Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnewyddu’r llun ar eich trwydded yrru

O dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd yn rhaid i chi adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru cyn iddi ddod i ben, gan mai dim ond am 10 mlynedd y mae'r llun yn ddilys. Os mai trwydded yrru cyfnod byr sydd gennych (i bobl dros 70 oed neu am resymau meddygol) dim ond pan fydd eich hawl i yrru yn dod i ben y bydd angen i chi adnewyddu'ch llun.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais i adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) sy'n ddiogel ac yn hawdd ei ddefnyddio.

Gwneud cais yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® gyda ffurflen atgoffa i adnewyddu D798

Gallwch wneud cais i adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru mewn cangen ddethol o Swyddfa'r Post®. Os ydych wedi cael ffurflen atgoffa i adnewyddu D798, bydd yn nodi'r canghennau agosaf o Swyddfa'r Post® at eich cyfeiriad. I gael gwybod am ganghennau eraill o Swyddfa'r Post® sy'n cymryd rhan, ewch i wefan Swyddfa'r Post® neu ffoniwch Linell Gymorth Swyddfa'r Post® ar 0845 722 3344.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • ffurflen adnewyddu llun D798
  • rhan cerdyn-llun a rhan bapur eich trwydded yrru os ydyn nhw gennych chi
  • y ffi o £20.00

Codir ffi o £4.50 yn ychwanegol at y ffi adnewyddu am ddefnyddio gwasanaeth Swyddfa'r Post®.

Bydd Swyddfa'r Post® yn cofnodi eich llun, eich llofnod a manylion eich cais ac yn eu hanfon yn ddiogel yn electronig i DVLA er mwyn iddi gyhoeddi trwydded newydd. Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn tair wythnos. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen i DVLA gadarnhau eich manylion meddygol neu'ch manylion personol.

Gwneud cais yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® heb ffurflen atgoffa i adnewyddu

Os na fyddwch, am ba reswm bynnag, yn cael eich ffurflen atgoffa i adnewyddu, efallai y byddwch yn gallu adnewyddu eich llun mewn canghennau dethol o Swyddfa'r Post® o hyd. Bydd angen rhan cerdyn-llun a rhan bapur eich trwydded yrru gyfredol arnoch. Fel arall, os na fyddwch am wneud cais ar-lein nac mewn cangen ddethol o Swyddfa'r Post®, bydd angen i chi gwblhau ffurflen (D1) 'cais am drwydded yrru'. Mae'r ffurflen hon ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA ac mewn canghennau o Swyddfa'r Post®. Gallwch gadarnhau dyddiad terfyn eich llun yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.

Ar gyfer trwyddedau cyfnod byr a phobl dros 70 oed, bydd DVLA yn eich annog i adnewyddu eich llun a'ch hawl i yrru - gweler adran 4b ar eich trwydded ar gyfer dyddiad terfyn eich hawl.

Gwneud cais drwy'r post

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'r ffurflen adnewyddu llun D798
  • anfon llun pasbort newydd o'ch hun sy’n rhaid bod yn dangos gwir debygrwydd diweddar i chi - ni fydd angen i rywun lofnodi cefn y llun
  • dychwelyd cerdyn-llun a rhan bapur eich trwydded - os ydych wedi colli un o'r rhain neu'r ddau gallwch ddefnyddio'r cais hwn o hyd ond bydd angen i chi roi tic yn y blwch perthnasol yn adran un o ffurflen D798
  • amgáu siec neu archeb bost am £20.00 - nid oes angen talu ffi os mai trwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol sydd gennych neu os ydych yn 70 oed ac yn hŷn
  • anfon eich cais a'r ffi (os yw'n berthnasol) i DVLA, Abertawe SA99 1DH

Os ydych wedi newid eich enw, bydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod fel tystiolaeth hefyd.

Beth i ddisgwyl gyda’ch trwydded newydd a phryd i’w disgwyl

Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru newydd atoch o fewn tair wythnos i gael eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os bydd angen cadarnhau eich manylion iechyd neu'ch manylion personol. Dylech ganiatáu o leiaf dair wythnos i'ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â DVLA.

Pan gaiff eich trwydded ei chyhoeddi bydd yn cynnwys sawl nodwedd ddiogelwch ychwanegol. Un o'r prif wahaniaethau fydd y llun du a gwyn wedi'i ysgythru â laser.

Bydd y llun newydd yn ddilys am ddeng mlynedd o’r dyddiad y caiff eich cais ei phrosesu, ac nid o’r dyddiad y daw'r llun ar eich trwydded i ben.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Gallwch yrru cyn i chi gael eich trwydded cyn belled â'ch bod yn bodloni'r canlynol:

  • rydych wedi cael trwydded yrru Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon a gyhoeddwyd ers 1 Ionawr 1976 neu drwydded gyfnewidiadwy arall
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
  • ni wrthodwyd rhoi trwydded i chi am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymchwiliadau meddygol
  • ni fyddai trwydded yn cael ei gwrthod i chi am resymau meddygol - os ydych yn ansicr, gofynnwch i'ch meddyg
  • rydych yn cadw at unrhyw amodau arbennig sy'n berthnasol i'ch trwydded

Mathau eraill o ffurflenni atgoffa DVLA

Bydd DVLA yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi adnewyddu eich llun pan fydd yn anfon ffurflen atgoffa i adnewyddu eich hawl i yrru atoch. Caiff ffurflen atgoffa ei hanfon pan ddisgwylir i chi:

  • adnewyddu ar ôl gwaharddiad
  • adnewyddu pan fyddwch yn 70 oed neu’n hŷn
  • adnewyddu eich hawl i yrru lorïau neu fysiau
  • adnewyddu am resymau meddygol

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU