Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru cerbydau cludo teithwyr (PCV) ar drwydded gyrru car

Mae trefniadau trwyddedu arbennig yn eu lle sy'n eich galluogi i yrru bysiau mini a bysiau heb orfod cael yr hawl uwch ar eich trwydded i yrru cerbydau cludo teithwyr (PCV). Fel rheol, rhaid i yrwyr cerbydau cludo teithwyr sydd â 9-16 o seddi teithwyr feddu ar drwydded PCV categori D1 neu gategori D er mwyn gyrru bysiau mwy.

Cerbydau sy'n cludo teithwyr sydd wedi'u heithrio

Cwmnïau llogi bysiau mini

Efallai y bydd rhai cwmniau llogi bysiau mini yn mynnu bod rhaid cael y categori uwch (D1) hyd yn oed os yw’r eithriadau’n berthnasol – holwch eich cwmni llogi

Caiff unrhyw un sydd â thrwydded lawn categori B (car) yrru unrhyw un o'r cerbydau a restrir isod:

  • cerbyd cludo teithwyr a gynhyrchwyd dros 30 mlynedd cyn y dyddiad pan gaiff ei yrru, a hynny heb fod er budd nac am dâl, nac i gludo mwy nag 8 o deithwyr
  • bws mini gyda hyd at 16 o seddi teithwyr, cyn belled ag y bodlonir yr amodau canlynol:

i. defnyddir y cerbyd at ddiben cymdeithasol gan gorff nad yw'n fasnachol, ond heb fod er budd nac am dâl

ii. mae'r gyrrwr yn 21 oed

iii. mae gan y gyrrwr drwydded car (categori B) ers o leiaf 2 flynedd

iv. mae'r gyrrwr yn darparu'r gwasanaeth yn wirfoddol

v. nid yw pwysau uchaf y bws mini yn fwy na 3.5 tunnell neu 4.25 tunnell gan gynnwys unrhyw offer arbennig er mwyn cludo teithwyr anabl

vi. os yw'r gyrrwr dros 70 oed, rhaid iddo fodloni'r safonau iechyd ar gyfer gyrru cerbyd D1

Pan fyddwch yn gyrru bws mini dan yr amodau hyn ni chewch dderbyn unrhyw dâl na chydnabyddiaeth am wneud hynny, heblaw am yr hyn y bu'n rhaid i chi ei dalu o'ch poced eich hun, na thynnu ôl-gerbydau o unrhyw faint; dim ond yn y wlad hon y cewch yrru bysiau mini. Bydd yn rhaid i yrwyr sy'n 70 mlwydd oed neu'n hŷn wneud cais arbennig sy'n golygu bodloni safonau meddygol uwch.

Caiff y rheiny sydd â thrwydded yrru lawn categori D (PCV) hefyd yrru cerbyd adfer sy'n cludo teithwyr. Caiff hwn ei ddiffinio fel cerbyd (nad yw'n gyfuniad o gerbyd nwyddau a cherbyd amaethyddol) sydd:

  • â phwysau heb lwyth llai na 10.2 tunnell
  • yn cael ei gynnal gan berson sydd â thrwydded gwasanaeth PSV, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer:

i. mynd yn ôl ac ymlaen o rywle lle rhoddir neu lle rhoddwyd cymorth i gerbyd cludo teithwyr sydd wedi'i ddifrodi neu sy'n cludo pobl anabl

ii. rhoi cymorth neu symud cerbyd cludo teithwyr sydd wedi'i ddifrodi neu'n cludo pobl anabl

Oedran ieuengaf

Rhaid i chi fod yn 21 oed neu'n hŷn i yrru:

  • cerbydau cludo teithwyr sydd wedi'u heithrio (PVC)
  • unrhyw gerbyd sy'n pwyso dros 7.5 tunnell

Sut gaiff cerbydau eu categoreiddio at ddibenion trwyddedu gyrwyr?

Mae categorïau'r cerbydau a disgrifiadau ohonynt i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ni all y DVLA roi cyngor cyfreithiol am sut y caiff cerbydau eu categoreiddio, ond yn gyffredinol mae'n dibynnu ar bwysau'r cerbyd neu ar nifer y teithwyr y gall eu cludo.

Os oes gennych unrhyw ymholiad, holwch DVLA ar 0300 790 6801. Mae'r llinellau ar agor yn ystod yr amserau canlynol:

Llinellau Cyffredinol Gyrwyr a Cherbydau – o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 7.00 pm; dydd Sadwrn rhwng 8.00 am a 2.00 pm.

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU