Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru cerbydau nwyddau mawr (LGV) ar drwydded yrru car

Mae trefniadau trwyddedu arbennig yn eu lle sy'n eich galluogi i yrru cerbydau mwy heb orfod cael yr hawl uwch ar eich trwydded i yrru cerbydau nwyddau mawr (LGV). Pan yn gyrru cerbydau mwy, yr uchafswm màs awdurdodedig (cyfanswm pwysau'r cerbyd a'r uchafswm pwysau y gall ei gludo) sy'n penderfynu pa hawl sydd ei hangen ar y drwydded yrru.

Uchafswm màs awdurdodedig

Os oes gan y cerbyd uchafswm màs awdurdodedig sy'n fwy na 3.5 tunnell ond yn llai na 7.5 tunnell, yna mae angen trwydded categori C1. Os yw'r uchafswm màs awdurdodedig yn fwy na 7.5 tunnell yna mae angen trwydded categori C.

Cerbydau nwyddau mawr sydd wedi'u heithrio

Caiff unrhyw un sydd â thrwydded lawn categori B (car) yrru unrhyw un o'r cerbydau mawr a restrir isod:

  • cerbyd nwyddau a yrrir gan stêm e.e. cerbydau mawr gydag injan sy'n llosgi glo neu goed
  • cerbydau adeiladu ffyrdd sy'n cael eu defnyddio neu'n cael eu cadw ar y ffordd, a hynny'n unig er mwyn cludo peiriannau adeiladu ffyrdd sy'n gysylltiedig â'r cerbyd (gyda neu heb eitemau neu ddeunyddiau a ddefnyddir gyda'r peiriannau hynny)
  • offer peirianneg (cerbydau sydd wedi'u cynllunio neu eu hadeiladu ar gyfer gwaith peirianneg)
  • wagenni gwaith (a gynlluniwyd yn bennaf i'w defnyddio ar eiddo preifat neu'n agos i eiddo preifat e.e. wagenni dadlwytho/wagenni fforch godi)
  • tractorau diwydiannol (tractorau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gwaith cludo oddi ar ffyrdd cyhoeddus; rhaid i'r cerbyd beidio â phwyso dros 7370kg heb lwyth, a rhaid iddo gael cyflymder cynllunio heb fod yn fwy na 20 mya)
  • cerbydau modur amaethyddol nad ydynt yn dractorau amaethyddol nac yn gerbydau coedwigaeth (i'w defnyddio'n bennaf oddi ar ffyrdd cyhoeddus e.e. chwistrellu cnydau/combein)
  • peiriannau tyllu (cerbydau sydd wedi'u cyfyngu i deithio ar ffyrdd cyhoeddus pan fyddant yn teithio yn ôl ac ymlaen o safleoedd gwaith yn unig - fe'u defnyddir i dyllu ffosydd neu unrhyw fath o waith cloddio neu balu e.e. cerbydau gyda bwcedi/rhawiau tyllu)
  • cerbyd nwyddau nad yw'n cael ei ddefnyddio ar ffyrdd cyhoeddus, neu os yw hynny'n digwydd mewn wythnos galendr:

i. ei fod yn cael ei ddefnyddio i symud rhwng tir sy'n eiddo i'r person sy’n cadw’r cerbyd i dir arall sy’n eiddo i’r person hwnnw

ii. nad yw'n teithio ymhellach na chyfanswm o 9.7 cilomedr ar ffyrdd cyhoeddus yn ystod yr wythnos galendr honno

  • cerbyd nwyddau, ar wahân i gerbyd modur amaethyddol, sy'n cael ei ddefnyddio'n unig ar gyfer amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth:

i. ond yn cael ei ddefnyddio wrth deithio rhwng dau ddarn o dir sy'n eiddo i'r un perchennog

ii. yn teithio ddim pellach na 1.5 cilomedr ar ffyrdd cyhoeddus wrth deithio rhwng dau le o'r fath

