Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae dwy ran i'r prawf theori – y rhan amlddewis a'r rhan adnabod peryglon. Does dim ots pa brawf fyddwch chi’n ei sefyll yn gyntaf, ond bydd angen i chi basio’r ddau i gael eich tystysgrif prawf. Ar ôl i chi basio’r profion, bydd gennych ddwy flynedd i basio’ch prawf ymarferol.
Gellir sefyll y ddwy ran ar wahanol adegau, ond mae'n rhaid pasio'r ddwy ran o fewn cyfnod o 24 mis er mwyn cael tystysgrif pasio ddilys ar gyfer y prawf theori.
Rhan un – amlddewis
Cyn cychwyn y prawf amlddewis, fe gewch chi gyfarwyddiadau ynghylch yr hyn ddylech chi ei wneud. Fe gewch chi sesiwn ymarfer hefyd i weld sut mae’r cwestiynau wedi’u gosod, a sut mae defnyddio’r cyfrifiadur sgrin gyffwrdd.
Pan fydd y prawf yn dechrau, bydd cwestiwn ac amryw o atebion posib yn ymddangos ar y sgrin. Bydd rhaid i chi ddewis yr ateb cywir i’r cwestiwn drwy gyffwrdd y sgrin neu ddefnyddio’r llygoden. Efallai y bydd mwy nag un ateb cywir i rai cwestiynau.
Gofynnir 100 cwestiwn i chi mewn 115 munud. Fe allwch chi symud rhwng cwestiynau a rhoi 'baner' ar gwestiynau y byddwch yn dymuno mynd yn ôl atynt yn ddiweddarach yn y prawf.
Y marc pasio ar gyfer rhan amlddewis y prawf theori yw 85 allan o 100.
Rhan dau – adnabod peryglon
Yn y prawf adnabod peryglon, fe ddangosir clip fideo byr i chi ynghylch sut mae’r prawf yn gweithio. Bydd cyfres o 19 clip fideo yn cael ei dangos i chi o sefyllfaoedd bob dydd ar y ffordd. Ym mhob clip, bydd o leiaf un perygl yn datblygu, ond bydd dau berygl yn datblygu yn un o'r clipiau.
I gael sgôr uchel yn y prawf, bydd angen i chi ymateb yn gynnar i’r peryglon sy’n datblygu. Y sgôr mwyaf y gallwch chi ei gael ar gyfer pob perygl yw pump. Ni fydd modd i chi adolygu’ch atebion i’r prawf oherwydd, yn yr un modd â phan fyddwch chi’n gyrru ar y ffordd, dim ond un cyfle fydd gennych chi i ymateb.
Y marc pasio ar gyfer rhan adnabod peryglon y prawf theori yw 67 allan o 100.
Ar ddiwedd y prawf
Ar ddiwedd rhan adnabod peryglon y prawf theori, fe'ch gwahoddir i ateb nifer o gwestiynau ar gyfer arolwg cwsmeriaid. Bydd rhai cwestiynau enghreifftiol i’w hateb hefyd, ac mae’n bosib y caiff y rhain eu cynnwys mewn profion yn y dyfodol. Does dim rhaid i chi ateb y cwestiynau os nad ydych chi'n dymuno, a bydd yr wybodaeth a roddir yn ddienw ac yn gyfrinachol. Nid yw cwestiynau’r arolwg yn effeithio ar ganlyniadau eich prawf.
Ar ôl i chi orffen y prawf, fe gewch chi adael yr ystafell arholi. Pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell, chewch chi ddim mynd yn ôl i mewn.
Fe gewch chi lythyr pasio a fydd yn nodi'r canlyniadau ar gyfer y rhan o'r prawf theori rydych wedi'i chyflawni.
Ar ôl i chi basio’r ddwy ran, fe gewch chi eich tystysgrif prawf theori drwy’r post, a bydd rhif eich prawf theori i'w weld ar y dystysgrif. Bydd arnoch angen y rhif hwn pan fyddwch chi’n trefnu eich prawf ymarferol.
Mae'ch tystysgrif prawf theori yn ddilys am ddwy flynedd o’r dyddiad y gwnaethoch basio rhan gyntaf y prawf. Gallai hyn olygu naill ai’r rhan adnabod peryglon neu’r rhan amlddewis.
Os na fyddwch chi’n sefyll eich prawf ymarferol o fewn dwy flynedd i basio’r elfen gyntaf, bydd rhaid i chi ailsefyll y rhan berthnasol.
Does dim eithriadau i'r rheolau hyn.
Cewch lythyr yn cyhoeddi’ch canlyniad, a fydd yn dweud wrthych a ydych wedi pasio ynteu fethu ac yn rhoi adborth ar eich prawf. Mae’n cynnwys yr adrannau lle gwnaethoch ateb yn anghywir, er mwyn i chi wybod pa elfennau y dylech edrych arnynt eto. Mae hefyd yn rhoi dadansoddiad o’r sgoriau a gawsoch yn y prawf adnabod peryglon drwy ddweud sawl sgôr o bump, pedwar a thri gawsoch chi.
Os mai sero, un a dau bwynt gawsoch chi'n bennaf, dydych chi ddim yn ymateb yn ddigon cyflym i'r perygl sy'n datblygu ar y sgrin. Os mai pedwar a phum pwynt gawsoch chi’n bennaf, rydych yn adnabod y peryglon sy'n datblygu yn gyflym.
Os byddwch chi’n methu, bydd yr adborth yn y llythyr yn dweud wrthych pam eich bod wedi methu.
Os hoffech chi drefnu prawf theori arall, gallwch drefnu un arall yn syth. Ond, ni allwch sefyll y prawf am dri diwrnod gwaith llawn. Felly, os gwnaethoch fethu’ch prawf cyntaf ar brynhawn dydd Llun, bydd rhaid i chi aros tan fore dydd Gwener cyn gallu sefyll eich prawf theori nesaf.