Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod yn yrrwr lori neu fws

Er mwyn bod yn yrrwr lori neu fws, mae arnoch angen gwneud yn siŵr bod y drwydded gywir gennych chi ar gyfer y cerbyd dan sylw. Bydd hyn yn dibynnu ar bwysau eich cerbyd. Dyma'r hyn y mae arnoch angen ei wneud i fod yn yrrwr lori neu fws.

Newidiadau i reolau trwyddedau gyrru ar gyfer gyrwyr bysiau a lorïau

O 19 Ionawr 2013, bydd rheolau ar gyfer trwyddedau i yrru bysiau a lorïau yn newid. I gael gwybod mwy am y newidiadau, dilynwch y ddolen isod.

Beth mae gyrrwr lori, bws neu fws moethus yn ei wneud

Bydd dal trwydded yrru bws neu lori yn caniatáu i chi weithio i gwmni neu sefydliad yn gyrru eich cerbyd yn lleol, yn genedlaethol neu ar draws Ewrop.

Beth y cewch ei wneud fel gyrrwr lori

Fel gyrrwr lori, cewch wneud y canlynol:

  • danfon deunyddiau siop neu adeiladu (danfon i sawl lle)
  • gyrru cynhwysydd blwch neu gerbydau â llenni ar yr ochrau
  • gyrru tanceri sy'n cynnwys hylifau megis tanwydd neu laeth
  • gyrru tanceri sy'n cynnwys powdrau megis sment neu flawd
  • cludo da byw
  • danfon nwyddau y rheolir eu tymheredd megis salad, blodau neu fwydydd wedi'u rhewi

Beth y cewch ei wneud fel gyrrwr bws moethus

Fel gyrrwr bws moethus, cewch yrru'n bell:

  • tripiau dydd neu wasanaethau maes awyr
  • cyrchfannau gwyliau yn Ewrop

Beth y cewch ei wneud fel gyrrwr bws

Fel gyrrwr bws, cewch yrru'n lleol, gwasanaethau wedi'u hamserlennu neu wasanaethau ysgol.

Y drwydded yrru y mae ei hangen i yrru lori neu fws

Eich ymddygiad wrth yrru fel gyrrwr proffesiynol

Dylai gyrrwr proffesiynol osod esiampl i yrwyr eraill. Dylech chi wneud yn siŵr bod y cerbyd yn cael ei yrru gyda chymaint o ddiogelwch, cwrteisi ac ystyriaeth â phosibl at bawb arall ar ffyrdd prysur heddiw.

Os byddwch yn colli eich hawl trwydded car unrhyw bryd, byddwch hefyd yn colli eich trwydded LGV neu PCV yn awtomatig.

Yr hyn y mae gofyn i chi ei wneud i ddod yn yrrwr proffesiynol

Er mwyn bod yn yrrwr proffesiynol mae'n bwysig eich bod yn cael yr hyfforddiant a'r cyfarwyddyd cywir cyn sefyll eich prawf ymarferol. Ceir rhestr o fudiadau a hyfforddwyr cymeradwy'r Asiantaeth Safonau Gyrru ar gyfer hyfforddiant LGV ar wefan Business Link.

Beth fydd angen i chi ei wneud

Fel gyrrwr proffesiynol newydd, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • pasio’r pedwar prawf modiwl y CPC i Yrwyr
  • cyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol bob pum mlynedd ar ôl i chi basio

Y profion y bydd angen i chi eu sefyll

Er mwyn cael trwydded i yrru lori a/neu fws bydd yn rhaid i chi basio'r profion canlynol:

  • profion theori ac adnabod peryglon
  • prawf gyrru ymarferol
  • Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC i Yrwyr)

Safonau iechyd a meddygol

Er mwyn cael trwydded yrru ar gyfer bws neu lori, bydd arnoch angen cael archwiliad meddygol i wneud yn siŵr eich bod yn addas i yrru.

Additional links

Oriau hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr

Gwirio faint o oriau o hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr rydych wedi’u gwneud

Oriau gyrrwyr a thacograffau

Cael gwybod am y rheolau ar gyfer oriau gyrwyr a thacograffau

Allweddumynediad llywodraeth y DU