Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eitemau sydd eu hangen drwy'r post

Efallai y bydd yn rhaid i rai ymgeiswyr, fel rhan o brofion adnabod y DVLA, anfon un neu fwy o'r eitemau canlynol drwy'r post:

  • copi o'r ffurflen wedi'i llofnodi
  • llun
  • math derbyniol o brawf adnabod
  • trwydded yrru

Fe’ch hysbysir am yr hyn sy'n angenrheidiol ar ddiwedd eich cais.

Deiliaid pasport digidol y Deyrnas Unedig

Os oes gennych basport digidol (mae'r llun a'r llofnod ar yr un dudalen ar basportau digidol), dim ond y canlynol y mae angen i chi eu hanfon:

  • copi o'r ffurflen wedi'i llofnodi (ar gael ar ddiwedd y cais)
  • llun

Bydd angen i chi roi eich rhif pasport naw digid hefyd.

Deiliaid pasport digidol nad yw'n basport y DU

Os nad oes gennych chi basport digidol y DU, bydd yn rhaid i chi anfon y canlynol:

  • copi o'r ffurflen wedi'i llofnodi (ar gael ar ddiwedd y cais)
  • llun (efallai y bydd yn rhaid ei lofnodi - manylion ar gael ar ddiwedd y cais)
  • math derbyniol o brawf adnabod

Mae'r DVLA yn derbyn y dogfennau gwreiddiol canlynol fel prawf o bwy ydych chi:

  • pasport dilys llawn cyfredol (gallai hwn fod yn basport tramor)
  • cerdyn adnabod aelod wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewrop (CE/AEE)* heblaw Sweden
  • dogfennau teithio a roddwyd gan y Swyddfa Gartref
  • tystysgrif dinasyddio’r DU

Tystysgrif geni a mabwysiadu y DU

Mae tystysgrifau geni a mabwysiadu y DU hefyd yn dderbyniol. Fodd bynnag, gan nad ydynt yn brawf llwyr o bwy ydych chi, rhaid cael un o'r canlynol gyda hwy:

  • cerdyn Yswiriant Gwladol neu lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol
  • llungopi o dudalen flaen llyfr budd-daliadau neu gopi gwreiddiol o lythyr hawlio budd-daliadau
  • P45, P60 neu slip talu
  • tystysgrif priodas neu bapurau ysgariad (dyfarniad amodol neu derfynol)
  • cerdyn undeb Coleg neu Brifysgol neu gofnod ysgol

Cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru leol os nad oes gennych chi dystysgrif geni neu fabwysiadu, neu os nad yw'r un sydd gennych yn dangos eich enw llawn neu wlad eich geni.

Allweddumynediad llywodraeth y DU