Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi roi gwybod i DVLA am eich cyflwr iechyd

Ar ôl dweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am eich cyflwr meddygol neu'ch anabledd, bydd cynghorwyr meddygol DVLA yn penderfynu a ellir cyhoeddi trwydded. Yma cewch wybod beth sy’n digwydd ar ôl i chi ddweud wrth DVLA am eich cyflwr iechyd, a sut y byddant yn gwneud penderfyniad.

Ar ôl rhoi gwybod i DVLA am eich cyflwr meddygol neu’ch anabledd

Mae'r holiadur meddygol y byddwch yn ei ddefnyddio i roi gwybod i DVLA yn eich galluogi i ddarparu manylion penodol am eich cyflwr meddygol neu’ch anabledd. Mae'r holiadur hefyd yn gofyn i chi roi caniatâd i gynghorydd meddygol DVLA ofyn am wybodaeth feddygol amdanoch gan eich meddyg. Bydd DVLA yn ceisio gwneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth a roddwch.

Fodd bynnag, os bydd angen rhagor o wybodaeth, gall y cynghorydd meddygol wneud y canlynol:

  • cysylltu â'ch meddyg neu'ch ymgynghorydd
  • trefnu eich bod yn cael archwiliad gan swyddog meddygol a benodir yn lleol, neu gan ymgynghorydd neu arbenigwr lleol
  • gofyn i chi gael asesiad gyrru, prawf llygaid neu brawf gyrru

Faint y bydd eich ymholiad meddygol yn para

Bydd DVLA yn ceisio cwblhau’r ymholiadau cyn gynted â phosib. Bydd yr amser y bydd DVLA yn ei dreulio ar eich ymholiad meddygol chi yn dibynnu ar y cyflwr meddygol sydd gennych ac ar yr wybodaeth y mae angen i DVLA ei chasglu. Os gellir gwneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gennych chi’n wreiddiol, bydd DVLA yn ceisio gwneud penderfyniad cyn pen tair wythnos.

Os bydd angen mwy o wybodaeth ar DVLA am eich cyflogwr meddygol, byddant yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 90 diwrnod gwaith.

Er mwyn gwneud hyn, mae’n bosib y bydd angen iddynt gael rhagor o wybodaeth gan y canlynol:

  • chi
  • eich meddyg
  • ffynonellau eraill

Penderfyniadau y gellir eu gwneud ynghylch eich trwydded yrru

Pan fydd y cynghorydd meddygol yn fodlon bod ganddo'r holl wybodaeth feddygol berthnasol, bydd yn gwneud penderfyniad ynghylch eich trwydded yrru. Bydd yn defnyddio’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru i'w helpu i benderfynu.

Dyma’r penderfyniadau y gellir eu gwneud:

  • efallai y cewch gadw eich trwydded neu y rhoddir trwydded yrru newydd i chi
  • efallai y rhoddir trwydded yrru i chi am gyfnod o flwyddyn, am ddwy flynedd neu am dair blynedd os bydd y cynghorydd meddygol yn penderfynu y bydd angen adolygu eich iechyd yn y dyfodol
  • efallai y rhoddir trwydded yrru i chi sy’n nodi bod angen gosod teclynnau rheoli arbennig ar y cerbyd rydych yn ei yrru i'ch galluogi i oresgyn effeithiau anabledd corfforol
  • bydd DVLA yn dweud wrthych am roi'r gorau i yrru os bydd yr ymholiadau meddygol yn cadarnhau nad ydych yn ffit i yrru nes bydd eich cyflwr yn gwella

Os caiff eich trwydded yrru ei diddymu neu ei gwrthod gan gynghorydd meddygol yn DVLA:

  • cewch eglurhad meddygol ynghylch pam y daethpwyd i’r penderfyniad hwn (lle bynnag y bo'n bosib, bydd DVLA yn dweud wrthych pryd y gallwch wneud cais i gael eich trwydded yn ôl)
  • cewch hysbysiad yn egluro eich hawl i apelio i Lys Ynadon os ydych chi’n byw yng Nghymru neu yn Lloegr, neu i Lys y Siryf os ydych chi’n byw yn yr Alban

Allweddumynediad llywodraeth y DU