Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwaharddiad rhag gyrru: cytundebau rhwng Prydain Fawr a gwledydd eraill

Ceir amryw o drefniadau rhwng Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, Iwerddon ac Ynys Manaw sy’n golygu bod y gwledydd yn cydnabod gwaharddiadau rhag gyrru ei gilydd. Yma cewch wybodaeth am y trefniadau hynny rhwng Prydain Fawr a phob gwlad.

Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Er 11 Hydref 2004, mae Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn cydnabod gwaharddiadau rhag gyrru ei gilydd. O ganlyniad:

  • bydd gyrwyr sydd wedi cael eu gwahardd rhag gyrru yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu gwahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr hefyd
  • gellir tynnu trwydded Gogledd Iwerddon yn ôl yn unol â Deddf Traffig y Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) 1995
  • gellir tynnu trwydded Gogledd Iwerddon yn ôl ar sail anabledd ac anabledd posibl

Daeth amodau tebyg i rym yng Ngogledd Iwerddon ar yr un pryd ag ym Mhrydain Fawr.

Prydain Fawr ac Ynys Manaw

Er 23 Mai 2005, mae Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn cydnabod trefniadau gwaharddiadau rhag gyrru Ynys Manaw. Mae hyn yn golygu:

  • bydd gyrrwr sydd wedi’i wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei wahardd rhag gyrru yn Ynys Manaw hefyd
  • bydd gyrrwr sydd wedi’i wahardd rhag gyrru gan lys yn Ynys Manaw yn cael ei wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd nes daw’r gwaharddiad i ben

Nid yw’r canlynol wedi'u cynnwys yn y cynllun hwn:

  • gwaharddiad am gronni gormod o bwyntiau cosb
  • pwyntiau cosb penodedig
  • y Ddeddf Gyrwyr Newydd

Prydain Fawr ac Iwerddon

Ar 28 Ionawr 2010, cafodd y trefniadau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar gyfer gwaharddiadau rhag gyrru eu hymestyn i gynnwys Iwerddon. Mae hyn yn golygu:

  • bydd gyrrwr sy’n preswylio’n arferol ym Mhrydain Fawr ond sydd wedi cael ei wahardd rhag gyrru yn Iwerddon, yn cael ei wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr hefyd
  • bydd gyrwyr sy’n preswylio’n arferol yn Iwerddon ond sydd wedi cael ei wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr, yn cael ei wahardd rhag gyrru yn Iwerddon hefyd
  • bydd y trosedd wedi’i ardystio ar y drwydded yrru am bedair blynedd ar ôl dyddiad yr euogfarn

Nid yw’r canlynol wedi'u cynnwys yn y cynllun hwn:

  • gwaharddiad am gronni gormod o bwyntiau cosb
  • y Ddeddf Gyrwyr Newydd

Mae’r troseddau a gyd-gydnabyddir rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon yn perthyn i chwe chategori ymddygiad.

Categorïau ymddygiad:

Categori

Disgrifiad

MR09

Gyrru’n beryglus neu’n ddiofal (boed hynny wedi arwain at farwolaeth, anaf neu berygl difrifol ai peidio)

MR19

Methiant bwriadol i gyflawni'r ddyletswydd a osodir ar yrwyr ar ôl bod yn rhan o ddamwain ffordd (damwain a dianc)

MR29

Gyrru cerbyd o dan ddylanwad alcohol neu sylwedd arall sy’n lleihau neu’n effeithio ar allu meddyliol a chorfforol y gyrrwr, neu wrthod gwneud prawf alcohol a chyffuriau

MR39

Gyrru cerbyd yn gyflymach na’r cyflymder a ganiateir

MR49

Gyrru cerbyd o dan waharddiad

MR59

Ymddygiad arall sy’n arwain at drosedd y pennwyd gwaharddiad ar ei gyfer yn y Wladwriaeth lle cyflawnwyd y trosedd, a hwnnw’n waharddiad o chwe mis neu ragor

Mwy o ddolenni defnyddiol

Dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd, bydd eich trwydded yrru'n cael ei diddymu os byddwch yn cronni chwech neu ragor o bwyntiau cosb o fewn dwy flynedd i basio'ch prawf gyrru cyntaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU