Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dysgu gyrru tractor neu gerbyd arbenigol

Wrth ddysgu i yrru cerbyd arbenigol, bydd angen i chi ddod o hyd i yrrwr profiadol a fydd yn gallu eich dysgu i ddefnyddio'r cerbyd yn gywir. Bydd Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy (HGC) wedi cael ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) i ddysgu gyrwyr dan hyfforddiant i yrru mathau penodol o gerbydau.

Dod o hyd i yrrwr profiadol

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio HGC os ydych chi'n dysgu i yrru cerbyd sydd â:

  • rheolyddion tebyg i gar
  • dwy sedd flaen

Ar gyfer cerbydau eraill, dylech chi ddod o hyd i rywun sydd:

  • yn yrrwr profiadol o'r cerbyd rydych chi am ei yrru
  • yn gallu egluro'r sgiliau y mae'n rhaid i chi eu dysgu yn glir ac yn syml
  • yn amyneddgar ac yn ystyriol
  • yn meithrin eich hyder

Os bydd eich cyflogwr yn mynnu eich bod yn sefyll prawf mewn cerbyd arbenigol, rhaid i chi gael hyfforddiant addas.

Rheolau ynghylch ymarfer

Pan fyddwch chi'n ymarfer gyrru ar ffyrdd cyhoeddus, rhaid i'ch cerbyd ddangos platiau L, neu D yng Nghymru. Rhaid i'ch cerbyd fod wedi'i yswirio'n iawn er mwyn i chi gael ei yrru. Gwnewch yn siŵr bod eich cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd cyn ei ddefnyddio bob tro. Er mwyn ymarfer gyrru tractor ar y ffordd, rhaid i chi fod yn 17 mlwydd oed o leiaf.

Pan fyddwch chi'n 16 mlwydd oed, cewch:

  • yrru tractor ar y ffordd wrth yrru i’ch apwyntiad prawf gyrru ymarferol, neu wrth yrru oddi yno
  • ar ôl pasio eich prawf tractor, dim ond tractorau llai na 2.45 medr o led y dylech eu gyrru, a dim ond ôl-gerbydau llai na 2.45 medr o led gyda dwy olwyn, neu bedair olwyn sy'n agos at ei gilydd y dylech eu tynnu

Os nad oes gan eich cerbyd arbenigol le ar gyfer dau o bobl, efallai y bydd yn rhaid i'ch hyfforddwr gerdded wrth eich ochr yn rhoi cyngor i chi

Prawf theori ar gyfer cerbydau arbenigol

Bydd pob gyrrwr newydd yn cael prawf ar ei wybodaeth o Reolau'r Ffordd Fawr. Bydd a fydd yn rhaid i chi sefyll prawf theori ai peidio'n dibynnu ar gategori eich prawf.

Safonau gofynnol ar gyfer cerbydau prawf

Mae’n rhaid i bob cerbyd prawf fodloni safonau gofynnol - sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw’r safonau gofynnol ar gyfer y cerbyd rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf.

Categori B1

Beiciau modur neu gerbydau tair neu bedair olwyn yn pwyso dim mwy na 550 kg heb lwyth.

Mae’n rhaid i unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio yn y categori hwn allu teithio ar gyflymder o 60 cilomedr yr awr (37.25 milltir yr awr).

Categori F

Tractor gyda dwy echel neu ragor, wedi’i adeiladu i weithio oddi ar y ffordd, yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig ag amaeth neu goedwigaeth.

Categori G

I yrru rholer ffordd bydd angen i chi ddal trwydded categori B (car) lawn.

Os ydych chi’n 17 mlwydd oed neu’n hŷn, cewch yrru rholer ffordd:

  • â rholeri metel
  • sy’n pwyso llai na 11.69 tunnell heb lwyth
  • sydd ddim yn cael ei yrru gan stêm

Os ydych chi’n 21 mlwydd oed neu’n hŷn, cewch yrru rholeri ffordd eraill:

  • â theiars niwmatig, gwydn neu elastig
  • sy’n pwyso mwy na 11.69 tunnell
  • sy’n cael eu gyrru gan stêm

Categori H

I yrru cerbyd gyda thraciau, bydd angen i chi ddal trwydded categori B (car) lawn.

Mae’n rhaid i unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer prawf categori H gael gwelededd cyflawn digonol i alluogi’r gyrrwr i gyflawni manwfrau a delio â chyffyrdd mewn modd diogel. Nid yw cerbydau y mae arnynt angen ail berson i helpu i wylio, megis cerbydau milwrol, yn addas ar gyfer prawf.

Categori K

Peiriannau torri gwair neu gerbydau a reolir â throed.

Nid yw peiriannau torri gwair sy’n cael eu rheoli â throed yn cael eu trin fel cerbydau modur, felly ni fydd angen trwydded yrru arnoch. Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn 16 mlwydd oed o leiaf i yrru'r cerbydau hyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU