Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gofynion o ran golwg wrth yrru

Cyn eich bod yn dechrau dysgu gyrru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â'r rheolau o ran golwg. Os oes angen i chi wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd i fodloni'r gofynion, mae'n rhaid i chi eu gwisgo bob tro y byddwch yn gyrru. Mynnwch wybod beth mae'r rheolau'n ei ddweud a sut y caiff eich golwg ei brofi.

Os oes gennych gyflwr o ran eich golwg

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich trwydded yrru, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os oes gennych gyflwr golwg sy'n effeithio ar:

  • y ddwy lygad - heb gynnwys golwg byr na golwg hir na dallineb lliw
  • eich golwg - heb gynnwys golwg byr na golwg hir na dallineb lliw - er enghraifft, os mai dim ond mewn un llygad y mae gennych olwg

Os ydych wedi cael triniaeth i gywiro'ch golwg

Os ydych wedi cael triniaeth i gywiro'ch golwg dylech ddatgan hynny pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded dros dro.

Sut i gael gwybod a oes angen i chi ddweud wrth DVLA am eich cyflwr

Gallwch chwilio drwy'r rhestr A i Y o gyflyrau meddygol i weld a oes angen i chi ddweud wrth DVLA am eich cyflwr golwg.

Prawf golwg y prawf gyrru ymarferol

Sut mae'r prawf yn gweithio

Mae'n rhaid i chi ddarllen rhif cerbyd sydd wedi'i barcio - byddwch yn cael hyd at dri chyfle i'w ddarllen yn iawn.

Ar ddechrau'r prawf gyrru ymarferol, bydd eich arholwr gyrru yn gofyn i chi ddarllen rhif cerbyd sydd wedi'i barcio.

Bydd yn rhaid i chi ddarllen y rhif cerbyd o'r pellter canlynol:

  • 20 metr ar gyfer cerbydau sydd â rhif cerbyd ar ei newydd wedd
  • 20.5 metr ar gyfer cerbydau sydd â rhif cerbyd hen ffasiwn

Mae rhifau cerbyd ar eu newydd wedd yn dechrau gyda dwy lythyren wedi'u dilyn gan ddau rif, er enghraifft AB51 ABC.

Os nad ydych yn siarad Saesneg neu os ydych yn cael trafferth darllen, gallwch ysgrifennu'r hyn rydych yn ei weld.

Os na fyddwch yn gallu darllen y rhif cerbyd cyntaf

Os na fyddwch yn gallu darllen y rhif cerbyd cyntaf yn gywir, gofynnir i chi ddarllen rhif cerbyd arall.

Os na fyddwch yn gallu darllen yr ail rif cerbyd

Os na fyddwch yn gallu darllen yr ail rif cerbyd yn gywir, bydd yr arholwr yn mesur y pellter i drydydd rhif cerbyd. Dyma eich cyfle olaf i ddarllen y rhif cerbyd yn gywir.

Os na fyddwch yn gallu darllen y trydydd rhif cerbyd

Os bydd yr arholwr yn fodlon nad ydych yn cyrraedd y safon ofynnol o ran golwg:

  • byddwch yn methu'r prawf gyrru
  • bydd eich prawf gyrru yn dod i ben

Beth sy'n digwydd os byddwch yn methu'r prawf golwg

Os byddwch yn methu'r prawf golwg:

  • bydd yr arholwr yn gofyn i chi lofnodi ffurflen sy'n datgan nad oeddech yn gallu bodloni'r gofynion o ran golwg
  • bydd DVLA yn cael gwybod eich bod heb fodloni'r gofynion o ran golwg
  • caiff eich trwydded ei dirymu

Sut i wneud cais i gael eich trwydded yn ôl

I wneud cais i gael eich trwydded yn ôl, anfonwch 'Cais am drwydded yrru’ (D1) i DVLA. Mae'r ffurflen ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu ganghennau’r Swyddfa'r Post®. Gallwch hefyd lawrlwytho a chwblhau'r holiadur meddygol V1 a'i ddychwelyd gyda'ch ffurflen D1.

Beth sy'n digwydd pan gaiff DVLA eich cais

Pan fydd eich cais yn cyrraedd DVLA efallai y bydd yn gofyn i'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) gynnal prawf golwg ar wahân i chi, a gaiff ei gynnal mewn canolfan profion gyrru. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i chi basio prawf golwg safonol DSA yn eich prawf gyrru ymarferol nesaf o hyd.

Gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd pan fyddwch yn gyrru

Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud

Os ydych yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd ar gyfer y prawf golwg, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith eich bod eu gwisgo bob tro y byddwch yn gyrru

Os ydych yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd ar gyfer y prawf golwg, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith eich bod eu gwisgo bob tro y byddwch yn gyrru. Mae hyn yn cynnwys yn ystod eich prawf gyrru.

Gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd yn ystod eich prawf

Ni fyddwch yn cael tynnu eich sbectol neu'ch lensys cyffwrdd pan fyddwch yn gwneud ymarferion yn ystod y prawf (gyrru am yn ôl ac ati).

Os byddwch yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd i ddarllen y rhif cerbyd ac yn eu tynnu yn ystod y prawf, cewch eich atgoffa bod yn rhaid i chi eu gwisgo. Os byddwch yn gwrthod eu gwisgo, bydd y prawf yn dod i ben.

Os na fyddwch yn dod â'ch sbectol i'r prawf

Os byddwch wedi torri neu anghofio eich sbectol, neu'n dod â'r sbectol anghywir, rhowch wybod i'r arholwr ar ddechrau'r prawf. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i'r arholwr a'ch bod yn rhoi cynnig ar y prawf golwg ac yn methu, cofnodir eich bod wedi methu'r prawf. Bydd eich prawf yn dod i ben.

Allweddumynediad llywodraeth y DU