Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais ar-lein i gael trwydded yrru newydd yn lle un arall

Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded yrru Brydeinig newydd yn lle un arall:

  • os yw eich trwydded Brydeinig (lawn neu dros dro) ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio
  • os ydych chi'n byw ym Mhrydain Fawr
  • os ydy eich golwg yn ddigon da i fodloni'r gofyniad sylfaenol
  • os nad ydych wedi’ch rhwystro rhag gyrru ar hyn o bryd am unrhyw reswm
  • os gallwch dalu £20.00 gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd Mastercard, Visa, Electron, Maestro neu Delta
  • os oes gennych basbort dilys y DU neu brawf arall o bwy ydych chi
  • os gallwch ddweud lle rydych chi wedi byw dros y tair blynedd diwethaf

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein os yw’ch enw wedi newid. I wneud cais i newid eich enw mae angen i chi wneud cais drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen gais D1. Am ragor o wybodaeth ar sut i newid eich enw ar eich trwydded yrru, defnyddiwch y ddolen isod.

Os ydych am adnewyddu’r llun ar eich trwydded fel rhan o’ch cais rhaid i chi ddarparu pasbort a gyhoeddwyd o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Ei wneud ar y we – ei wneud yn gyflymach

Sicrhewch fod y canlynol gennych wrth law:

  • rhif eich trwydded yrru, os ydych yn ei wybod
  • cerdyn credyd neu ddebyd dilys
  • eich pasbort y DU os oes gennych un
  • eich rhif Yswiriant Gwladol os oes gennych un
  • manylion cyfeiriadau blaenorol

Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru atoch o fewn dwy wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais.

Darparwyd gan DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU