Rheolau ar gyfer lorïau, bysiau a choetsys a ddefnyddir mewn profion gyrru
Mae rheolau ar gyfer y lori, y bws neu'r goets a ddefnyddiwch yn eich prawf gyrru. Os nad yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau, ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf. Mynnwch wybod a yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau.
Y cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf gyrru
Os nad yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau, ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf. Os byddwch yn mynd â cherbyd nad yw'n bodloni'r rheolau:
- bydd eich prawf yn cael ei ganslo
- efallai y byddwch yn colli eich ffi
Rheolau ar gyfer lorïau a ddefnyddir mewn profion gyrru
Darllen y rheolau
Os nad yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau:
- bydd eich prawf yn cael ei ganslo
- efallai y byddwch yn colli eich ffi
Rhaid bod pob cerbyd a ddefnyddir ar gyfer profion categori C1, C1+E, C ac C+E yn gallu cyrraedd cyflymder o 50 milltir yr awr (mya), sef 80 cilometr yr awr (km/a).
Rhaid bod y canlynol wedi'u gosod ar y cerbyd:
- drychau sydd wedi'u gosod yn allanol ar yr ochr i mewn ac ar yr ochr allan
- gwregysau diogelwch ar seddi a ddefnyddir gan yr arholwr neu unrhyw un sy'n goruchwylio'r prawf
- tacograff
- system frecio wrth-gloi (ABS) - nodwch nad oes angen bod ABS wedi'i osod ar ôl-gerbydau
Nid yw uned tractor yn gerbyd addas ar gyfer prawf categori C neu C1.
Rhaid sicrhau bod pob adran cargo ôl-gerbyd:
- ar ffurf blwch caeedig
- o leiaf yr un mor uchel a llydan â'r cerbyd sy'n tynnu
Yn achos C1+E gall yr ôl-gerbyd fod ychydig yn llai llydan na'r cerbyd sy'n tynnu, ond dim ond drwy ddefnyddio drychau allanol y dylid gweld y cefn.
Lorïau maint canolig: is-gategori C1
Beth yw uchafswm màs awdurdodedig (MAM)
Gelwir hwn yn 'bwysau cerbyd gros' hefyd
Lorïau maint canolig sy'n perthyn i is-gategori C1.
Is-gategori C1
Y cerbydau sy'n perthyn i is-gategori C1 yw lorïau maint canolig:
- sydd â MAM o bedair tunnell o leiaf
- sy'n mesur o leiaf pum metr o hyd
- sydd ag adran cargo ar ffurf blwch caeedig sydd o leiaf yr un mor llydan ac uchel â'r cerbyd sy'n tynnu
MAM yw uchafswm pwysau'r cerbyd gan gynnwys uchafswm y llwyth y gellir ei gludo'n ddiogel tra caiff ei ddefnyddio ar y ffordd. Gelwir hwn yn 'bwysau cerbyd gros' hefyd.
Is-gategori C1+E
Mae dau fath o gerbyd prawf yn perthyn i gategori C1+E:
- dau gerbyd wedi'u huno gan far tynnu, lle mae cerbyd categori C1 yn tynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o ddwy dunnell o leiaf, a lle mae'r ddau gerbyd yn mesur o leiaf wyth metr o hyd gyda'i gilydd
- lori gymalog maint canolig sydd â MAM o chwe thunnell o leiaf, sy'n mesur cyfanswm o wyth metr o hyd o leiaf
Cerbydau nwyddau mawr: categori C
Cerbydau nwyddau mawr sy'n perthyn i gategori C.
Categori C
Y cerbydau sy'n perthyn i gategori C yw cerbydau nwyddau un-darn:
- sydd â MAM o 12 tunnell o leiaf
- sy'n mesur o leiaf wyth metr o hyd
- sy'n mesur o leiaf 2.4 metr o led
Rhaid bod y canlynol wedi'u gosod ar y cerbyd:
- o leiaf wyth cymhareb gêr flaen
- adran cargo ar ffurf blwch caeedig sydd o leiaf yr un mor llydan ac uchel â'r cab
Categori C+E
Rhaid bod y canlynol yn wir am gerbydau categori C+E:
- bod ganddynt o leiaf wyth cymhareb gêr flaen
- eu bod yn mesur o leiaf 2.4 metr o led
Mae dau fath o gerbyd prawf sy'n perthyn i gategori C+E:
- dau gerbyd wedi'u huno gan far tynnu, lle mae cerbyd categori C yn tynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o 20 tunnell o leiaf, sy'n mesur o leiaf 7.5 metr o hyd o'r ddolen fachu i ben pellaf yr ôl-gerbyd a lle mae'r ddau gerbyd yn mesur o leiaf 14 metr o hyd gyda'i gilydd
- lori gymalog sydd â MAM o 20 tunnell o leiaf, sy'n mesur o leiaf 14 metr o hyd heb fod yn fwy na 16.5 metr
Rheolau ar gyfer bysiau a choetsys a ddefnyddir mewn profion gyrru
Drychau
Rhaid bod drychau wedi'u gosod yn allanol ar yr ochr i mewn ac ar yr ochr allan i'r arholwr eu defnyddio
Rhaid bod pob cerbyd a ddefnyddir ar gyfer profion categori D1, D1+E, D a D+E yn gallu cyrraedd cyflymder o 50mya (80km/a).
Rhaid bod y canlynol wedi'u gosod ar y cerbyd:
- drychau sydd wedi'u gosod yn allanol ar yr ochr i mewn ac ar yr ochr allan
- gwregys diogelwch ar gyfer yr arholwr neu unrhyw un sy'n goruchwylio'r prawf
- tacograff
- ABS
Nid yw limwsîns hir na faniau carchar sy'n seiliedig ar siasi lori yn gerbydau addas ar gyfer prawf categori D.
Bysiau mini: is-gategori D1
Bysiau mini sy'n perthyn i is-gategori D1.
Is-gategori D1
Y cerbydau sy'n perthyn i is-gategori D1 yw cerbydau sy'n cludo teithwyr (PCV):
- sydd â rhwng naw a 16 o seddi i deithwyr
- sydd â MAM o bedair tunnell o leiaf
- sy'n mesur o leiaf pum metr o hyd
Is-gategori D1+E
Y cerbydau sy'n perthyn i is-gategori D1 yw cerbydau D1 sy'n tynnu ôl-gerbyd ar ffurf blwch caeedig:
- sydd â MAM o 1.25 tunnell o leiaf
- sy'n mesur o leiaf dau fetr o uchder
- sy'n mesur o leiaf dau fetr o led
Bysiau a choetsys: categori D
Bysiau a choetsys sy'n perthyn i gategori D
Categori D
Y cerbydau sy'n perthyn i gategori D yw PCVs:
- sydd â mwy nag wyth o seddi i deithwyr
- sy'n mesur o leiaf 10 metr o hyd
- sy'n mesur o leiaf 2.4 metr o led
Categori D+E
Y cerbydau sy'n perthyn i gategori D+E yw cerbydau categori D sy'n tynnu ôl-gerbyd ar ffurf blwch caeedig:
- sydd â MAM o 1.25 tunnell o leiaf
- sy'n mesur o leiaf dau fetr o uchder
- sy'n mesur o leiaf dau fetr o led