Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Egluro'r drwydded yrru cerdyn-llun a rhan bapur

Mae eich trwydded yrru yn cynnwys cerdyn-llun a rhan bapur. Mae'r ddwy ran yn cynnwys gwybodaeth allweddol, gan gynnwys eich manylion personol, cerbydau y mae gennych hawl i'w gyrru (dros dro ac yn llawn) ac unrhyw ardystiadau a all fod gennych.

Newidiadau i fath y drwydded yrru

O 19 Ionawr 2013 bydd pob trwydded yrru a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) mewn fformat newydd. I gael gwybod mwy am y newid hwn, dilynwch y ddolen isod.

Egluro'r drwydded yrru cerdyn-llun

Bydd eich cerdyn-llun yn cynnwys eich enw llawn, eich dyddiad geni, eich gwlad enedigol a'ch cyfeiriad.

Bydd hefyd yn cynnwys eich rhif gyrrwr, rhif cyhoeddi, dyddiad dechrau a therfyn eich trwydded cerdyn-llun a chopi electronig o'ch llun a'ch llofnod.

Bydd blaen y cerdyn-llun yn dangos y cerbydau y mae gennych hawl i'w gyrru. Os oes gennych drwydded lawn, dangosir eich hawl dros dro ar y rhan bapur.

Os oes gennych drwydded dros dro, dangosir eich hawl dros dro ar flaen eich cerdyn-llun.

Egluro'r rhan bapur y drwydded yrru

Bydd rhan bapur eich trwydded yn cynnwys eich enw llawn a'ch cyfeiriad. Bydd hefyd yn cynnwys rhif cyfeirnod a rhif cyhoeddi eich trwydded bapur a chopi electronig o'ch llofnod.

Bydd y rhan bapur yn dangos unrhyw ardystiadau a all fod gennych ac unrhyw hawl dros dro os oes gennych drwydded lawn.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cerdyn-llun a'r drwydded bapur ar y daflen 'Gwybodaeth am drwyddedau gyrru' INS57P.

Adnewyddu eich trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio

Os ydych wedi colli eich cerdyn-llun a/neu eich trwydded bapur rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd am nad yw'r drwydded yn ddilys oni bai bod gennych y ddwy ran. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel DVLA.

Nodweddion diogelwch

Mae'r drwydded yrru cerdyn-llun a'r rhan bapur yn cynnwys sawl nodwedd ddiogelwch nad oeddent ar gael ar yr hen fersiynau. Un o'r prif wahaniaethau rhwng y ddau yw bod llun du a gwyn ar y cerdyn-llun newydd yn hytrach na llun lliw fel oedd ar yr hen fersiwn.

Mae gan y drwydded yrru wyneb cyffyrddadwy (wedi'i godi), testun cyffyrddadwy wedi'i ysgythru, lliwiau sy'n newid a dyluniadau cefndirol cymhleth hefyd.

Gallwch gael mwy o fanylion am y nodweddion diogelwch newydd yn y daflen 'Trwydded yrru y DU - nodweddion diogelwch lefel 1' IN60/7. Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gael ar daflenni 'Esbonio eich trwydded yrru cerdyn-llun' INF45 a 'Eich trwydded yrru newydd' INF45/1.

Additional links

Arbedwch amser drwy ei wneud ar-lein

Mynnwch wybod pa wasanaethau moduro sydd ar gael ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU