Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyn i chi allu dysgu gyrru car, moped neu feic modur, rhaid i chi wneud cais am drwydded yrru dros dro. Os oes gennych eisoes drwydded yrru lawn ddilys ac am ddysgu gyrru cerbydau mwy, bysiau mini neu fysiau, bydd rhaid i chi wneud cais am hawl dros dro i yrru'r cerbydau hyn.
Gallwch wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf ar gyfer car, moped neu feic modur drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel a syml yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Noder os gwelwch yn dda, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych wedi cael trwydded dros dro o’r blaen.
Gallwch wneud cais am eich trwydded yrru dros dro drwy lenwi’r ffurflen gais D1 sydd ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu yn un o ganghennau Swyddfa'r Post®. Bydd gofyn i chi hefyd amgáu dogfennau gwreiddiol i gadarnhau pwy ydych chi, llun lliw ar ffurf llun pasbort a'r ffi o £50.00. Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi a'r taliad i DVLA Abertawe SA99 1AD neu mae’n bosib y gallech ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm.
Os oes gennych chi drwydded bapur lawn dilys ar hyn o bryd, a chithau'n dymuno ychwanegu hawl dros dro i yrru cerbydau mwy, bysiau mini a bysiau, rhaid i chi lenwi ffurflen gais D2 a'r ffurflen adroddiad meddygol D4. Mae'r rhain ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA. Mae'n rhaid i feddyg gwblhau'r D4 a dylech sicrhau bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi'u hateb. Bydd y meddyg fel arfer yn codi ffi am lenwi'r adroddiad a bydd y rheiny sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW yn codi 20 y cant ar ben y ffi.
Mae hi hefyd yn bwysig eich bod yn dychwelyd dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi, llun lliw ar ffurf llun pasbort a'ch trwydded yrru bapur bresennol. Ni chodir unrhyw dâl am y cais hwn. Anfonwch y wybodaeth hon i'r DVLA, Abertawe, SA99 1BR neu mae’n bosib y gallech ddefnyddio’r gwasanaeth gwirio Premiwm.
Os oes gennych chi drwydded cerdyn-llun lawn ddilys, a chithau'n dymuno gwneud cais am drwydded yrru dros dro i yrru cerbydau mwy, bysiau mini a bysiau, rhaid i chi lenwi ffurflen gais D2 a'r ffurflen adroddiad meddygol D4. Rhaid i chi hefyd amgáu eich trwydded cerdyn-llun (gyda'r papur manylion D740) i'r DVLA, Abertawe, SA99 1BR.
Nod y DVLA yw sicrhau eich bod yn derbyn eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i ni dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid i ni wirio'ch manylion personol neu'ch manylion iechyd.
Pan fyddwch yn derbyn eich trwydded, bydd sawl nodwedd newydd arni o ran diogelwch. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëwyd gan laser.
Bydd angen i chi ddisgwyl i'ch trwydded newydd gyrraedd cyn gyrru. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.
Sylwch nad yw'r DVLA bellach yn darparu waledi plastig gyda thrwyddedau gyrru cerdyn-llun. Gwnaed y penderfyniad hwn yn bennaf er mwyn helpu i leihau costau cyflwyno trwyddedau i’r cyhoedd. Derbyniodd yr asiantaeth hefyd nifer o gwynion gan aelodau’r cyhoedd ynghylch maint y waled blastig. O ganlyniad, roedd llawer o yrwyr yn taflu’r waled ac yn defnyddio dull arall o gadw’r drwydded yn ddiogel. Ni ellir dychwelyd hen waledi plastig a anfonir i’r asiantaeth.
Gweler y ddolen isod i gael gwybodaeth am ba gerbydau y cewch eu gyrru a pha mor hen mae'n rhaid bod i’w gyrru.
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os ydych chi wedi dioddef neu'n dioddef ar hyn o bryd o gyflwr meddygol a allai amharu ar eich gyrru.
Rhaid i chi roi gwybod i DVLA os ydych wedi'ch cael yn euog o droseddau'n ymwneud ag oriau gyrru, addasrwydd y cerbyd ar y ffordd neu lwythi, ac os ydych yn gwneud cais am drwydded bws mini neu fws, unrhyw euogfarnau eraill nad ydynt yn ymwneud â gyrru.