Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n rhaid i bawb sy'n dysgu gyrru beiciau modur a mopedau gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn gyrru ar y ffordd. Yma cewch wybod beth sy’n digwydd yn ystod y pum elfen sy’n rhan o gwrs CBT ar gyfer gyrwyr beiciau modur a mopedau.
Awgrym
Peidiwch â chymryd y cwrs CBT yn ysgafn – mae'r hyfforddwyr yn feicwyr modur profiadol, ac mae ganddynt gyngor gwerthfawr i'w rannu â chi
Mae’r cwrs CBT wedi’i drefnu mewn modd sy’n golygu eich bod yn dilyn cyfres o elfennau. Ni fyddwch yn symud ymlaen i’r elfen nesaf nes bydd eich hyfforddwr yn fodlon eich bod wedi:
O fewn pob elfen, caiff yr hyfforddwr ddarparu’r hyfforddiant yn y drefn y mae’n teimlo fyddai fwyaf addas ar eich cyfer chi.
Faint o bobl y byddwch chi’n cael hyfforddiant gyda hwy
Yn ystod eich cwrs CBT, efallai y byddwch chi’n cael hyfforddiant gyda dysgwyr eraill, hyd at:
Peidiwch â chymryd y cwrs CBT yn ysgafn – mae'r hyfforddwyr yn feicwyr modur profiadol, ac mae ganddynt gyngor gwerthfawr i'w rannu â chi.
Sut i gael gwybod mwy ynghylch CBT
Gallwch weld gwybodaeth fanylach am yr hyn ddylech ei ddisgwyl yn ystod eich hyfforddiant CBT yn y llyfr 'The official DSA guide to learning to ride'.
Ar ddiwedd yr elfen hon, dylech chi ddeall pwrpas a chynnwys y cwrs CBT
Bydd eich hyfforddwr yn egluro’r pethau sylfaenol, ac ni fydd yn sôn llawer am y materion cymhleth.
Lle bynnag y bo’n bosib, bydd eich hyfforddwr yn defnyddio enghreifftiau i helpu i egluro ei bwyntiau.
Byddant yn gwneud yn siŵr bod gennych chi hawl i yrru mopedau neu feiciau modur. Os bydd angen, bydd eich hyfforddwr yn egluro beth mae angen i chi ei wneud er mwyn cael yr hawl hon – er enghraifft, gwneud cais am drwydded beic modur dros dro.
Ar ddiwedd yr elfen hon, dylech chi ddeall pwrpas a chynnwys y cwrs CBT.
Beth fydd elfen A yn ei gynnwys
At ei gilydd, bydd yr elfen yn ymdrin â’r canlynol:
Ni fyddwch yn dechrau gyrru’r beic modur yn yr elfen hon, ond byddwch yn cael hyfforddiant ymarferol
Mae’r elfen hon yn eich cyflwyno i’r beic modur. Ni fyddwch yn dechrau gyrru’r beic modur yn yr elfen hon, ond byddwch yn cael hyfforddiant ymarferol.
Ar ddiwedd yr elfen hon:
Beth fydd elfen B yn ei gynnwys
At ei gilydd, bydd yr elfen yn ymdrin â’r canlynol:
Yn yr elfen hon byddwch yn dechrau gyrru beic modur – erbyn y diwedd byddwch yn gallu gyrru beic modur dan reolaeth
Yn yr elfen hon, byddwch yn dechrau gyrru beic modur. Erbyn gorffen yr elfen hon, byddwch wedi meithrin digon o sgiliau sylfaenol i’ch galluogi i yrru beic modur dan reolaeth.
Byddwch yn dysgu’r technegau hanfodol, gan gynnwys:
Byddwch wedyn yn ymarfer y sgiliau ymarferol hyn nes bod eich hyfforddwr yn fodlon y byddwch chi'n ddiogel pan fydd yn mynd â chi ar y ffordd.
Beth fydd elfen C yn ei gynnwys
At ei gilydd, bydd yr elfen yn ymdrin â’r canlynol:
Bydd yr elfen hon yn cynnwys yr wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i yrru’n gyfreithlon ac yn ddiogel ar y ffordd
Ar ôl cyflawni'r theori a'r hyfforddiant ymarferol oddi ar y ffordd, bydd eich hyfforddwr nawr yn eich paratoi ar gyfer elfen ar y ffordd CBT.
Bydd yr elfen hon yn ymdrin â'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i yrru’n gyfreithlon ac yn ddiogel ar y ffordd. Dyma fydd y sylfaen i'ch oes fel beiciwr modur.
Mae’n bosib y bydd rhannau o’r theori hon yn cael eu hatgyfnerthu yn elfen E mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Beth fydd elfen D yn ei gynnwys
At ei gilydd, bydd yr elfen yn ymdrin â’r canlynol:
Byddwch yn gyrru ar y ffordd gyda hyfforddwr ardystiedig am ddwy awr o leiaf
Dyma yw elfen olaf y cwrs CBT. Byddwch yn gyrru ar y ffordd gyda hyfforddwr ardystiedig, a chydag un hyfforddwr dan hyfforddiant arall o bosib, a hynny am ddwy awr o leiaf. Bydd gennych gyswllt radio â’r hyfforddwr.
Bydd yn rhaid i chi brofi y gallwch ymdopi’n ddiogel ag amrywiol amodau ffordd a thraffig.
Disgwyliwch i'ch hyfforddwr stopio weithiau i drafod rhai elfennau o’ch sgiliau gyrru. Bydd hefyd yn egluro sut y dylech roi'r theori rydych wedi'i dysgu ar waith.
Bydd eich hyfforddwr yn asesu eich sgiliau gyrru drwy’r amser. Bydd yn llofnodi tystysgrif cwblhau (DL196) pan fydd yn fodlon eich bod yn ddiogel i barhau i ddysgu ar eich pen eich hun.
Beth fydd elfen E yn ei gynnwys
At ei gilydd, bydd yr elfen yn ymdrin â’r canlynol: