Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bosib bod gennych chi hawl i yrru bws mini os nad yw er eich budd nac am dâl. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu nad ydych yn cael unrhyw daliad ar ffurf arian parod nac ar ffurf nwyddau gan neu ar ran teithwyr am yr hawl i gael eu cludo.
Os oedd gennych chi hawl i yrru ceir cyn 1 Ionawr 1997, fe gewch chi yrru bws mini ar yr amod nad oes gan y bws mini fwy na 17 o seddi gan gynnwys sedd y gyrrwr, ac nad yw'n cael ei ddefnyddio er eich budd nac am dâl. Bydd eich hawl i yrru bws mini yn parhau'n ddilys yn y Deyrnas Unedig tan y tro nesaf yr adnewyddir eich trwydded.
Pan gaiff eich trwydded ei hadnewyddu, ni roddir hawl i yrru bws mini heblaw eich bod yn gwneud cais arbennig am hynny. Bydd hyn yn golygu bodloni safonau meddygol uwch.
Os caiff eich hawl i yrru bws mini ei hadnewyddu, pan fyddwch yn 70 oed, fel arfer fe roddir trwydded i chi am dair blynedd a fydd yn caniatáu i chi yrru bws mini heb fod er eich budd nac am dâl. Os na chaiff eich hawl i yrru bws mini ei hadnewyddu, ni fydd yr hawl honno yn ymddangos ar eich trwydded mwyach.
Er mwyn gyrru bws mini gyda naw neu fwy o seddi teithwyr heb ei fod er eich budd nac am dâl, fel rheol bydd arnoch angen hawl i yrru cerbyd cludo teithwyr (PCV). Er mwyn cael yr hawl hon bydd yn rhaid i chi fodloni safonau meddygol uwch a phasio prawf gyrru arall. Fodd bynnag, os ydych chi'n gyrru bws mini ar gyfer mudiad o dan y cynllun hawlen bws mini neu fws cymuned, ni fydd angen i chi gael yr hawl uwch i yrru cerbydau PCV.
Gallwch weld disgrifiadau o gategorïau cerbydau, sy'n ymddangos ar eich trwydded yrru, drwy ddilyn y ddolen isod.
Os nad yw eich trwydded yrru yn caniatáu i chi yrru bws mini, mae'n bosib y cewch barhau i wneud hynny o dan rai amgylchiadau.
Mae gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) daflen wybodaeth sy'n ymdrin â'r pwnc hwn, a gellir ei llwytho oddi ar y we neu mae ar gael yn swyddfeydd lleol DVLA.