Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Uchafswm cyflymder moped yw 50 cilomedr yr awr (tua 31 milltir yr awr). Mae ganddo injan hyd at 50 centimedrau ciwbig (cc). Ni chaiff maint injan beic modur i yrwyr dan hyfforddiant fod yn fwy na 125 cc na'r pŵer fod yn fwy na 11 cilowat (kw).
O 19 Ionawr 2013 ymlaen, bydd rheolau ar gyfer trwyddedau i yrru mopedau, beiciau modur a threisiclau yn newid. I gael gwybod mwy am y newidiadau, dilynwch y ddolen isod.
Rhaid sefyll y prawf ymarferol ar feic sydd rhwng 75 cc a 125 cc. Mae dau fath o drwydded beic modur lawn:
Ar ôl pasio'r prawf ymarferol sylfaenol ar gyfer beic modur, byddwch yn cael eich cyfyngu i ddwy flynedd yn gyrru beic hyd at 25 kw a chymhareb pŵer/pwysau nad yw'n fwy na 0.16 kw/kg. Ar ôl hyn fe gewch chi yrru beic o unrhyw faint.
Sylwch:
Nid yw'r beic modur BMW C1 yn beiriant addas ar gyfer prawf ymarferol.
Mae dewisiadau eraill gan yrwyr sy'n 21 oed neu'n hŷn, neu sy'n cael eu pen-blwydd yn 21 cyn i'r cyfyngiad dwy flynedd ddod i ben.
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant sylfaenol gorfodol a'r prawf theori, gellir sefyll y prawf ymarferol ar feic modur sydd â phŵer sy'n o leiaf 35kw. Mae pasio'r prawf yn caniatáu chi i yrru beic o unrhyw faint. Gellir dilyn rhan neu'r cyfan o gwrs CBT ar feic dysgwr neu ar feic mawr. I ymarfer ar gyfer y prawf ymarferol ar feiciau sydd â manyleb fwy na beic dysgwr:
Os yw gyrwyr yn 21 oed ond o fewn y cyfnod dwy flynedd lle mae'r cyfyngiad o 25 kw ar beiriannau mewn grym, a hwythau'n dymuno gyrru beiciau mwy, rhaid iddynt basio prawf pellach ar feic modur sydd ag o leiaf 35 kw. Gallant ymarfer ar feiciau sydd â dros 25 kw o dan yr un amodau â'r rheiny ar gyfer reidwyr mynediad uniongyrchol. Byddwch yn dychwelyd i statws gyrrwr dan hyfforddiant tra'n ymarfer (ar feic modur sydd â mwy na 25 kw), er na fydd methu'r prawf yn effeithio ar eich trwydded bresennol.
Gall gyrwyr sy'n dymuno gyrru gyda cherbyd ochr ymarfer ar gyfuniad gyda chymhareb pŵer/pwysau sydd heb fod yn fwy na 0.16 ciloWat/cilogram. Ar ôl cael trwydded safonol, byddwch wedi'ch cyfyngu i gyfuniad gyda'r un gymhareb pŵer/pwysau am ddwy flynedd. Ar ôl cyrraedd 21 oed, gall dysgwyr, o fewn y cynlluniau mynediad uniongyrchol neu fynediad cyflym yn unig, ymarfer ar gyfuniad mwy, ond rhaid sefyll y prawf ar feic unigol (er y gall gyrwyr gydag anableddau corfforol ddefnyddio cyfuniad).