Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os cafodd eich trwydded yrru ei chyhoeddi cyn Ionawr 1997 a'ch bod yn dymuno dysgu gyrwyr dan hyfforddiant mewn cerbyd categori C1 neu D1 (gan gynnwys cyfuniadau trelar a cherbyd), efallai y bydd angen i chi basio'r prawf gyrru perthnasol cyn y cewch oruchwylio gyrwyr eraill. Yma cewch wybod sut y gallai hyn effeithio arnoch chi.
Roedd gyrwyr a oedd wedi pasio eu prawf gyrru cyn Ionawr 1997 yn cael hawliau awtomatig, a elwir weithiau’n ‘hawliad taid’. Felly bydd gan ddeiliad y drwydded hawl i yrru lorïau bach, bysiau mini a cherbyd â threlar (categorïau C1, C1+E, D1 a D1+E), yn amodol ar rai cyfyngiadau.
Nawr, mae'n rhaid i unrhyw un sy'n goruchwylio gyrwyr dan hyfforddiant mewn cerbydau categori C1 neu D1 (gan gynnwys cerbyd â threlar) gael yr hawl lawn drwy basio’r profion theori a gyrru ymarferol ar gyfer gyrru’r cerbyd y bydd y gyrrwr dan hyfforddiant yn ei yrru. Nid yw hawliau awtomatig yn eich galluogi i oruchwylio gyrwyr dan hyfforddiant mewn cerbydau C1 a D1 mwyach.
Y gofynion cyffredinol ar gyfer goruchwylio gyrwyr mewn cerbydau categori C1 a D1 yw ei bod yn rhaid i'r ddau ohonynt:
Rhaid i hyfforddwyr sydd am barhau i fod yn yrwyr goruchwyliol fod wedi pasio’r profion gyrru perthnasol cyn 1 Mai 2010.
Bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrru yn gwneud yn siŵr yr ystyrir bod unrhyw un sydd wedi pasio’r prawf cyn 1 Mai 2010 yn bodloni’r gofyniad ynghylch y cyfnod perthnasol. Gan amlaf, mae’r cyfnod perthnasol yn dair blynedd o ddyddiad y newid.
Os byddwch yn pasio’r prawf gyrru perthnasol ar ôl 1 Mai 2010, bydd yn rhaid i chi aros tair blynedd cyn cael goruchwylio gyrwyr eraill.