Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfnewid trwydded gwlad dramor

Os oes gennych chi drwydded yrru dramor ac yn dymuno'i chyfnewid am drwydded yrru Brydeinig, mae rhai amodau penodol sy'n rhaid eu hystyried wrth wneud cais am hynny.

Offerynnau rhyngweithiol

Yr ydym wastad yn ceisio gwella ein gwasanaeth, ac yr ydym wedi creu ffordd i chi dderbyn y gwybodaeth fwyaf cywir sydd wedi ei selio ar eich anghenion unigol yn lle y cynnwys isod. Os yn bosib, defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol a rhowch eich sylwadau i ni ar ôl i chi orffen os gwelwch yn dda.

Gwneud cais am gyfnewid trwydded o wlad dramor

Os ydych chi'n awyddus i newid eich trwydded yrru am drwydded Brydeinig, mae'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais D1 sydd ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a changhennau Swyddfa'r Post® . Bydd gofyn i chi amgáu dogfennau gwreiddiol i gadarnhau pwy ydych chi a ffotograff lliw, ar ffurf llun pasbort. Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi a'r ffi berthnasol i DVLA, Abertawe, SA99 1BT.

Os yw'r drwydded sy'n cael ei chyfnewid yn un alwedigaethol, ac i'r wreiddiol gael ei rhoi yn Jersey, Guernsey neu Ynys Manaw, rhaid i chi ddarparu ffurflen adroddiad meddygol D4. Rhaid i’r ffurflen gael ei llenwi gan feddyg, gan sicrhau bod yr holl gwestiynau wedi'u hateb.

Os cafodd eich trwydded alwedigaethol ei rhoi mewn gwlad sydd yn y Gymuned Ewropeaidd (GE) neu yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), bydd angen i chi ddarparu ffurflen adroddiad meddygol os ydych chi'n 45 oed neu'n hŷn pan fyddwch chi'n cyfnewid y drwydded. Mae hyn yn angenrheidiol hyd yn oed os yw eich trwydded alwedigaethol yn gyfredol. Gellir cael ffurflenni cais D2 a ffurflen feddygol D4 drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA.

Gwasanaeth gwirio premiwm os oes gennych chi drwydded yrru o'r GE/RhEE, Gibraltar a gwledydd penodol eraill

Os oes gennych drwydded yrru lawn y GE/AAE, Gibraltar neu wlad ddynodedig, cewch ei chyfnewid am drwydded gyfatebol y DU gan ddefnyddio gwasanaeth gwirio premiwm.

Rheolau ar gyfer cyfnewid

Rhaid bodloni'r amodau canlynol cyn y gellir rhoi trwydded yn gyfnewid am drwydded Brydeinig:

  • rhaid i chi fel rheol fod yn byw yng Ngwledydd Prydain ac â chyfeiriad parhaol yma
  • os oes gennych chi drwydded yrru un o wledydd y GE, yn gwneud cais am brawf Prydeinig ac yn cyfnewid eich trwydded ar yr un pryd, ac os ydych chi wedi symud i Brydain yn ddiweddar ar ôl bod yn byw yn barhaol mewn gwlad arall yn y GE neu RhEE, mae'n rhaid i chi fod wedi bod yma ym Mhrydain am 185 diwrnod yn y 12 mis cyn gwneud cais am drwydded yrru lawn
  • rhaid i drwyddedau o'r gwledydd dynodedig fod yn rhai cyfredol pan fydd y DVLA yn derbyn y cais i'w cyfnewid
  • rhaid i chi fod wedi pasio’ch prawf yn y wlad ddynodedig a roddwyd eich trwydded yrru gyfredol – cysylltwch â DVLA am gyngor
  • mae trwyddedau o Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel yn dderbyniol i'w cyfnewid os cawsant eu rhoi ar ôl 01/04/91. Gall y rhai hynny a roddwyd mewn unrhyw wlad yn y GE neu RhEE fod yn ddilys i'w cyfnewid hyd yn oed os ydynt wedi dod i ben
  • rhaid i chi ildio eich trwydded dramor a bydd honno'n cael ei dychwelyd i'r awdurdod oedd wedi'i rhoi yn wreiddiol
  • nid oes modd cyfnewid hawlenni gyrru rhyngwladol
  • nid oes modd cyfnewid tystysgrifau pasio prawf oni bai am y rheiny sy'n cael eu rhoi yng Ngogledd Iwerddon neu Gibraltar a'r prawf wedi'i basio o fewn dwy flynedd i'r dyddiad gwneud cais am drwydded
  • rhaid cynnwys cyfieithiad swyddogol gyda thrwyddedau Tsiapaneaidd, ac mae hyn ar gael am ffi gan Gonswl Cyffredinol Siapan yn 101-104 Piccadilly, Llundain W1J 7JT, neu 2 Melville Crescent, Caeredin, EH3 7HW
  • rhaid cynnwys cyfieithiad swyddogol gyda thrwyddedau Gweriniaeth Corea, a cheir hyn gan Lysgenhadaeth Gweriniaeth Corea yn 60 Buckingham Gate, Llundain, SW1E 6AJ
  • nid oes modd cyfnewid trwyddedau beic modur o Weriniaeth Corea a’r Ynysoedd Ffaröe

Ni fydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried fel ‘preswylio’n arferol’ at ddibenion cais am drwydded yrru:

  • os nad oes ganddynt ganiatâd i aros yn y DU
  • os ydyn nhw yn y wlad dros dro heb ganiatâd i aros yn y DU naill ai wrth ddisgwyl penderfyniad am gais i aros yn y DU neu’n dilyn penderfyniad sy’n gwrthod cais o'r fath

De Affrica

Dim ond os yw trwyddedau gyrru De Affrica yn y fformat cerdyn credyd newydd y gellir eu cyfnewid.

Hefyd, mae’r rheolau canlynol yn berthnasol:

  • rhaid i’r drwydded a’r llun fod yn ddilys – ers 18 Mawrth 2009, os yw’r llun wedi dod i ben bydd y cais yn cael ei wrthod
  • rhaid i drwyddedau gael eu cyfnewid o fewn pum mlynedd o breswylio yn y DU
  • nid yw mathau eraill o drwyddedau a roddwyd yn Transkei, Ciskei, Venda, KaNgwane, KwaNdebele, Gazankula, Lebowa a Bophuthatswana yn dderbyniol ar gyfer cyfnewid
  • os mai dim ond llythyr hawl gan yr Awdurdod Trwydded Yrru De Affrica sydd gennych, rhaid iddo ddangos dyddiad dod i ben a bod yn ddilys am chwe mis o’r dyddiad cyhoeddi

Trwyddedau o Ganada

Os oes gennych chi drwydded o Ganada, dim ond ceir gyda thrawsyriant awtomatig gewch chi eu gyrru wrth gyfnewid y drwydded am un Brydeinig. Ni chaiff hon ei diweddaru'n drwydded trawsyriant gyda llaw hyd nes y cyflwynir tystiolaeth, gan yr awdurdod trwyddedu perthnasol, fod prawf trawsyriant â llaw wedi'i basio.

Beth sy’n digwydd os ydych yn gyrru lori, bws neu fws moethus yn broffesiynol

Os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru dramor am drwydded yrru ar gyfer y DU, efallai y bydd yn effeithio ar eich Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) i Yrwyr. Mynnwch wybod pa reolau sy'n gymwys os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru tra bod gennych CPC i Yrwyr neu os hoffech ei chael.

Allweddumynediad llywodraeth y DU