Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr: beth sy'n digwydd os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru

Os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru dramor am drwydded yrru ar gyfer y DU, efallai y bydd yn effeithio ar eich Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) i Yrwyr. Mynnwch wybod pa reolau sy'n gymwys os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru tra bod gennych CPC i Yrwyr neu os hoffech ei chael.

Pa mor hir y bydd eich CPC i Yrwyr yn para os byddwch yn cyfnewid eich trwydded

Os oes gennych CPC i Yrwyr

Os byddwch yn cyfnewid eich trwydded, bydd eich CPC i Yrwyr yn para hyd at y dyddiad gwreiddiol roedd yn mynd i ddod i ben

Os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru nad yw ar gyfer gwlad yn y DU nac aelod-wladwriaeth yr UE am drwydded yrru'r DU, gallwch hefyd gyfnewid eich cymhwyster CPC i Yrwyr.

Bydd cerdyn cymhwyster gyrrwr (DQC) CPC newydd y DU yn para hyd at y dyddiad roedd eich cerdyn gwreiddiol yn mynd i ddod i ben.

Os dangosir eich cymhwyster CPC i Yrwyr gwreiddiol gan god 95 ar eich trwydded yrru, ni fydd gennych DQC ar wahân i'w gyfnewid. Pan fyddwch yn cyfnewid eich trwydded:

  • bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA)
  • bydd DSA yna yn anfon DQC atoch

Cyfnewid eich trwydded os oes eisoes gennych DQC

Os oes gennych DQC

Unwaith y byddwch wedi cyfnewid eich trwydded yrru, os oes gennych DQC dramor, dylech ei anfon i DSA i'w gyfnewid

Os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru dramor am drwydded y DU a bod eisoes gennych DQC, bydd angen i chi anfon eich DQC i DSA er mwyn:

  • iddo gael ei gofnodi ar gronfa ddata DSA
  • i DSA gyflwyno DQC gyda'r un rhif â'ch trwydded yrru ar gyfer y DU

Mae DSA yn argymell y dylech anfon eich DQC i DSA drwy ddefnyddio post 'special delivery'.

Ble i anfon eich DQC

Bydd angen i chi nodi rhif eich trwydded yrru ar gyfer y DU mewn llythyr byr a'i anfon gyda'ch DQC i:

Driving Standards Agency
Driver CPC Team
PO Box 280
Newcastle-Upon-Tyne
NE99 1FP

Rheolau'r DU ar gyfer adnewyddu eich CPC i Yrwyr

O hynny ymlaen, ar ôl gwneud 35 awr o hyfforddiant cyfnodol yn y DU, cewch eich cymhwyster CPC i Yrwyr am bum mlynedd. Mae hwn yr un peth â deiliaid trwyddedau eraill y DU.

Gyrwyr o Jersey, Guernsey, Ynys Manaw neu Gibraltar

Os ydych yn dod o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Gibraltar ac yn gyrru'n broffesiynol yn yr UE, gallwch:

  • wneud cais am eich cymhwyster CPC i Yrwyr cychwynnol
  • gwneud hyfforddiant cyfnodol

Mae hyn yn golygu y gallwch yna gael DQC.

Cawsoch eich trwydded alwedigaethol cyn i'r CPC i Yrwyr gael ei chyflwyno

Os cawsoch eich trwydded alwedigaethol cyn i'r CPC i Yrwyr gael ei chyflwyno, gallwch wneud hyfforddiant cyfnodol ym Mhrydain Fawr.

Dylai hyfforddwyr dderbyn:

  • eich pasbort dilys fel prawf adnabod gyda'ch trwydded bapur i brofi eich hawl i wneud hyfforddiant cyfnodol
  • eich trwydded cerdyn-llun fel prawf adnabod i brofi eich hawl i wneud hyfforddiant cyfnodol

Pan fyddwch wedi gwneud 35 awr o hyfforddiant cyfnodol o fewn pum mlynedd, gallwch wneud cais am DQC drwy ddefnyddio ffurflen gais DQC1.

Cawsoch eich trwydded alwedigaethol ar ôl i'r CPC i Yrwyr gael ei chyflwyno

Os gwnaethoch lwyddo yn eich profion trwydded alwedigaethol ar ôl i'r CPC i Yrwyr gael ei chyflwyno, gallwch wneud cais i gymryd:

  • astudiaethau achos CPC i Yrwyr (rhan dau)
  • prawf arddangos ymarferol CPC i Yrwyr (rhan pedwar)

Sut i wneud cais i sefyll profion CPC i Yrwyr

Gallwch wneud cais i sefyll y ddau brawf CPC i Yrwyr drwy ffonio DSA ar 0300 200 1122.

Pan fyddwch wedi llwyddo ym mhrofion CPC i Yrwyr

Pan fyddwch wedi llwyddo yn y ddau brawf, dylech wneud cais am DQC drwy ddefnyddio ffurflen gais DQC 1.

Sut i wneud cais am DQC

Gallwch wneud cais am DQC drwy gwblhau ffurflen gais DQC1 . I gael copi o'r ffurflen gais, anfonwch e-bost i customer.services@dsa.gsi.gov.uk

Ble i anfon eich ffurflen gais

Anfonwch eich ffurflen DQC1 wedi'i chwblhau i:

Driving Standards Agency
Driver CPC Team
PO Box 280
Newcastle
NE99 1FP

Pa mor hir y mae'n ei gymryd i gael eich DQC yn ôl

Mae DSA yn anelu at gyflwyno DQC o fewn 15 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen i DSA gadarnhau:

  • hyfforddiant a wnaed mewn aelod-wladwriaeth arall yn yr UE
  • amser a lleoliad preswylfa neu gyflogaeth

Additional links

Oriau hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr

Gwirio faint o oriau o hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr rydych wedi’u gwneud

Oriau gyrrwyr a thacograffau

Cael gwybod am y rheolau ar gyfer oriau gyrwyr a thacograffau

Allweddumynediad llywodraeth y DU