Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru agosaf

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddod o hyd i hyfforddwyr gyrru sydd wedi'u cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ac sydd wedi cofrestru â DSA.

Sut mae defnyddio'r gwasanaeth hwn

Gallwch ddefnyddio’ch cod post i ddod o hyd i’r hyfforddwyr gyrru cymeradwy sydd agosaf atoch. Bydd canlyniadau'r chwiliad yn dangos:

  • enw a manylion cyswllt yr hyfforddwr gyrru cymeradwy
  • pa mor bell o’ch cod post y mae’r hyfforddwr gyrru cymeradwy
  • a yw’r hyfforddwr gyrru cymeradwy wedi cofrestru ar gynllun datblygiad proffesiynol parhaus gwirfoddol DSA, a chod ymarfer gwirfoddol yr Asiantaeth

Beth yw’r cynllun datblygiad proffesiynol parhaus a’r cod ymarfer gwirfoddol

Gall hyfforddwyr gyrru cymeradwy gofrestru ar gyfer y cynllun datblygiad proffesiynol gwirfoddol a chod ymarfer.

Y cynllun datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer hyfforddwyr gyrru cymeradwy

Os yw hyfforddwr gyrru cymeradwy wedi cofrestru ar gynllun datblygiad proffesiynol parhaus, mae'n golygu ei fod yn treulio o leiaf saith awr bob blwyddyn yn diweddaru ac yn gloywi ei sgiliau a'i wybodaeth.

Y cod ymarfer i hyfforddwyr gyrru cymeradwy

Os yw hyfforddwr gyrru cymeradwy wedi cofrestru gyda’r cod ymarfer, mae’n golygu ei fod yn cytuno i ddilyn cod DSA sy’n cynnwys:

  • pa mor gymwys ydyw
  • ei ymddygiad personol pan fydd yn eich hyfforddi chi
  • ymddygiad proffesiynol ei fusnes
  • y modd y mae’n hysbysebu
  • sut mae’n delio â chwynion

Hyfforddwyr gyrru cymeradwy nad ydynt yn ymddangos yn y chwiliad

Ni fydd pob hyfforddwr gyrru cymeradwy yn ymddangos yn y chwiliad. Y rheswm am hyn yw y gall hyfforddwyr gyrru cymeradwy ddewis a ydynt am i'w manylion ymddangos ar-lein ai peidio.

Ni ddylech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i weld a yw eich hyfforddwr gyrru cymeradwy wedi cofrestru â DSA. Os ydych am weld a yw wedi cofrestru, ffoniwch 0300 200 1122 a dilynwch yr opsiynau at ‘instructor services’.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Dewis hyfforddwr gyrru

Cael cyngor swyddogol gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru ynghylch dewis hyfforddwr

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU