Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i roi gwybod i DVLA eich bod wedi rhoi'r gorau i yrru neu fod angen i chi roi'r gorau i yrru

Os ydych wedi datblygu cyflwr meddygol sy’n golygu na allwch yrru’n ddiogel, mae’n bosib y bydd eich meddyg yn dweud wrthych am roi’r gorau i yrru ar unwaith. Os felly, dylech ildio eich trwydded yrru i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Bydd eich meddyg yn dweud wrthych pryd y byddwch yn ddigon da i ailddechrau gyrru.

Ildio eich trwydded yrru

Drwy ildio'ch trwydded, ni fydd angen i'r DVLA wneud ymholiadau meddygol ffurfiol am eich ffitrwydd i yrru. Os bydd rhaid gwneud ymholiadau meddygol a bod y rhain yn cadarnhau nad ydych yn gallu bodloni'r safonau meddygol angenrheidiol ar gyfer ffitrwydd i yrru, yna bydd rhaid diddymu eich trwydded. Darllenwch yr adran berthnasol isod ar gyfer y math o drwydded sydd gennych chi.

Manteision ildio’ch trwydded yn wirfoddol

Os ydych yn dymuno ailddechrau gyrru yn y dyfodol, efallai y gallwch yrru dan Adran 88 Deddf Traffig Ffyrdd 1988, cyn gynted ag y bydd DVLA yn derbyn eich cais, ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • mae gan y DVLA gais dilys gennych
  • rhaid i chi fod wedi meddu ar drwydded Prydain Fawr neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded arall y gellir ei chyfnewid, er 1 Ionawr 1976
  • rydych yn glynu wrth unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i chi a'r drwydded
  • nid ydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru
  • gallwch fodloni’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru

Nodwch os gwelwch yn dda, os byddwch yn ildio eich trwydded yrru ni fydd rhaid i chi sefyll prawf gyrru arall.

Mae’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru wedi’u nodi yn yr arweiniad ‘At a glance guide to the current standards of fitness to drive’. Gall pob gweithiwr meddygol gael gafael ar gopi o'r cyhoeddiad hwn, ac felly os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich gallu i fodloni'r safonau hyn, dylech holi eich meddyg cyn i chi ailddechrau gyrru.

Deiliaid trwydded yrru car neu feic modur

Os ydych am ildio eich trwydded car neu feic modur, bydd angen i chi:

  • argraffu ffurflen ‘Datganiad ildio’n wirfoddol’
  • llenwi’r ffurflen
  • anfon y ffurflen i DVLA, gan amgáu’ch trwydded yrru gyfredol

Deiliaid trwydded yrru lori neu fws

Os ydych am ildio’n wirfoddol eich hawl i yrru bws neu lori, neu ddiddymu'r hawl hon at ddibenion yswiriant, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • argraffu ffurflen VOC99/CERT
  • llenwi’r ffurflen gyda’r opsiwn perthnasol
  • anfon y ffurflen i DVLA, gan amgáu’ch trwydded yrru gyfredol

Ble i anfon eich datganiad

Ar ôl i chi lenwi eich datganiad, gallwch ei anfon i DVLA drwy’r post.

Post
Grŵp Meddygol y Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU

Allweddumynediad llywodraeth y DU