Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Wrth wneud cais am drwydded yrru cerdyn-llun rhaid i chi ddarparu prawf o bwy ydych chi yn ogystal â llun. Ni all yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) roi trwydded yrru i chi nes bydd yn fodlon y gall gadarnhau pwy ydych chi.
Rhaid i chi gyflwyno dogfennau gwreiddiol. Ni fydd DVLA yn derbyn llungopïau na thystysgrifau wedi'u lamineiddio.
Pasport digidol y Deyrnas Unedig (DU)
Os oes gennych basport digidol (y llun a’r llofnod yn ymddangos ar yr un dudalen), gall DVLA gadarnhau pwy ydych chi gyda'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau. Does dim rhaid i chi anfon eich pasport at DVLA.
Wrth wneud cais ar-lein, gofynnir i chi roi eich rhif pasport naw digid sy'n caniatáu i DVLA gadarnhau pwy ydych chi.
Os ydych chi’n gwneud cais drwy'r post, gan ddefnyddio ffurflen D1, 'cais am drwydded yrru', ysgrifennwch eich rhif pasport naw digid a'ch llofnod yn yr adran 'cadarnhau pwy ydych chi' ar y ffurflen D1.
Dogfennau adnabod eraill
Mae'r DVLA hefyd yn derbyn y dogfennau canlynol fel prawf o bwy ydych chi. Ond yn wahanol i'r pasport digidol, bydd angen i chi anfon eich dogfen adnabod gyda'ch cais:
Peidiwch ag anfon eich pasport os bydd ei angen arnoch o fewn y mis nesaf. Os yw hyn yn wir dylech ystyried oedi eich cais am drwydded nes y gallwch ei hanfon gyda’ch pasport at DVLA.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddarparu copïau gwreiddiol o un o’r canlynol yn eich enw:
llythyr BR2102, BR2103 neu BR5899 sy’n brawf eich bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth
Tystysgrifau geni a mabwysiadu y DU
Gellir defnyddio tystysgrifau geni a mabwysiadu y DU hefyd, fodd bynnag, gan nad ydynt yn brawf llwyr o bwy ydych chi, rhaid cael un o'r canlynol gyda hwy:
Os nad oes gennych chi dystysgrif geni neu fabwysiadu, neu os nad yw'r un sydd gennych yn dangos eich enw llawn neu wlad eich geni, cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru leol.
Bydd angen i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth os yw eich enw wedi newid a'i fod yn wahanol i'r enw ar y ddogfen hunaniaeth y byddwch yn ei darparu, e.e. tystysgrif priodas wreiddiol, dyfarniad amodol neu derfynol neu ddatganiad gweithred newid enw.
Rhaid i'r manylion a gyflwynwch ddangos cyswllt clir rhwng yr enw sydd ar eich dogfen adnabod a'ch enw presennol.
Bydd y DVLA yn anfon eich dogfennau'n ôl o fewn 10 diwrnod gwaith, ar wahân i'ch trwydded, gyda phost dosbarth cyntaf. Os na fyddwch wedi eu cael o fewn yr amser hwn, cysylltwch â llinell ymholiadau cwsmeriaid y DVLA.
Os hoffech chi i DVLA anfon eich dogfennau adnabod yn ôl atoch drwy drefn cludiant arbennig, dylech gynnwys amlen barod ar gyfer cludiant arbennig. Gwnewch nodyn o’r rhif cyfresol er mwyn i chi allu cyfeirio ato.
Ni all DVLA warantu y bydd yn anfon eich dogfennau yn ôl atoch erbyn dyddiad penodol, er enghraifft, gwyliau.
Bydd angen i chi yrru llun sy'n bodloni safonau penodol er mwyn gallu ei ddefnyddio ar eich trwydded yrru. Efallai y bydd angen cael rhywun i arwyddo cefn y llun hefyd, er mwyn ei ardystio.
Gall cangen o Swyddfa'r Post® neu Swyddfa DVLA leol wirio'ch cais a’i hanfon at DVLA. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer ceisiadau ar-lein.