Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych chi drwydded yrru car lawn (categori B), mae'n bosibl y gallech chi wneud cais am hawl dros dro i yrru cerbydau mewn categori uwch. Mae amgylchiadau hefyd pan fydd modd i chi ddiweddaru categori is ar eich trwydded os byddwch chi'n pasio'r prawf gyrru mewn categori uwch.
Os bu i chi basio'ch prawf gyrru ar 1 Ionawr 1997 neu wedi hynny a'ch bod yn awyddus i ddysgu gyrru cerbyd mwy, efallai bod modd i chi wneud cais am y categori uwch. Unwaith i chi gael hawl dros dro ar eich trwydded yrru, fe allwch chi sefyll prawf y categori hwnnw. Er enghraifft, rhaid i yrrwr gael trwydded car lawn (categori B) cyn gallu gwneud cais am drwydded dros dro i yrru lori, bws mini neu fws.
'Y Camau' yw'r enw ar y broses hon, ac mae'n berthnasol o'r cerbydau lleiaf i'r mwyaf.
Mae'r tabl isod yn dangos y drwydded lawn y mae'n rhaid i chi ei chael cyn gallu gwneud cais am hawl dros dro yn y categorïau uwch.
Yr hawl dros dro angenrheidiol | Trwydded lawn sy'n rhaid ei chael |
---|---|
B+E*, G*, H*, C1, C, D1, D | B |
C1+E | C1 |
C+E | C |
D1+E | D1 |
D+E | D |
* Rhoddir hawliau dros dro yn awtomatig gyda thrwydded B lawn.
Os byddwch chi'n pasio prawf ar gyfer categori cerbyd mwy, dan rai amgylchiadau bydd categori is yn cael ei uwchraddio. Ond ni fydd hyn yn digwydd, fodd bynnag, yn achos gyrrwr sydd eisoes wedi pasio prawf sy'n ymwneud â hawl ôl-gerbyd ar gerbyd mwy neu gerbyd cyfatebol.
Mae'r tabl isod yn dangos y categorïau cerbyd sydd ar y drwydded eisoes, y categori cerbyd uwch sydd wedi'i basio a'r categori cerbyd a fydd yn cael ei uwchraddio o ganlyniad i basio'r prawf.
Categori llawn sy'n rhaid ei chael |
Prawf ychwanegol sydd wedi’i basio |
Uwchraddio |
---|---|---|
B, C1 | C1+E | B+E |
B, D1 | D1+E | B+E |
B, C1, D1 | C1+E | B+E, D1+E |
B, C1, D1 | D1+E | B+E |
B, C1, C | C+E | B+E, C1+E |
B, C1, C, D1, D | D+E | B+E, D1+E |
B, C1, C, D1, D | C+E | B+E, C1+E, D1+E, D+E |
Fel canllaw cyffredinol: