Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlenni bysiau mini a bysiau cymuned

Mae rhai gwasanaethau bysiau mini, ac ambell waith fysiau mwy, yn gallu cludo teithwyr sy'n talu ffi o dan rai amodau penodol heb fod angen cael trwydded cerbyd cludo teithwyr.

Hawlen bws mini

Mae hawlenni yn caniatáu i rai mudiadau penodol godi tâl heb orfod cydymffurfio â gofynion llawn hawl i yrru cerbyd cludo teithwyr (PCV) a heb fod angen i'w gyrwyr gael hawl i yrru cerbydau PCV. Mae mudiadau o'r fath yn cynnwys grwpiau gwirfoddol sy'n ymwneud ag addysg, crefydd, lles cymdeithasol, hamdden neu weithgareddau eraill sydd o fudd i'r gymuned.

Mae'r hawlen bws mini'n bodoli ar gyfer cerbyd sy'n gallu cludo rhwng naw ac un ar bymtheg o deithwyr, ac fe ellir ei chael gan y Comisiynydd Traffig neu gan gyrff penodol fel awdurdodau lleol ac amryw o elusennau cenedlaethol neu fudiadau eglwysig.

Rhaid i'r gwasanaeth a ddarperir fod ar gyfer ei aelodau ei hun neu ar gyfer grwpiau o bobl y mae'r mudiad yn eu gwasanaethu. Rhaid peidio â darparu'r gwasanaeth i aelodau'r cyhoedd ac ni chaiff y taliadau greu elw.

Hawlen bysiau cymuned

Mae hawlenni bysiau cymuned hefyd ar gael gan y Comisiynydd Traffig. Caiff hawlenni bysiau cymuned eu rhoi i gyrff sy'n dymuno rhedeg gwasanaeth bws lleol yn wirfoddol neu'n ddielw drwy ddefnyddio gyrwyr gwirfoddol nad ydynt yn derbyn tâl. Enghraifft o hyn fyddai pan nad oes gwasanaeth bws ar gyfer cymuned leol a byddai gwirfoddolwyr yn cynnal y gwasanaeth dan nawdd eu hawdurdod lleol. Gellir cludo aelodau o'r cyhoedd yn y cerbyd a'i brif ddefnydd fyddai rhoi gwasanaeth lleol i'r cyhoedd.

Gellir defnyddio'r cerbyd hefyd ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn lleol (e.e. llogi dan gytundeb), os caniateir hynny gan y Comisiynydd Traffig. Efallai bod hyn yn bosibl os mai'r pwrpas yw rhoi cymorth ariannol yn ôl i'r fenter leol. Mae'n rhaid i drefnwyr bysiau cymuned redeg eu gwasanaeth yr un mor ddibynadwy â chwmnïau proffesiynol. Rhaid i'r Comisiynydd Traffig hefyd fod yn fodlon bod eu cyfleusterau neu eu trefniadau yn ddigon da. Mae ganddo hawl i ddiddymu'r hawlen os nad yw safonau'n cael eu cynnal.

Ydw i'n cael gyrru o dan y cynllun hawlen?

Os oedd gennych chi hawl i yrru ceir cyn 1 Ionawr 1997, byddwch yn dal i allu gyrru bysiau mini o dan y cynllun hawlen, ar yr amod bod eich hawl i yrru bysiau mini (heb i chi gael budd na thâl) yn dal i fodoli. Gall gyrwyr newydd sydd wedi pasio'u profion car ar 1 Ionawr 1997 hefyd yrru bws mini gyda hawlen, cyn belled â'u bod yn bodloni'r amodau trwyddedu ar gyfer y rhai sydd heb hawl i yrru bws mini.

Nodiadau

  • dim ond yn y DU y mae trefniadau'r hawlenni yn ddilys
  • chewch chi ddim mynd â bws mini gyda hawlen dramor os yw'n cael ei ddefnyddio er eich budd neu am dâl oni bai fod gennych chi hawl i yrru cerbydau PCV

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth yn y llyfryn 'Passenger Transport Provided by Voluntary Groups' sydd ar gael gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr.

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU