurance
  • E Bike
  • Express Insurance
  • Hastings Direct
  • Lexham
  • MCE Insurance
  • Motorcycle Direct
  • Norwich Union Direct
  • Premium Choice
  • Rampdale
  • Swinton Insurance

Yswirwyr sy’n cefnogi’r cynllun

Mae’r yswirwyr canlynol yn cefnogi’r cynllun:

  • AXA
  • Chaucer Insurance
  • Equity Red Star
  • Groupama
  • Highway
  • KGM
  • Link/Zenith
  • NIG
  • Norwich Union
  • Royal & Sun Alliance

Ar ôl y cynllun gwell beiciwr

Ar ôl cyflawni'r cynllun gwell beiciwr, fe allech chi ddilyn cwrs gyrru safon uwch. Gallwch gael gwybod mwy am gyrsiau gyrru safon uwch drwy glicio’r ddolen isod.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Cymorth i feicwyr dan hyfforddiant

Cael cymorth a chyngor ynghylch dysgu reidio gan gymuned Facebook

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU