Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn pasio eich Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC i Yrwyr), byddwch yn cael Cerdyn Cymhwyster Gyrrwr (DQC). Mynnwch wybod mwy am y DQC, gan gynnwys pryd y byddwch yn ei gael, a sut i wneud cais os bydd angen cerdyn newydd arnoch.
Byddwch yn cael DQC yn awtomatig pan fyddwch yn pasio'r cymhwyster cychwynnol CPC i Yrwyr. Bydd yn cael ei anfon i'r cyfeiriad ar eich trwydded yrru. Felly, gwnewch yn siŵr bod gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau eich manylion diweddaraf.
Os oes gennych CPC i Yrwyr drwy 'hawliau caffaeledig' gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru alwedigaethol fel prawf o'ch CPC i Yrwyr hyd:
Erbyn hynny, byddwch wedi cwblhau eich 35 awr gyntaf o hyfforddiant cyfnodol. Bydd eich canolfan hyfforddi'n llwytho manylion eich hyfforddiant i gronfa ddata'r CPC i Yrwyr.
Byddwch yn cael DQC pan fyddwch wedi cwblhau eich hyfforddiant cyfnodol os oes gennych drwydded cerdyn-llun Prydain Fawr. Bydd yn cael ei anfon i'r cyfeiriad ar eich trwydded yrru.
Os oes gennych drwydded bapur bydd angen i chi ei chyfnewid am drwydded cerdyn-llun er mwyn cael eich DQC, am fod angen llun a llofnod ar y DQC, a gymerir o gofnod y drwydded cerdyn-llun.
Mae'n rhaid i chi gario eich DQC bob amser pan fyddwch yn gyrru'n broffesiynol
Mae'n rhaid i chi gario prawf o'ch CPC i Yrwyr bob amser pan fyddwch yn gyrru'n broffesiynol. Os na fydd gennych eich DQC pan fyddwch yn gyrru'n broffesiynol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau.
Os oes gennych 'hawliau caffaeledig', mae eich trwydded yrru yn brawf o'ch CPC i Yrwyr. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i chi gario eich trwydded yrru gyda chi.
Os gofynnir i chi ei chyflwyno, bydd yn rhaid i chi wneud hynny maes o law fel tystiolaeth o'ch 'hawliau caffaeledig'. Gall hyn olygu ei dangos i swyddog yr heddlu mewn gorsaf heddlu.
Gorfodir CPC i Yrwyr ym mhob un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd (UE). Os byddwch yn gyrru'n broffesiynol yn un o wledydd eraill yr UE, bydd yn rhaid i chi gael CPC ddilys i Yrwyr a chario eich DQC o hyd.
Bydd angen i chi:
Os bydd eich DQC yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar unwaith.
Gallwch wneud cais am gerdyn newydd drwy:
Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i DSA:
Wedyn bydd DSA yn trefnu bod rhywun yn eich ffonio yn ôl i barhau â'ch cais.
Codir ffi am gardiau newydd. Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd arnoch i dalu'r ffi hon. Defnyddiwch y ddolen hon i edrych ar ffioedd DQC ar wefan Business Link.
Gallwch barhau i yrru'n broffesiynol tra byddwch yn aros i DQC newydd gyrraedd
Gallwch barhau i yrru'n broffesiynol tra byddwch yn aros i'ch DQC newydd gyrraedd.
Os na fydd yn cyrraedd o fewn 15 diwrnod i wneud cais, cysylltwch â DSA i gadarnhau bod ganddynt eich cais a'i fod yn cael ei brosesu.
Dylech gadw copi o lythyrau a chael prawf postio pan fyddwch yn cysylltu â DSA. Gallwch gael prawf postio am ddim ar gyfer llythyrau a gaiff eu postio mewn Swyddfa Bost.
Mae DSA yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i'ch cyflogwr os caiff eich cerdyn ei golli neu ei ddwyn.
Os ydych yn yrrwr o wlad y tu allan i’r DU, o aelod-wladwriaeth y UE neu o drydedd wlad ac mae arnoch angen cyfnewid eich trwydded yrru, gallwch hefyd gael gwybod mwy ynghylch gwneud cais am DQC yn y DU.