Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau preswylio

Er mwyn i yrrwr allu sefyll prawf gyrru, bydd yn rhaid iddo gael trwydded yrru dros dro. I wneud cais am drwydded yrru dros dro, mae’n rhaid i chi fod yn preswylio'n arferol yn y DU am fwy na 185 o ddiwrnodau.

Wrth wneud cais am drwydded yrru, ni ystyrir bod ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU nac yn ddinasyddion gwladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd neu’n Ardal Economaidd Ewrop (UE/AEE) yn preswylio’n arferol yn y DU:

  • os nad oes ganddynt ganiatâd i aros yn y DU
  • os ydynt yn y wlad dros dro ac nad oes ganddynt ganiatâd i aros yn y DU tra byddant naill ai’n aros am benderfyniad ynghylch eu cais i aros yn y DU neu'n dilyn penderfyniad yn gwrthod cais o'r fath

I gael trwydded yrru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), bydd gofyn hefyd bod gennych gyfeiriad parhaol yng Nghymru, yn Lloegr neu yn yr Alban.

Rheolau preswylio ar gyfer gyrwyr yn yr UE/AEE sy'n dymuno sefyll prawf gyrru Prydain Fawr

Gan amlaf bydd yn rhaid i yrwyr yn yr UE/AEE sy’n dymuno pasio'r prawf cyntaf, neu gael hawliau ychwanegol, fod yn preswylio'n arferol yn y DU. Fel rheol, rhaid i yrwyr sydd wedi symud i’r DU ar ôl bod yn byw'n barhaol mewn gwladwriaeth arall yn yr UE/AEE fod wedi byw yn y DU am 185 diwrnod yn y 12 mis diwethaf cyn gwneud cais am brawf gyrru a thrwydded lawn. Mae preswylfa arferol yn cyfeirio at y man lle mae unigolyn yn byw fel arfer lle mae ganddo gysylltiadau personol a/neu alwedigaethol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU