Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i fod yn yrrwr tacsi neu’n yrrwr cerbyd llog preifat

Mae gyrwyr cerbyd llog preifat a gyrwyr tacsi proffesiynol yn gyfrifol am ddiogelwch teithwyr sy’n talu am eu gwasanaeth. Bydd arnoch angen trwydded yrru lawn, a bydd rhai awdurdodau lleol yn gofyn i chi basio asesiad gyrru pellach. Yma gallwch gael gwybodaeth am asesiadau cerbydau llog preifat a thacsis.

Pwy gaiff fod yn yrrwr tacsi neu'n yrrwr cerbyd llog preifat

I fod yn yrrwr tacsi neu’n yrrwr cerbyd llog preifat, rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • gallwch weithio’n gyfreithlon yn y DU
  • mae gennych naill ai drwydded yrru lawn y DU a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, neu drwydded yrru lawn yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â phapur manylion y DU

Gallai’r gofynion eraill gynnwys talu ffi a phasio’r canlynol:

  • archwiliad cofnod troseddol
  • archwiliad meddygol
  • prawf ‘gwybodaeth’ i brofi bod gennych adnabyddiaeth resymol o’r ardal y byddwch yn gyrru ynddi
  • prawf gyrru ymarferol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA)

Prawf tacsi ymarferol yr Asiantaeth Safonau Gyrru

Mae rhai ardaloedd awdurdod lleol hefyd yn gofyn i yrwyr sefyll prawf tacsi’r Asiantaeth Safonau Gyrru. Mae safon y prawf wedi’i gosod ar lefel sy’n addas i rai sy’n dal trwydded yrru lawn, sy’n safon uwch na’r prawf i ddysgwyr.

Prawf golwg

Cyn y prawf tacsi ymarferol bydd eich arholwr yn gofyn i chi ddarllen y plât rhif ar gerbyd sy'n sefyll yn ei unfan. Gallwch ddefnyddio sbectol neu lensys os ydych yn eu gwisgo. Os byddwch yn methu’r prawf golwg, ni fyddwch yn gallu sefyll rhan gyrru’r asesiad. Ond bydd yn dal yn bosib i chi barhau â’r adran cadair olwyn os yw hynny’n briodol.

Prawf ymarferol

Bydd y prawf tacsi ymarferol yn para rhwng 35 a 40 munud. Mae rhai o’r sgiliau a asesir yn benodol i yrwyr tacsis, fel:

  • gwneud tro pedol
  • peidio â stopio lle gallai fod yn beryglus i deithiwr fynd allan o’ch cerbyd

Bydd yr arholwr hefyd yn gofyn rhai cwestiynau i chi am Reolau’r Ffordd Fawr ac yn gofyn i chi adnabod rhai arwyddion traffig a marciau ffordd.

Bydd y prawf gyrru ymarferol yn cynnwys oddeutu deg munud o yrru annibynnol. Cynllunnir hyn i asesu eich gallu i yrru’n ddiogel wrth wneud penderfyniadau’n annibynnol.

Ymarfer cadair olwyn

Os bydd yr awdurdod trwyddedu yn gofyn i chi sefyll yr asesiad cadair olwyn fel rhan o’ch prawf, bydd angen i chi ddangos i’r arholwr eich bod yn gwybod sut i:

  • ddefnyddio’r ramp mynediad
  • wneud yn siŵr bod eich teithwyr yn gwbl ddiogel yn y cerbyd

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y prawf

I basio’r prawf gyrru tacsi, bydd angen i chi ei gwblhau heb fwy na naw o fân gamgymeriadau. Byddwch yn methu os byddwch yn gwneud unrhyw gamgymeriad difrifol neu beryglus.

Os byddwch yn methu’r prawf ymarferol, rhaid i chi aros am o leiaf dri diwrnod gwaith clir cyn ei sefyll eto. Does dim cyfyngiad ar faint o weithiau y gallwch sefyll y prawf.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am brawf tacsi’r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy ofyn y cyngor lleol yn yr ardal lle byddwch yn gweithio.

Additional links

Rheolau’r Ffordd Fawr

Darllenwch Rheolau’r Ffordd Fawr ar-lein

Arbedwch danwydd – lleihewch ollyngiadau

Yma cewch wybod sut y gall gweithredoedd syml fel gyrru’n esmwyth arbed tanwydd i chi a lleihau gollyngiadau

Allweddumynediad llywodraeth y DU