Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae eich hawl i yrru lorïau, bysiau mini neu fysiau yn ddilys tan eich pen-blwydd yn 45 oed. Wedi hynny, bydd angen i chi adnewyddu’ch hawl bob pum mlynedd nes eich bod yn 65. Unwaith i chi gyrraedd 65 oed, rhaid i chi adnewyddu'ch trwydded bob blwyddyn.
O 19 Ionawr 2013 ymlaen, bydd rheolau trwyddedau gyrru ar gyfer gyrwyr bysiau a lorïau yn newid. I gael gwybod mwy am y newidiadau, dilynwch y ddolen isod.
Bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn anfon ffurflen D47P, sef 'cais i adnewyddu hawl i yrru lori a bws' a ffurflen D4, sef 'adroddiad archwiliad meddygol', atoch 56 diwrnod cyn i'ch hawl i yrru ddod i ben.
Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Bydd neges ar eich ffurflen D47P yn dweud wrthych a yw'n amser i chi adnewyddu'ch llun, ac os yw'n amser ei adnewyddu, bydd angen i chi gynnwys llun math pasbort newydd a ffi o £20.00. Dim ond os oes angen adnewyddu'r llun y bydd angen i chi gynnwys y ffi.
Os yw'ch enw wedi newid bydd angen i chi anfon y canlynol yn ogystal â'r uchod:
Adnewyddu heb ffurflen D47P, sef 'cais i adnewyddu hawl i yrru lori a bws'
Os na fyddwch, am unrhyw reswm, yn cael y ffurflenni'n eich atgoffa i wneud cais, gallwch lenwi ffurflen D2 gyda ffurflen D4, sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA.
Bydd angen i chi hefyd edrych ar y dyddiad y mae oes eich llun yn dod i ben ar eich trwydded yrru. Os yw'n dod i ben yn fuan iawn bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad daw i ben. Gellir gweld y dyddiad y bydd eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.
Os oes gennych drwydded yrru bapur
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen D2 gyda'r ffurflen D4, os na chewch y ffurflen D47P drwy'r post. Nid oes angen unrhyw ffi gyda'r cais hwn.
Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol.
Pan fyddwch yn cael eich trwydded, bydd ganddi nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.
Unwaith y bydd DVLA wedi cael eich cais dilys, cewch yrru cyn i chi gael eich trwydded cyn belled â bod y canlynol yn wir:
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os ydych chi wedi dioddef neu'n dioddef ar hyn o bryd o gyflwr meddygol a allai amharu ar eich gyrru.
Os ydych chi'n gwneud cais am drwydded LGV neu PCV, neu os oes gennych chi un eisoes, bydd rhaid i'ch ymddygiad wrth yrru fod o safon uwch.