Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnewyddu eich trwydded yrru os yw wedi'i diddymu neu ei hildio am resymau iechyd

Mae’n rhaid i chi adnewyddu eich trwydded yrru ar ôl ei hildio neu ar ôl iddi gael ei diddymu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) cyn i chi ddechrau gyrru eto. Yma, cewch wybod beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn ailymgeisio am eich trwydded yrru.

Archwilio cyflwr eich iechyd

Dylech ofyn i’ch meddyg sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru cyn i chi ailymgeisio am eich trwydded yrru. Ceir y safonau hyn yn yr arweiniad ‘At a glance guide to the current standards of fitness to drive’. Mae gan bob meddyg fynediad at y cyhoeddiad hwn.

Sut mae ailymgeisio am eich trwydded yrru car neu feic modur

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais D1 a’r holiadur meddygol sy’n berthnasol i’ch cyflwr chi. Mae'r ffurflen D1 ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni’r DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®. Gallwch chwilio drwy restr A-Y o gyflyrau meddygol DVLA i ganfod eich cyflwr chi, a'r holiadur cywir ar eich cyfer.

Sut mae ailymgeisio am eich trwydded yrru lori neu fws

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais D2 a’r holiadur meddygol sy’n berthnasol i’ch cyflwr chi. Mae’r ffurflen D2 ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni’r DVLA. Gallwch chwilio drwy restr A-Y o gyflyrau meddygol DVLA i ganfod eich cyflwr chi, a’r holiadur cywir ar eich cyfer.

Os ydych chi rhwng 45 a 65 mlwydd oed, dim ond ffurflen D4 fydd angen i chi ei chyflwyno, os nad ydych chi wedi gwneud hynny yn y pum mlynedd diwethaf. O 65 oed ymlaen, cyflwynir trwyddedau am flwyddyn yn unig, ac mae’n rhaid anfon ffurflen adroddiad meddygol D4 wedi’i llenwi gyda phob cais i adnewyddu trwydded.

Newid enw

Os ydych chi wedi newid eich enw ers i’ch trwydded ddiwethaf gael ei chyhoeddi, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r newid enw. Mae’n rhaid i'r manylion y byddwch yn eu darparu ddangos cyswllt clir rhwng yr enw sydd ar eich dogfen adnabod a'ch enw presennol.

I ble y dylech anfon eich cais

Ar ôl i chi lenwi eich ffurflenni cais, gallwch eu hanfon at DVLA drwy’r ffacs neu drwy’r post.

Ffacs
0845 850 0095

Post
Grŵp Meddygol y Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU

Allweddumynediad llywodraeth y DU