Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael eich trwydded yrru'n ôl ar ôl gwaharddiad

Rhaid i chi wneud cais am drwydded yrru newydd cyn i chi ddechrau gyrru ar ôl i gyfnod eich gwaharddiad ddod i ben. Gallwch wneud cais i adnewyddu'ch trwydded hyd at 56 diwrnod cyn i'r gwaharddiad ddod i ben.

Llythyr atgoffa

Bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn anfon ffurflen D27P atoch, sef ‘cais i adnewyddu trwydded yrru ar ôl gwaharddiad’, 56 diwrnod cyn i'ch gwaharddiad ddod i ben.

Os oes gennych drwydded sydd heb ei chyhoeddi gan Brydain Fawr

Bydd y DVLA yn anfon eich trwydded sydd heb ei chyhoeddi gan Brydain Fawr atoch ar y diwrnod y bydd eich gwaharddiad yn dod i ben, i’r cyfeiriad sydd ar gofnodion y DVLA. Os ydych yn dymuno newid eich trwydded am un Brydeinig bydd angen i chi gyflwyno ffurflen gais D1.

Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'ch ffurflen D27P
  • amgáu'r taliad fel y dangosir ar y ffurflen atgoffa
  • anfon eich ffurflen gais wedi'i llenwi i DVLA, Abertawe, SA99 1AB

Os yw'ch enw wedi newid bydd angen i chi anfon y canlynol (yn ogystal â'r uchod):

  • ffurflen D1 wedi'i llenwi (ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®)
  • dogfen wreiddiol yn cadarnhau'ch enw newydd

Bydd neges ar eich ffurflen D27P yn dweud wrthych hefyd a yw'n amser i chi adnewyddu'ch llun, ac a fydd angen i chi gynnwys llun math pasbort newydd.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'ch ffurflen D27P
  • darparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
  • amgáu llun math pasbort, a'r taliad, fel y dangosir ar y ffurflen atgoffa
  • anfon eich holl ddogfennau at DVLA, Abertawe, SA99 1AB neu gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post®, neu mewn swyddfeydd DVLA lleol

Adnewyddu heb ffurflen D27 - ‘cais i adnewyddu trwydded yrru ar ôl gwaharddiad’

Os na fyddwch, am unrhyw reswm, yn cael y ffurflen atgoffa, gallwch lenwi ffurflen ‘cais am drwydded yrru’ D1. Mae hon ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®. Dylech hefyd amgáu'r ffi briodol i adnewyddu ar ôl gwaharddiad.

Os oes angen i chi adnewyddu eich hawl i yrru lori neu fws dim ond ffurflen D2 ‘cais am drwydded yrru ar gyfer lorïau, bysiau neu fysiau mini’ y bydd angen i chi ei llenwi. Mae hon ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni’r DVLA neu gan swyddfeydd DVLA lleol.

Os ydych am newid eich llun ar eich trwydded, gallwch amgáu un gyda'ch cais.

Pryd fydd eich trwydded yrru newydd yn cyrraedd

Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.

Os ydych chi wedi'ch gwahardd am rai troseddau'n ymwneud ag alcohol, bydd DVLA yn cynnal ymholiadau meddygol cyn y gellir adnewyddu'ch trwydded yrru.

Dyma'r troseddau hyn:

  • wedi'ch gwahardd gyda lefel alcohol uwch na: 200mg mewn 100ml o waed; neu 87.5mg mewn 100ml o anadl; neu 267.5mg mewn 100ml o wrin
  • wedi'ch gwahardd ddwywaith mewn 10 mlynedd am droseddau penodol yn ymwneud ag alcohol
  • wedi'ch gwahardd am fethu â rhoi sampl neu wrthod rhoi sampl (gwaed, anadl neu wrin) i'w brofi

Am ragor o wybodaeth darllenwch y daflen wybodaeth isod.

Pan fyddwch yn cael eich trwydded bydd ganddi nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Unwaith y bydd DVLA wedi cael eich cais dilys, cewch yrru cyn i chi gael eich trwydded cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru (mae rheolau gwahanol i yrwyr cerbydau canolig neu fawr, bysiau mini neu fysiau - comisiynydd traffig eich ardal fydd yn penderfynu a fydd gennych hawl i yrru’r cerbydau hyn)
  • nid ydych wedi cael eich gwrthod trwydded yrru am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddwch yn cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded

Additional links

Gwybod eich terfyn

Cael gwybod faint o unedau o alcohol sydd yn eich hoff ddiodydd, sut i mwynhau diod yn gyfrifol a mwy

Meddwl ynghylch dysgu sut i yrru?

Gwnewch gais am eich trwydded yrru dros dro drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU