Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru ar drwyddedau o Ogledd Iwerddon, Ynys Jersey, Guernsey, Ynys Manaw, Gibraltar neu Wledydd Dynodedig

Os ydych chi'n ymwelydd neu'n byw yng Ngwledydd Prydain (GB) a bod eich trwydded yrru o'ch gwlad wreiddiol yn dal i fod gennych, mae rhai amodau penodol sy'n penderfynu am ba mor hir y cewch chi yrru a beth y cewch chi ei yrru yng Ngwledydd Prydain.

Offeryn rhyngweithiol

Yr ydym wastad yn ceisio gwella ein gwasanaeth, ac yr ydym wedi creu ffordd i chi dderbyn y gwybodaeth fwyaf cywir sydd wedi ei selio ar eich anghenion unigol. Os yn bosib, defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol a rhowch eich sylwadau i ni ar ôl i chi orffen os gwelwch yn dda.

Gogledd Iwerddon

Gallwch gyfnewid trwydded yrru lawn Gogledd Iwerddon am drwydded yrru lawn Gwledydd Prydain neu gallwch ddefnyddio eich trwydded yma nes iddo ddod i ben. Pan fydd eich trwydded yn dod i ben, fe allwch chi wneud cais am drwydded Brydeinig. Gellir cyfnewid trwydded gyffredin Gogledd Iwerddon cyn belled â'i bod wedi'i chyhoeddi ar ôl 1 Ionawr 1976.

Gellir cyfnewid trwydded alwedigaethol cyn belled â'i bod wedi'i chyhoeddi ar 1 Ebrill 1986 neu wedi hynny. Gallwch sefyll prawf gyrru yng Ngwledydd Prydain gan ddefnyddio eich trwydded dros dro neu drwydded lawn Gogledd Iwerddon os yw hi'n rhoi'r hawl i wneud hynny. Ni all yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) gofrestru cyfeiriad yng Nghymru, Lloegr na'r Alban ar drwydded Gogledd Iwerddon.

Cyd-gydnabod gwaharddiadau gyrru

Er 11 Hydref 2004, cafwyd cyd-gydnabyddiaeth rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon o waharddiadau gyrru.

Mae hyn yn golygu:

  • cydnabod gwaharddiadau ym Mhrydain sydd wedi’u gorfodi dan awdurdodaeth Gogledd Iwerddon
  • ardystio papurau manylion Prydeinig a roddir i ddeiliaid trwyddedau Gogledd Iwerddon
  • diddymu trwydded Gogledd Iwerddon yn unol â Deddf Traffig Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) 1995
  • diddymu trwydded Gogledd Iwerddon ar sail anabledd a darpar anabledd

Daeth darpariaethau dwy ffordd i rym yng Ngogledd Iwerddon yr un pryd â'r rhai a wnaed ym Mhrydain.

Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw

Os ydych chi'n ymweld â gwledydd Prydain ac ar yr amod bod eich trwydded lawn gyffredin yn ddilys, fe gewch chi yrru cerbyd unrhyw gategori sydd ar eich trwydded am 12 mis. Os oes gennych chi drwydded alwedigaethol, fe gewch chi yrru cerbydau sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain, neu gerbydau sydd wedi'u cofrestru y tu allan i Brydain a chithau wedi'u gyrru i mewn i'r wlad, a hynny am gyfnod o hyd at 12 mis.

Os ydych chi'n byw yng Ngwledydd Prydain ac â thrwydded yrru gyffredin, fe gewch chi yrru am hyd at 12 mis o'r dyddiad y daethoch chi yma i fyw. Er mwyn parhau i yrru ar ôl y cyfnod hwnnw, rhaid i chi gyfnewid eich trwydded am un Brydeinig gyfatebol. Gellir cyfnewid trwydded Jersey, Guernsey neu Ynys Manaw am drwydded Brydeinig ar yr amod ei bod wedi'i chyhoeddi ar ôl 1 Ebrill 1991. Os oes gennych chi drwydded alwedigaethol, fe gewch chi yrru am 12 mis a chyfnewid eich hawl i yrru'n alwedigaethol am yr hawl Brydeinig gyfatebol.

Cyd-gydnabyddiaeth - Ynys Manaw

Ers 23 Mai 2005, estynnwyd cyd-gydnabyddiaeth o waharddiadau gyrru rhwng Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon i gynnwys Ynys Manaw.

Mae hyn yn golygu y bydd gyrwyr sydd wedi'u gwahardd rhag dal trwydded yrru yng Ngwledydd Prydain neu Ogledd Iwerddon ar 23 Mai 2005 ac wedi hynny hefyd wedi'u gwahardd rhag gyrru a chael trwydded yrru ar Ynys Manaw. Yn yr un modd, os bydd llys ar Ynys Manaw yn gwahardd gyrrwr rhag gyrru byddant hefyd wedi'u gwahardd rhag gyrru yng Ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon hyd nes y bydd cyfnod y gwaharddiad wedi dod i ben.

Dim ond ar gyfer gwaharddiadau gyrru y ceir cyd-gydnabyddiaeth rhwng Gwledydd Prydain, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw. Ni fydd y Ddeddf Gyrwyr Newydd a chosbau penodol yn dod o dan y trefniant hwn.

Gibraltar a Gwledydd Dynodedig

Mae gan Wledydd Prydain ddarpariaethau dwy ffordd gyda Gibraltar a 14 o wledydd penodol.

Y gwledydd hynny yw:

Awstralia, Barbados, Canada, De Affrica, Gweriniaeth Corea*, Hong Kong, Monaco, Seland Newydd, Siapan, Singapore, y Swistir, Ynysoedd British Virgin, Ynysoedd Ffaröe*, Ynysoedd y Malfinas a Zimbabwe.

Os ydych chi'n ymweld â Gwledydd Prydain dros dro ac â hawl lawn gyffredin, fe gewch chi yrru cerbyd o unrhyw gategori sydd hyd at 3.5 tunnell ac â dim mwy nag wyth o seddi i deithwyr, a ddangosir ar eich trwydded am hyd at 12 mis o'r dyddiad pan ddaethoch i mewn i Brydain ddiwethaf, a hynny os daethoch â'r cerbyd i Brydain ai peidio. Os oes gennych chi hawl lawn hefyd i yrru lorïau neu fysiau mawr, chewch chi ond gyrru cerbydau mawr sydd wedi'u cofrestru y tu allan i Wledydd Prydain a rhaid i chi fod wedi'u gyrru i mewn i'r wlad.

Os ydych chi'n byw yng Ngwledydd Prydain a bod eich trwydded lawn yn ddilys, fe gewch chi yrru cerbydau bach am 12 mis o'r dyddiad y daethoch chi yma i fyw. I sicrhau hawl barhaol i yrru, rhaid cyfnewid eich trwydded am un Prydeinig cyn i'r 12 mis ddod i ben.

Os na wnewch chi hyn rhaid i chi roi'r gorau i yrru er y gallech chi wneud cais am gyfnewid eich trwydded unrhyw bryd o fewn pum mlynedd ar ôl dod yma i fyw.

* Nid oes modd cyfnewid hawl i yrru beic modur o Weriniaeth Corea neu’r Ynysoedd Ffaröe.

Os oes gennych drwydded alwedigaethol

Ni all preswylwyr newydd yrru cerbydau canolig eu maint neu gerbydau mawr neu gerbydau cludo teithwyr nes iddynt basio'r prawf gyrru perthnasol ym Mhrydain. Caiff rhywun sydd â thrwydded yrru alwedigaethol Gibraltar yrru am 12 mis, a chyfnewid trwydded alwedigaethol ddilys o fewn pum mlynedd ar ôl dechrau preswylio yma.

Beth sy’n digwydd os ydych yn gyrru lori, bws neu fws moethus yn broffesiynol

Os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru dramor am drwydded yrru ar gyfer y DU, efallai y bydd yn effeithio ar eich Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) i Yrwyr. Mynnwch wybod pa reolau sy'n gymwys os byddwch yn cyfnewid eich trwydded yrru tra bod gennych CPC i Yrwyr neu os hoffech ei chael.

Allweddumynediad llywodraeth y DU