  • cerbyd nwyddau sy'n cael ei ddefnyddio i gludo badau achub a symud offer angenrheidiol y badau achub hynny'n unig
  • cerbydau nwyddau a gynhyrchwyd cyn 1 Ionawr 1960, ac a ddefnyddir heb lwyth a heb ôl-gerbyd â llwyth arno
  • cerbydau nwyddau cymalog sy'n pwyso llai na 3.05 tunnell heb lwyth
  • cerbyd nwyddau a ddefnyddir gan lu neu bencadlys ar ymweliad â'r wlad fel y nodir yng ngorchymyn lluoedd a phencadlysoedd rhyngwladol ar ymweliad (gweithredu cyfreithiol 1965(a))
  • cerbyd nwyddau a yrrir gan gwnstabl i symud neu osgoi rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd a'r cyhoedd, gyda'r bwriad o ddiogelu bywyd neu eiddo (gan gynnwys y cerbyd a'i lwyth) neu at ddibenion tebyg eraill
  • cerbyd nwyddau sydd â chyfarpar wedi'i gynllunio ar gyfer codi cerbyd marw yn rhannol oddi ar y ddaear a thynnu'r cerbyd i'r ochr wedi iddo gael ei godi (drwy arosodiad rhannol ai peidio) a hwnnw'n gerbyd

i. sy'n cael ei ddefnyddio i ddelio â cherbydau marw yn unig

ii. nad yw'n cael ei ddefnyddio i gludo unrhyw nwyddau neu lwyth heblaw am gerbyd marw wedi iddo gael ei godi, a dŵr, tanwydd, batris ac eitemau angenrheidiol mewn cysylltiad â'r weithred o godi cerbyd marw

iii. nad yw'n pwyso mwy na 3.05 tunnell heb lwyth

  • cerbydau prosiect symudol - gydag uchafswm màs awdurdodedig o 3.5 tunnell a'u bod wedi eu cynhyrchu neu eu haddasu i gludo dim mwy nag wyth o bobl yn ogystal â'r gyrrwr, ac yn bennaf maent yn cludo nwyddau neu lwyth sy'n cynnwys

i. offer chwarae neu addysgol ac eitemau y byddai'n rhaid eu cael mewn cysylltiad ag offer o'r fath

ii. eitemau sy'n ofynnol at ddibenion arddangos neu ar gyfer arddangosfa, a'r pwrpas sylfaenol yw defnyddio'r cerbyd fel cyfleuster hamdden, addysgol, neu gyfarwyddo pan fo'n llonydd

Rhaid i yrwyr fod yn 21 mlwydd oed neu'n hŷn a rhaid iddynt fod wedi meddu ar drwydded categori B am o leiaf 2 flynedd. Dim ond gyrwyr ar ran sefydliad anfasnachol gaiff yrru cerbyd prosiect symudol. Serch hynny, nid yw gyrwyr a oedd wedi pasio eu prawf cyn 1 Ionawr 1997 yn rhwym wrth yr amodau hyn.

Craeniau symudol

Roedd gan yrwyr oedd a thrwydded categori B hawl i yrru craeniau symudol hyd at 31 Rhagfyr 1998. Ers 1 Ionawr 1999, mae angen trwydded yrru categori C1 i yrru craen symudol sy'n pwyso rhwng 3.5 a 7.5 tunnell, a chategori C os yw dros 7.5 tunnell.

Oedrannau ieuengaf

Pwysau cerbyd nwyddau sydd wedi'i eithrio sy'n penderfynu pwy sy'n gallu'i yrru. Gellir gyrru cerbydau gydag uchafswm màs awdurdodedig o rhwng 3.5 a 7.5 tunnell yn 18 oed. Gellir gyrru cerbydau sy'n pwyso mwy na 7.5 tunnell pan yn 21 oed.

Sut gaiff cerbydau eu categoreiddio?

Mae categorïau'r cerbydau a disgrifiadau ohonynt i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ni all y DVLA roi cyngor cyfreithiol am sut y caiff cerbydau eu categoreiddio, ond yn gyffredinol mae'n dibynnu ar bwysau'r cerbyd neu ar nifer y teithwyr y gall eu cludo.

Os oes gennych unrhyw ymholiad, holwch DVLA ar 0300 790 6801. Mae'r llinellau ar agor yn ystod yr amserau canlynol:

Llinellau Cyffredinol Gyrwyr a Cherbydau – o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 7.00 pm; ar ddydd Sadwrn rhwng 8.00 am a 2.00 pm

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU