Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyn i chi ddysgu gyrru cerbyd neu feic modur newydd gwnewch yn sicr eich bod yn ymwybodol o'r rheolau a'r cyfyngiadau sy'n berthnasol i chi. Mae gwahanol oedrannau a chyfyngiadau'n berthnasol i wahanol gerbydau.
Cyn i chi ddechrau gyrru, rhaid i chi:
Mae'n bwysig dysgu arferion gyrru diogel pan fyddwch chi'n dechrau gyrru am y tro cyntaf, gan ei bod yn anodd cael gwared ag arferion drwg.
Mae'n annhebygol y byddai gan unrhyw un heblaw am Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy (ADI) y profiad, y wybodaeth a'r hyfforddiant i'ch dysgu chi'n iawn. Bydd dysgu arferion gyrru diogel o'r dechrau yn golygu eich bod chi a phobl eraill yn fwy diogel ar y ffordd.
Os byddwch chi am ymarfer gyrru gyda gyrrwr arall, rhaid i'r gyrrwr sydd gyda chi fod dros 21 oed ac wedi bod â thrwydded lawn (ac yn dal i fod â'r drwydded honno) ers tair blynedd.
Fel gyrrwr dan hyfforddiant, rhaid i chi arddangos platiau 'L' ('L' neu 'D' yng Nghymru) mewn man amlwg ar flaen a chefn y cerbyd rydych chi'n ei yrru.
* Nodwch os gwelwch yn dda – ni all deiliaid trwyddedau dros dro categori B dynnu ôl-gerbyd (naill ai gyda neu heb lwyth) nes eu bod wedi pasio’r prawf priodol.
Fe allwch chi sefyll eich prawf theori unwaith y bydd eich trwydded dros dro yn ddilys.
Fel arfer, ar gyfer gyrwyr ceir, y dyddiad cynharaf y gall eich trwydded dros dro ddod yn ddilys yw ar eich pen-blwydd yn 17 oed. Gallwch wneud cais am y drwydded hyd at dri mis cyn eich pen-blwydd yn 17, fodd bynnag bydd dal angen i chi aros tan eich pen-blwydd cyn gallu sefyll eich prawf theori.
Am ragor o wybodaeth am wneud cais am drwydded dros dro, cliciwch ar y ddolen isod.
Os ydych chi'n derbyn lwfans byw i'r anabl ar y gyfradd uwch bydd eich trwydded dros dro yn ddilys pan fyddwch chi'n 16 oed, ond gallwch chi wneud cais am y drwydded o fewn tri mis i'ch pen-blwydd yn 16.
Cynllun yw mynediad uniongyrchol sy'n galluogi person dros 21 oed i osgoi'r gwaharddiad dwy flynedd/25 cilowat (kW) drwy sefyll prawf ar beiriant sydd ag o leiaf 35 kW (46.6 marchnerth brêc (bhp)). Bydd pasio'r prawf yn caniatáu i chi yrru beic o unrhyw faint. Os ydych chi'n hyfforddi ar beiriant sydd â manyleb fwy na'r fanyleb arferol ar gyfer beiciau modur i yrwyr dan hyfforddiant, dylai hynny fod wedi'i oruchwylio bob amser gan hyfforddwr beic modur cymeradwy sydd mewn cysylltiad dros radio. Dylech hefyd wisgo dillad llachar neu ddillad sy'n adlewyrchu golau, a dilyn pob cyfyngiad arall ar y drwydded dros dro.
Os yw gyrwyr beic yn 21 oed ond o fewn y cyfnod dwy flynedd lle mae'r cyfyngiad o 25 kW (33ph) ar beiriannau mewn grym, a hwythau'n dymuno gyrru beiciau mwy, rhaid iddynt basio prawf pellach ar feic modur sydd ag o leiaf 35 kW (46.6 bhp). Gallant ymarfer ar feiciau sydd dros 25 kW (33 bhp) o dan yr un amodau ymarfer â gyrwyr beic mynediad uniongyrchol. Byddwch yn dychwelyd i statws gyrrwr dan hyfforddiant tra'n ymarfer ar feic modur sydd â mwy na 25 kW (33 bhp), er na fydd methu'r prawf yn effeithio ar eich trwydded bresennol.
Os ydych chi eisiau gyrru moped, fe gewch chi sefyll eich prawf theori pan fyddwch chi'n 16, ond eto mae'n rhaid i chi sicrhau bod gennych chi drwydded dros dro ddilys.
Os ydych chi'n 16 ac eisoes â thrwydded dros dro ar gyfer cerbyd amaethyddol neu foped, bydd hyn yn rhoi hawl dros dro i chi yrru car pan fyddwch chi'n 17.