Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n yrrwr bws, bws moethus neu lori proffesiynol, mae’n rhaid i chi gael Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC i Yrwyr). Yma cewch wybod sut gallwch chi gael CPC i Yrwyr os ydych chi newydd ddechrau gyrru’n broffesiynol, a pha reolau sy’n berthnasol os ydych chi eisoes yn gyrru’n broffesiynol.
Mae CPC i Yrwyr yn gymhwyster ar gyfer gyrwyr bws, bws moethus a lori proffesiynol. Bydd yn:
Os ydych chi’n yrrwr newydd, bydd rhaid i chi basio cymhwyster cychwynnol CPC i Yrwyr cyn y cewch chi yrru’n broffesiynol.
Mae cymhwyster cychwynnol CPC i Yrwyr wedi’i rannu’n bedair adran:
Bydd rhaid i chi basio’r pedair adran er mwyn cael gyrru’n broffesiynol.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o drefnu eich profion cymhwyso cychwynnol yw ar-lein. Fodd bynnag, os yw'n well gennych, fe allwch chi drefnu’r profion dros y ffôn neu drwy'r post.
Drwy fynd i wefan Business Link, gallwch gael mwy o wybodaeth am y canlynol:
Bydd rhaid i chi gyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol bob pum mlynedd er mwyn cadw eich CPC i Yrwyr
Mae hyfforddiant achlysurol yn cynnwys mynychu cyrsiau sy’n sôn am wahanol agweddau ar yrru’n broffesiynol. Bydd rhaid i chi gyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol bob pum mlynedd er mwyn cadw eich CPC i Yrwyr.
Dim ond cyrsiau cymeradwy a gynigir gan ganolfannau hyfforddi cymeradwy fydd yn cyfrif tuag at hyfforddiant achlysurol.
Os oes gennych chi drwydded i yrru cerbydau nwyddau mawr a cherbydau sy’n cludo teithwyr, dim ond un gyfres o hyfforddiant bob pum mlynedd fydd angen i chi ei chyflawni
Os ydych chi’n yrrwr proffesiynol ar hyn o bryd, bydd gennych chi brofiad gwerthfawr yn y maes. Bydd gennych chi ‘hawliau caffaeledig’ am bum mlynedd, sy’n golygu yr ystyrir bod gennych chi CPC i Yrwyr. Mae hyn yn berthnasol i chi os ydych:
Os oes gennych chi ‘hawliau caffaeledig’, ni fydd angen i chi gael y cymhwyster cychwynnol. Er hynny, bydd rhaid i chi gyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol er mwyn cadw eich CPC i Yrwyr.
Enghraifft o Gerdyn Cymhwyster Gyrrwr
Ar ôl cael y cymhwyster cychwynnol, fe gewch chi Gerdyn Cymhwyster Gyrrwr (DQC).
Mae’n anghyfreithlon i chi yrru’n broffesiynol os nad oes gennych chi DQC.
Mae CPC i Yrwyr yn orfodol yn holl aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.
Os ydych chi’n gyrru’n broffesiynol mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd, mae'n dal yn rhaid i chi gael CPC i Yrwyr ddilys.
Does dim angen CPC i Yrwyr arnoch chi os ydych chi'n gyrru cerbyd sy'n cludo teithwyr am resymau anfasnachol neu gerbyd nwyddau at ddefnydd personol
Efallai na fydd angen i chi gael CPC i Yrwyr. Bydd hynny'n dibynnu ar y canlynol:
Ni fydd angen CPC i Yrwyr arnoch chi os yw’r cerbyd rydych chi’n ei yrru:
Ni fydd angen CPC i Yrwyr arnoch chi os yw’r cerbyd rydych chi’n ei yrru: