Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ynghyd â'ch oedran, mae'r gwahanol gategorïau cerbyd ar eich trwydded yrru yn nodi pa gerbydau y cewch chi eu gyrru. Mae’r categorïau hyn hefyd yn cael eu pennu yn ôl pwysau’r cerbyd.
Pwysau heb lwyth unrhyw gerbyd yw pwysau'r cerbyd hwnnw pan na fydd ganddo unrhyw lwyth neu faich. Mae hyn:
Pan ddefnyddir y term uchafswm màs awdurdodedig yng nghyd-destun trwyddedau gyrru, mae’n cyfeirio at bwysau uchaf cerbyd neu ôl-gerbyd, gan gynnwys y llwyth trymaf y gellir ei gario’n ddiogel wrth ddefnyddio’r cerbyd ar y ffordd. Gelwir hwn hefyd yn bwysau gros y cerbyd, neu’r pwysau mwyaf a ganiateir. Caiff ei nodi yn llawlyfr y perchennog ac fel arfer fe’i dangosir ar blât neu sticer sydd ar y cerbyd. Efallai y bydd y plât neu’r sticer yn dangos y pwysau tynnu gros hefyd.
Os yw’n annhebygol y defnyddir y cerbyd i gario’r uchafswm pwysau posibl, efallai y caiff y plât ei israddio, fel bod pwysau llai’n cael ei nodi arno. Yn achos cerbyd nwyddau trwm, dylid ymgynghori â’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) oherwydd VOSA sy’n dosbarthu plât y weinyddiaeth y mae’n rhaid ei gael ar y cerbyd. Ar gyfer cerbydau eraill, dylid cysylltu â’r gwneuthurwr.
Mae’r uchafswm y gall cerbydau, ôl-gerbydau a cherbydau cymalog ei bwyso wrth gael eu defnyddio wedi’i farcio ar blât y cerbyd neu ar dystysgrif blât y weinyddiaeth, a gellir dod o hyd iddo yn llawlyfr y perchennog. Yn achos rhai cerbydau, efallai y rhestrir yr uchafswm pwysau ar y dystysgrif cofrestru cerbyd (V5C) hefyd. Os oes gennych unrhyw amheuon am hyn, dylid cysylltu â gwneuthurwr y cerbyd neu’r ôl-gerbyd.