Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwirio eich cofnod hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr

Os ydych yn yrrwr lorïau, bysiau neu goetsys, gallwch wirio bod eich hyfforddiant cyfnodol Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) i Yrwyr wedi'i gofnodi. Mynnwch wybod sut i gofrestru a defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wirio eich cofnod hyfforddiant.

Sut i wirio eich hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr

Rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch wirio eich cofnod

Os ydych wedi cofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth a bod gennych gyfrinair, gallwch:

  • weld sawl awr o hyfforddiant rydych wedi'i gwneud
  • gweld pa gyrsiau rydych wedi'u mynychu
  • creu cyfrinair dros dro i'ch cyflogwr neu'ch darpar gyflogwr gael gweld eich cofnod hyfforddiant

Os nad yw hyfforddiant yn ymddangos ar eich cofnod

Os ydych wedi gwneud hyfforddiant ond nid yw'n ymddangos ar eich cofnod ar ôl pum diwrnod gwaith, cysylltwch â'r ganolfan hyfforddi.
Os na all y ganolfan hyfforddi eich helpu, cysylltwch â’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) drwy e-bost ar: dcpc.complaints@dsa.gsi.gov.uk

Sut i gofrestru os ydych yn ddefnyddiwr newydd

Os ydych yn ddefnyddiwr newydd, mae angen i chi gofrestru er mwyn defnyddio'r gwasanaeth ar-lein.

Bydd angen i chi roi:

  • rhif eich trwydded yrru
  • cod post eich cartref

Pan fyddwch yn cofrestru, caiff cyfrinair ar gyfer y gwasanaeth ei anfon drwy'r post i'r cyfeiriad ar eich trwydded yrru. Felly, mae'n bwysig eich bod yn nodi eich cyfeiriad diweddaraf.

Pan fydd gennych eich cyfrinair

Pan fydd gennych eich cyfrinair, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein i wirio eich cofnod hyfforddiant. Mae'r DSA yn argymell eich bod yn newid y cyfrinair cychwynnol i un sy'n fwy cofiadwy.

Gallwch roi cyfeiriad e-bost er mwyn cael cyfrineiriau newydd yn gyflym dros yr e-bost.

Pryd y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein hwn 24 awr y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sul.

Help gyda'r gwasanaeth hwn

Os cewch unrhyw broblemau gyda'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â thîm gwasanaeth cwsmeriaid y DSA.

Additional links

How to take periodic training

Find out how to take Driver CPC periodic training

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU