Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais ar-lein i adnewyddu’r llun ar eich trwydded yrru

Beth mae ei angen arnoch wrth wneud cais ar-lein

I adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru ar-lein, mae angen i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • mae gennych basbort dilys y DU a gyhoeddwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf
  • rydych chi'n byw ym Mhrydain Fawr
  • rydych chi'n gallu talu £20.00 gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd Mastercard, Visa, Electron, Maestro neu Delta
  • nid ydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru ar hyn o bryd am unrhyw reswm
  • darparu eich rhif Yswiriant Gwladol os oes gennych un
  • rydych chi'n gallu darparu cyfeiriadau lle rydych chi wedi byw dros y tair blynedd diwethaf
  • mae eich trwydded yrru gennych (os nad yw eich trwydded yrru gennych chi, bydd yn rhaid i chi egluro pam yn eich cais)

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein os yw’ch enw wedi newid. I wneud cais i newid eich enw mae angen i chi wneud cais drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen gais D1. Am ragor o wybodaeth ar sut i newid eich enw ar eich trwydded yrru, defnyddiwch y ddolen isod.

Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru atoch o fewn pythefnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais.

Darparwyd gan DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU