Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru ar drwyddedau pob gwlad arall, a myfyrwyr ar drwydded dramor

Os ydych chi'n ymwelydd, yn byw neu'n fyfyriwr yng Ngwledydd Prydain (GB) a bod gennych drwydded yrru o'ch gwlad wreiddiol, mae rhai amodau penodol sy'n pennu am ba mor hir y cewch chi yrru a beth y cewch chi ei yrru yng Ngwledydd Prydain.

Offeryn rhyngweithiol

Yr ydym wastad yn ceisio gwella ein gwasanaeth, ac yr ydym wedi creu ffordd i chi dderbyn y gwybodaeth fwyaf cywir sydd wedi ei selio ar eich anghenion unigol yn lle y cynnwys isod. Os yn bosib, defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol a rhowch eich sylwadau i ni ar ôl i chi orffen os gwelwch yn dda.

Ymwelwyr

Ar yr amod bod eich trwydded lawn neu'ch hawlen yrru rhyngwladol yn ddilys, fe gewch chi yrru cerbydau hyd at 3.5 tunnell gyda hyd at wyth o seddi i deithwyr. Fe gewch chi yrru am hyd at 12 mis o'r dyddiad y cyrhaeddoch chi Brydain. Fodd bynnag, chewch chi ond gyrru cerbydau mawr sydd wedi'u cofrestru y tu allan i Brydain a chithau wedi eu gyrru i mewn i'r wlad.

Preswylwyr

Os oes gennych chi drwydded yrru gyffredin neu hawlen yrru ryngwladol ddilys, fe gewch chi yrru unrhyw gerbyd categori bach a ddangosir ar eich trwydded. Fe gewch chi yrru am hyd at 12 mis o'r dyddiad y daethoch chi yma i fyw.

I allu gyrru ar ôl hynny mae'n rhaid i chi gael trwydded Brydeinig dros dro a phasio prawf neu brofion gyrru cyn i'r cyfnod o 12 mis ddod i ben.

Os byddwch chi'n cael trwydded dros dro yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwch chi'n gorfod cydymffurfio ag amodau trwydded dros dro - megis dangos platiau 'L', cael eich goruchwylio gan yrrwr cymwys neu gael eich gwahardd rhag gyrru ar draffyrdd.

Os na fyddwch chi'n pasio prawf o fewn y cyfnod consesiwn o 12 mis, chewch chi ddim gyrru fel person sydd â thrwydded lawn a bydd amodau'r drwydded dros dro yn berthnasol.

Os ydych chi’n dymuno parhau i yrru bydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded yrru Brydeinig dros dro gyda golwg ar basio prawf gyrru. Bydd amodau'r drwydded dros dro wedyn yn berthnasol.

Os na fyddwch chi'n gwneud cais am drwydded dros dro o fewn y 12 mis cyntaf, rhaid i chi roi'r gorau i yrru.

Ni ddylai breswylwyr newydd sydd â thrwydded alwedigaethol (hawl i yrru bws mini, bws neu lori) yrru cerbydau mawr nes eu bod nhw wedi pasio’r prawf gyrru Prydeinig perthnasol.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr prawf gyrru basio prawf car modur (categori B) cyn gwneud cais am hawl dros dro i yrru cerbydau mwy.

Gyrru yng Ngwledydd Prydain fel myfyriwr

Os ydych chi'n fyfyriwr sydd â thrwydded y Gymuned Ewropeaidd, fe gewch chi yrru ceir a beiciau modur ym Mhrydain cyn belled â bod eich trwydded yn ddilys. Os nad oes gennych chi drwydded, rhaid i chi fod wedi bod yn astudio yma am o leiaf chwe mis cyn sefyll prawf gyrru neu wneud cais am drwydded lawn.

Os ydych chi'n fyfyriwr sydd â thrwydded o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd neu â hawlen yrru ryngwladol, fe gewch chi yrru yma am hyd at 12 mis.

Am hyd at bum mlynedd ar ôl y daethoch chi yma i fyw, gallwch wneud cais i gyfnewid eich trwydded yrru o wlad benodol am drwydded Brydeinig. Os nad oes gennych chi drwydded, neu os na roddwyd eich trwydded yn un o'r gwledydd perthnasol, bydd angen i chi wneud cais am drwydded dros dro ac yna basio prawf gyrru. Bydd modd i chi sefyll prawf a chael trwydded lawn unwaith i chi fod yng Ngwledydd Prydain am chwe mis.

Hawlenni gyrru rhyngwladol

Mae’n rhaid i hawlenni gyrru rhyngwladol dilys, a elwir hefyd yn hawlenni confensiwn, gydymffurfio â’r fformatau a osodir yn ddeddfwriaeth ryngwladol. Mae’n rhaid i’r hawlenni fod ar ffurf llyfryn, gyda’r tudalennau gwyn tu fewn wedi’u cyfieithu i ieithoedd lluosog.

Trwyddedau gyrru rhyngwladol

Nid yw’r Cenhedloedd Unedig nac unrhyw un o’i gyrff atodol yn rhoi trwyddedau gyrwyr rhyngwladol, nac yn awdurdodi hynny. Nid yw trwydded yrru ryngwladol yn brawf o hawl i yrru ym Mhrydain Fawr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU